Canllawiau

Carchar Lerpwl

Mae Carchar Lerpwl yn garchar i ddynion yn ardal Walton yn Lerpwl.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Lerpwl

I ymweld â rhywun yng Ngharchar Lerpwl, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad o leiaf 48 awr ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall person eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Lerpwl.

Cysylltwch â Charchar Lerpwl os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Garchar Lerpwl
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Llinell archebu dros y ffôn: 0151 530 4050
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:30am i 4:30pm

Costau galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Llun i ddydd Sul: 1:45pm i 2:45pm a 3:15pm i 4:15pm

Bydd ymweliadau’n cael eu canslo ar gyfer pobl sy’n cyrraedd yn hwyr. Cyrhaeddwch 30 munud cyn eich slot amser ymweld er mwyn rhoi amser i fynd i mewn i’r carchar. Byddwch chi’n cael awr gyfan o’r amser y byddwch chi’n mynd i mewn i’r neuadd ymweliadau.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gallwch chi drefnu ymweliad cyfreithiol drwy anfon e-bost at [email protected].

Amseroedd ymweliadau cyfreithiol:

  • Dydd Mawrth: 8:50am, 9:06am, 10:21am, 10:35am, 1:50pm, 2:05pm, 3:20pm, 3:35pm
  • Dydd Iau: 8:50am, 9:06am, 10:21am, 10:35am, 1:50pm, 2:05pm, 3:20pm, 3:35pm

Mae pob slot yn 1 awr o hyd.

Sut i drefnu ymweliadau cyswllt fideo

Gallwch chi drefnu ymweliadau cyswllt fideo drwy anfon e-bost at [email protected].

Amseroedd ymweliadau cyswllt fideo:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 10am, 10am i 11am, 11am i 12pm, 2pm i 3pm a 3pm i 4pm.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ar ddiwrnod eich ymweliad yn unig, gallwch chi ffonio 0151 530 4249.

Cyrraedd Carchar Lerpwl

Dod o hyd i Garchar Lerpwl ar fap

Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw Walton a Rice Lane. Mae Carchar Lerpwl tua 5 munud ar droed o’r naill orsaf neu’r llall. Gallwch chi hefyd deithio ar fws o ganol dinas Lerpwl.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Bws: O ganol dinas Lerpwl, cymerwch y bws 68 sy’n eich gollwng yn uniongyrchol y tu allan i’r carchar. Dyma’r unig fws sy’n teithio ar hyd Hornby Road.

Trên: O orsaf Lerpwl Canolog gallwch chi deithio i orsafoedd trên Walton neu Rice Lane, mae’r ddau ar Hornby Road.

Car: Cyffordd 6 M62 ar yr M57. Gadewch wrth gyffordd 6. Ar y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf i’r A506. Trowch i’r chwith ar yr A59, wrth y goleuadau traffig trowch i’r dde ar yr A5098 i gyrraedd Hornby Road.

Tacsis lleol: Delta 0151 924 7373

Maes Parcio: Mae maes parcio ar gael ar y ffordd sy’n wynebu’r carchar am uchafswm o

Mynd i mewn i Garchar Lerpwl

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

  • Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.
  • Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar sy’n berthnasol, a gellir gofyn am ragor o fanylion ar eich ymweliad cyntaf.
  • Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Lerpwl. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych mewn locer yn y ganolfan ymwelwyr neu yn eich car - mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi car
  • Ffoniwch POPS ar 0151 5304 158 os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan Bartneriaid Carcharorion (POPS).

Mae ar agor bob dydd rhwng 8:30am a 5pm.

Ffôn: 0151 530 4158
Gwybodaeth am gost galwadau

Mae man chwarae meddal ar gyfer plant yn y neuadd ymweld. Mae Lerpwl hefyd yn darparu pecynnau gweithgareddau.

Diwrnodau teulu

Mae POPS yn cynnal 6 diwrnod teulu bob blwyddyn.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Lerpwl

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Lerpwl.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau bob dydd rhwng 6:30am a 11pm.

Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Lerpwl drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Lerpwl.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Lerpwl.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae gan bobl yng Ngharchar Lerpwl restr o eitemau cymeradwy y gall teulu a ffrindiau eu rhoi iddyn nhw yn ystod eu 28 diwrnod cyntaf yn y carchar.

Gellir anfon eitemau drwy’r post neu eu cyflwyno cyn ymweliadau o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.

Rhaid i chi fod wedi trefnu ymweliad ar gyfer rhoi unrhyw beth i mewn, neu fel arall ni fydd yn cael ei dderbyn.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.   I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ac enw a chyfeiriad yr anfonwr ar y parsel. Bydd pob eitem yn cael ei hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Fel arfer, nid yw eitemau a pharseli yn cael eu derbyn ar ôl y 28 diwrnod cyntaf. Gallwch anfon arian at garcharorion yn lle hynny y gallant ei ddefnyddio i brynu eitemau drwy system gatalog.

Cysylltwch â Charchar Lerpwl os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Bywyd yng Ngharchar Lerpwl

Mae Carchar Lerpwl wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Lerpwl hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Mae’r Samariaid hefyd yn hyfforddi carcharorion i fod yn ‘wrandawyr’ i helpu i gefnogi carcharorion sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Lerpwl am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Lerpwl yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 750 o garcharorion yn byw yng Ngharchar Lerpwl ar draws 8 adain. Mae cymysgedd o gelloedd sengl a chelloedd sy’n cael eu rhannu.

Mae gan garcharorion fynediad at ystafell pwysau, offer ymarfer corff, neuadd chwaraeon a chaeau awyr agored. Mae’r adran addysg gorfforol yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau tîm a hyfforddiant cylchol.

Addysg a gwaith

Mae addysg yng Ngharchar Lerpwl yn cael ei ddarparu Novus. Gall carcharorion ddysgu sgiliau pwysig, fel Saesneg a Mathemateg, a hyfforddi mewn amrywiaeth o broffesiynau gan gynnwys plastro, peintio ac addurno, arlwyo, adeiladu, glanhau diwydiannol a TG. Mae pynciau’n cael eu dewis i gyfateb i gyfleoedd yn y farchnad swyddi leol. Mae Carchar Lerpwl yn gweithio gydag asiantaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd i helpu i arwain carcharorion i gyflogaeth ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau.

Mae Carchar Lerpwl yn cynnal nifer o weithdai diwydiannol sy’n darparu cyflogaeth i garcharorion. Mae’r rhain yn cynnwys y gweithdy lledr, sy’n cynhyrchu nwyddau lledr ar gyfer carchardai, a’r golchdy, sy’n prosesu contractau glanhau masnachol mewnol ac allanol.

Mae Carchar Lerpwl hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau datblygiad cymdeithasol a phersonol sy’n canolbwyntio ar adsefydlu a hunanwella.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yng Ngharchar Lerpwl, anfonwch e-bost at: [email protected]

Cefnogaeth yng Ngharchar Lerpwl

Gall Partneriaid Carcharorion (POPS) a’r gaplaniaeth ddarparu cymorth unigol i deuluoedd a ffrindiau carcharorion gydag amrywiaeth eang o broblemau.

I siarad â POPS, ffoniwch 0151 530 4158.

I siarad â’r gaplaniaeth, ffoniwch brif rif ffôn Carchar Lerpwl.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 0151 530 4000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 0800 528 0970 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at [email protected] neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall cysylltwch â Charchar Lerpwl.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Carchar Lerpwl mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Charchar Lerpwl

Llywodraethwr: Rob Luxford

E-bost: [email protected]
Ffôn (24 awr): 0151 530 4000
Ffacs: 0151 530 4001
Gwybodaeth am gost galwadau

Dilynwch Garchar Lerpwl ar Twitter/X

Cyfeiriad

HMP Liverpool
68 Hornby Road
Liverpool
L9 3DF

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Mawrth 2023 + show all updates
  1. Updated legal visits booking and video link booking information.

  2. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  3. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  4. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  5. Updated physical contact guidance

  6. New visiting times and booking information added.

  7. Updated visit info

  8. Updated prison visits

  9. Updated instructions for sending money to prisoners via non-digital methods.

  10. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  11. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  12. Updated vsiting times for family and friends.

  13. Added visiting times in line with coronavirus restrictions.

  14. Updated: HMP Liverpool visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.

  15. Added confirmation of secure video calls made available at Liverpool prison.

  16. update survey link

  17. Prison visits update.

  18. First published.

Print this page