Gwneud hawliad hwyr drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Darganfyddwch a allwch wneud hawliad hwyr os ydych wedi methu’r dyddiad cau a sut i wneud hyn. Gallwch hefyd wirio arweiniad ar gyfer y cynllun.
Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021. 14 Hydref 2021 oedd y dyddiad olaf i wneud cais ar gyfer mis Medi.
Ar gyfer cyfnodau hawlio o 1 Tachwedd 2020 ymlaen, gall CThEM dderbyn hawliadau hwyr neu ddiwygiadau os yw’r canlynol yn wir:
-
Gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i geisio hawlio mewn pryd.
-
Mae gennych esgus rhesymol.
-
Gwnaethoch hawlio cyn gynted ag y daeth eich esgus rhesymol i ben.
Cyn gynted ag y byddwch yn barod i wneud hawliad neu ddiwygiad hwyr, mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Gwirio os oes gennych esgus rhesymol.
-
Gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i brosesu’ch cais.
-
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r llinell gymorth i wirio gydag ymgynghorydd os gallwch hawlio.
Os derbynnir eich esgus rhesymol, bydd yr ymgynghorydd yn prosesu’ch hawliad dros y ffôn.
Enghreifftiau o esgusodion rhesymol
Gallai esgus rhesymol gynnwys:
- bu farw’ch partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
- roedd yn rhaid i chi aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, ac roedd hynny wedi’ch atal rhag hawlio
- roedd gennych salwch difrifol, neu un a oedd yn bygwth eich bywyd, gan gynnwys salwch cysylltiedig â choronafeirws (COVID-19), a wnaeth eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad (ac ni allai neb arall hawlio ar eich rhan)
- gwnaeth cyfnod o hunanynysu eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad (ac ni allai neb arall hawlio ar eich rhan)
- roedd eich cyfrifiadur neu’ch meddalwedd wedi methu’n union cyn paratoi’ch hawliad ar-lein, neu tra oeddech yn gwneud hynny
- gwnaeth problemau gyda gwasanaethau ar-lein CThEM eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad
- roedd tân, llifogydd neu ladrad wedi’ch atal rhag gwneud eich hawliad
- roedd oedi drwy’r post na allech fod wedi’i ragweld wedi eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad
- roedd oedi sy’n gysylltiedig ag anabledd wedi’ch atal rhag cyflwyno’ch hawliad
- gwnaeth gwall ar ran CThEM eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad
Os gwnaethoch wall yn eich hawliad ac na chawsoch ddigon o arian, mae’n dal i fod yn rhaid i chi dalu’r swm cywir i’ch cyflogeion.
Gwirio arweiniad ar gyfer y cynllun
Gallwch ddarllen arweiniad i wirio’r canlynol:
-
Arweiniad ar gyfer gwneud hawliad(pan oedd y cynllun ar agor).
-
Sut i roi gwybod am daliadau drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.
Gallwch hefyd ddarllen fersiynau blaenorol o’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn yr Archifau Gwladol.
Cysylltu â CThEM
Gallwch gysylltu â CThEM os na allwch gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.
Nid oes hawl i apelio os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Dylech gysylltu â ni os ydych o’r farn nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd:
- gwall gan CThEM
- oedi afresymol a achoswyd gan CThEM
Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y gwnaethom ymdrin â’ch cwyn.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 29 Hydref 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Awst 2022 + show all updates
-
Information and link to HMRC's digital assistant removed from the 'Contacting HMRC' section.
-
Added translation