Cysylltu'r ap GOV.UK ID Check i GOV.UK
Sut i gysylltu'r ap i'r wefan os ydych angen profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login.
Mae angen i chi gysylltu’r ap GOV.UK ID Check i’r wefan GOV.UK cyn y gallwch ei ddefnyddio i brofi eich hunaniaeth. Mae hyn yn cadarnhau mai chi yw’r un person a wnaeth mewngofnodi i’ch GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth y llywodraeth.
Sut i gysylltu’r ap
Fel arfer mae’r ap yn cysylltu â GOV.UK yn awtomatig. Os nad yw hyn yn gweithio gallwch geisio cysylltu’r ap â llaw yn lle hynny.
- Agorwch yr ap a thapiwch y botwm Parhau.
- Tapiwch Parhau eto os gofynnir i chi ddefnyddio ‘GOV.UK’ i fewngofnodi. Bydd hyn yn agor sgrin newydd.
- Tapiwch y botwm Cysylltu ap i barhau.
Mae beth sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar ba ddyfais rydych yn ei defnyddio
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu dabled
Bydd angen i chi sganio cod QR arall i gysylltu’r ap
Mae hyn yn is i lawr ar yr un dudalen â’r cod QR y gwnaethoch ei sganio i lawrlwytho’r ap. Efallai y bydd angen i chi sgrolio i lawr i’w weld.
Os ydych wedi cau’r ffenestr neu dab roeddech yn ei defnyddio i edrych ar y dudalen hon, ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych eisiau ei ddefnyddio a cheisiwch brofi eich hunaniaeth eto.
Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar
Defnyddiwch newidiwr ap eich ffôn i adael yr ap a mynd yn ôl i’ch porwr gwe. Gwnewch yn siŵr rydych yn agor yr un porwr gwe gwnaethoch ei ddefnyddio pan ddechreuoch chi geisio profi eich hunaniaeth.
Tapiwch y botwm Cysylltu GOV.UK ID Check. Efallai y bydd angen i chi sgrolio i lawr i’w weld.
Os na allwch gysylltu â’r ap â llaw
Mae ychydig o bethau y gallwch eu ceisio os nad yw cysylltu â’r ap â llaw yn gweithio.
Gwirio eich bod wedi dechrau defnyddio gwasanaeth y llywodraeth
Ni allwch ddefnyddio’r ap oni bai eich bod wedi mewngofnodi i GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth y llywodraeth. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud hyn cyn ceisio cysylltu â’r ap.
Gwiriwch ba wasanaeth gallwch ei ddefnyddio gyda GOV.UK One Login.
Gwirio bod yr ap yn gweithio ar eich ffôn clyfar
Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio naill ai:
- iPhone 7 neu’n fwy newydd ac yn rhedeg ar iOS 14 neu’n uwch gyda Safari, Chrome neu Firefox fel eich porwr gwe diofyn
- ffôn Android (er enghraifft Samsung neu Google Pixel) sy’n rhedeg ar 10 neu’n uwch gyda Chrome neu Firefox fel eich porwr gwe diofyn
Gwiriwch nad yw eich porwr gwe mewn dull preifat
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn edrych ar GOV.UK mewn ffenestr preifat yn eich porwr gwe. Gelwir hyn yn ‘Incognito’ yn Chrome.
Ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych angen ei ddefnyddio a dechreuwch eto
- Caewch bob ffenestr neu dab sydd gennych ar agor.
- Agorwch ffenestr neu dab newydd yn eich porwr gwe ac ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych angen ei ddefnyddio.
- Mewngofnodwch i GOV.UK One Login a cheisiwch brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login eto.
Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Updated to clarify that the GOV.UK Check ID app works on phones that have Firefox as their default web browser.
-
Expanded the guidance to include additional context for users who might come directly to this guidance from the app itself.
-
Added translation