Sut mae CThEF yn ymgynghori â Busnesau Mawr
Dysgwch sut mae CThEF yn gweithio gyda chwsmeriaid sy’n fusnesau mawr yn y DU.
Ymgynghori â chwsmeriaid sy’n fusnesau mawr
Mae CThEF yn ymgysylltu â chwsmeriaid sy’n fusnesau mawr drwy sawl fforwm.
Y Fforwm Treth Busnes
Mae’r Fforwm Treth Busnes (yn agor tudalen Saesneg) yn grŵp lefel strategol, sy’n bodoli i wella gweithrediad y system dreth ar gyfer CThEF ac ar gyfer busnesau mawr.
Grŵp y 6 Asiant Treth Mawr
Rydym yn cwrdd ag uwch gynrychiolwyr o asiantau treth mwyaf y DU i feithrin dealltwriaeth ac i wella gweithrediad y system dreth ar gyfer CThEF, asiantau a’r busnesau y maent yn eu gwasanaethu.
Y Cydbwyllgor Ymgynghorol TAW (JVCC)
Mae CThEF yn cyfarfod â nifer o aelod-sefydliadau o fewn y Cydbwyllgor Ymgynghorol TAW (yn agor tudalen Saesneg), 4 gwaith y flwyddyn, i drafod gweithdrefnau a gweithrediadau TAW. Mae hyn yn helpu i gynyddu ein dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid.
Fforymau Atal Twyll
Mae CThEF yn darparu ‘man diogel’ ar gyfer addysg strategol gyda ffocws ar Droseddau Corfforaethol (yn agor tudalen Saesneg), risgiau osgoi treth a thueddiadau cyllidol anghyfreithlon ehangach.
Ar hyn o bryd mae fforymau sefydledig yn cynnwys y ffforymau atal twyll ar gyfer bancio, yswiriant ac adeiladu.
Arolwg o Fusnesau Mawr
Mae CThEF yn cynnal yr Arolwg o Gwsmeriaid sy’n Fusnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg) bob blwyddyn ac mae’n bosibl y bydd yn cysylltu â’r Pennaeth Treth neu’r Cyfarwyddwr Cyllid yn eich busnes er mwyn eich gwahodd i gymryd rhan.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Medi 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Medi 2024 + show all updates
-
Added translation
-
The 'Large Business Survey' section has been updated to link to a new page that now houses all surveys from 2018 to 2023.
-
The Large Business Customer Survey 2023 has been added.
-
A Welsh language version of this content has been added.
-
Framework for co-operative compliance section has been added.
-
Page title updated. Objectives of the strategy clarified. Added updated sections on Business Risk Reviews, large business consultation forums and the Large Business Survey, combining information from other pages. What HMRC Will Deliver section removed, as outdated.
-
First published.