Symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol
Gallwch ddal i gael Budd-dal Tai am 2 wythnos ar ôl i chi symud i Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol bydd eich Budd-dal Tai yn dal i gael ei dalu am 2 wythnos ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith y mis. Mae’r 2 wythnos ychwanegol o Fudd-dal Tai i helpu gyda’ch costau tai tra rydych yn disgwyl am eich taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol. Nid oes angen i chi ei dalu’n ôl.
Ni fydd y 2 wythnos ychwanegol o Fudd-dal Tai yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.
Nid oes angen i chi gysylltu â DWP neu eich cyngor lleol i gael y 2 wythnos ychwanegol yma o Fudd-dal Tai. Bydd yn cael ei dalu’n awtomatig pan fyddwch yn gwneud cais cyntaf am Gredyd Cynhwysol.
Byddwch ond yn cael y 2 wythnos ychwanegol o Fudd-dal Tai unwaith, bydd hyn pan fyddwch yn gwneud cais cyntaf am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych angen help i dalu eich biliau neu gostau eraill tra rydych yn disgwyl am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw.
Sut y cewch eich talu
Eich cyngor fydd yn talu’r 2 wythnos ychwanegol o Fudd-dal Tai.
Os yw eich Budd-dal Tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi
Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei dalu i chi yn unol â’ch cylch talu Budd-dal Tai arferol.
Os yw eich Budd-dal Tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
Bydd yr arian ychwanegol fel arfer yn cael ei dalu i’ch landlord yn unol â’r cylch talu Budd-dal Tai arferol.
Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd eich bod wedi newid cyfeiriad, bydd yr arian ychwanegol yn cael ei dalu i chi. Mae hyn oherwydd efallai na fydd manylion eich landlord newydd gan y cyngor.
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent
Dylech gysylltu â’ch landlord i drafod sut y gallant ddefnyddio’r arian ychwanegol i helpu i dalu’r hyn sy’n ddyledus.
Os nad oes gennych ôl-ddyledion rhent
Dylech gysylltu â’ch landlord i ofyn iddynt:
- roi’r arian ychwanegol tuag at eich taliad rhent nesaf (fel eich bod yn talu llai o rent y mis nesaf)
- talu’r arian ychwanegol i chi
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol mewn llety dros dro neu dai argyfwng
Ni allwch gael help gyda chostau tai gyda Chredyd Cynhwysol os:
- mae eich cyngor wedi eich gosod mewn llety dros dro oherwydd eich bod yn ddi-gartref
- rydych mewn tai cymorth neu gysgodol
- rydych yn aros mewn hostel
Mae eich costau tai yn cael eu talu gan Fudd-dal Tai.
Os ydych yn symud allan o lety dros dro, tai cymorth neu gysgodol neu hostel pan ydych eisoes yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ni fyddwch yn cael y 2 wythnos ychwanegol o Fudd-dal Tai. Mae hyn oherwydd bod y taliad o 2 wythnos ychwanegol i’ch helpu pan rydych yn gwneud eich cais cyntaf am Gredyd Cynhwysol ac rydych yn symud o Fudd-dal Tai.
Didyniadau o’ch Budd-dal Tai
Os oedd eich cyngor yn gwneud didyniadau o’ch Budd-dal Tai, er enghraifft i dalu gordaliad yn ôl, bydd y didyniadau hynny hefyd yn cael eu cymryd o’r 2 wythnos ychwanegol o Fudd-dal Tai.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 11 Ebrill 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Awst 2019 + show all updates
-
Added information about staying in a hostel.
-
First published.