Canllawiau

Porthol Cofrestrfa Tir EF: 'Reply to requisition'

Sut gall cwsmeriaid e-wasanaethau busnes ateb ymholiadau gan ddefnyddio'r porthol.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer nad yw’r swyddogaeth hon ar gael ar gyfer ceisiadau Business Gateway ar hyn o bryd .

Os cyflwynwyd eich cais gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF neu trwy’r post, gallwch ateb ymholiad gan ddefnyddio’ch cyfrif porthol.

Ychwanegu dogfennau a/neu nodiadau at gais sy’n bodoli

Os ydych yn sylweddoli, ar ôl cyflwyno cais, eich bod wedi anghofio cyflwyno dogfen neu wybodaeth berthnasol, gallwch ei hychwanegu trwy ddefnyddio’r swyddogaeth ‘Reply to Requisition’, hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r cais. Gallwch ddefnyddio ‘Reply to Requisition’ hyd yn oed os nad ydych wedi cael ymholiad gennym.

Reply to requisition

Gwnewch yn siwr bod unrhyw ddogfennau y gofynnwyd amdanynt wedi cael eu sganio.

Mewngofnodwch i’r porthol.

  1. Dewiswch ‘Reply to Requisition’.

  2. Adnabod y cais: nodwch gyfeirnod neu rif teitl Cofrestrfa Tir EF ar gyfer y cais gwreiddiol a dewiswch ‘Search’. Dewiswch y cais priodol.

  3. Atodiadau: dogfen: dewiswch ‘Choose file’ i ddod o hyd i’r ddogfen rydych yn ei hatodi.
    Rhaid ichi ddewis y datganiad ardystio cywir ar gyfer pob dogfen a atodir neu efallai caiff eich cais ei oedi.
    Dewiswch ‘Attach’.
    Nodiadau: ychwanegwch unrhyw nodiadau esboniadol i gefnogi (neu yn lle) unrhyw atodiadau, neu i roi ateb testun i ymholiad.

Ailadroddwch yn ôl yr angen ac ar ôl i’r holl ddogfennau gofynnol gael eu hatodi, gwasgwch ‘submit’.

Gofyn am ragor o amser i ateb

Mewngofnodwch i’r porthol.

  1. Dewiswch ‘Reply to Requisition’.

  2. Adnabod y cais: nodwch gyfeirnod neu rif teitl Cofrestrfa Tir EF ar gyfer y cais gwreiddiol a dewiswch ‘Search’. Dewiswch gais o’r rhestr.

  3. Atodiadau: Math o ddogfen: dewiswch ‘Correspondence’ yna ‘Choose file’. Dewch o hyd i a dewiswch y ddogfen rydych am ei chyflwyno i gefnogi’ch cais am estyniad. Dewiswch ‘Attach’.

  4. Dewiswch ‘Submit’ o ben y dudalen.

Rhaid i’r ddogfen a atodir nodi’r canlynol:

  • y rheswm am y cais

  • crynodeb o’r dyddiadau pan fuoch yn holi am y materion sydd heb eu datrys

  • tystiolaeth, os yw’r oedi gyda thrydydd parti neu y tu hwnt i’ch rheolaeth

Rhaid ichi ddewis y datganiad ardystio cywir ar gyfer pob dogfen a atodir, neu efallai bydd oedi gyda’ch cais.

Gallwch ychwanegu nodyn i gefnogi atodiad, neu i ddarparu ymateb testun i gais am wybodaeth. Ni allwch ofyn am estyniad gan ddefnyddio’r blwch testun nodiadau.

Gallwch ailadrodd y broses hon os oes angen ichi atodi mwy nag un ddogfen i gefnogi’ch cais.

Allgofnodi

Ar ôl ichi gwblhau eich tasgau, dewiswch ‘Logout’ ar ben y sgrin i adael y system yn ddiogel.

Gwybodaeth bellach

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Mai 2021 + show all updates
  1. Added how to ask for more time to reply to a request for information (requisition).

  2. First published.

Print this page