Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau - canllaw i ymddiriedolwyr
Sut mae ymddiriedolwyr yn sefydlu eu Cyfrif Comisiwn Elusennau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Gofyn am gyfrif
Gall pob ymddiriedolwr gael cyfrif i gael mynediad at wasanaethau ar-lein ar ran eu helusen neu elusennau. Bydd angen dolen gan gyswllt eich elusen arnoch i sefydlu cyfrif. Os nad ydych yn siŵr pwy yw cyswllt eich elusen, holwch yr ymddiriedolwyr eraill.
Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost cofrestredig yn un rydych chi’n ei ddefnyddio yn unig a’r cyfeiriad sydd ei eisiau arnoch yn gysylltiedig â’ch cyfrif.
Gosod eich cyfrif
Gwyliwch am e-bost â’ch dolen osod. Wrth sefydlu’ch cyfrif, gofynnir i chi ddilysu eich dyddiad geni a chreu eich cyfrinair eich hun.
Dilyswch eich dyddiad geni
Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich dyddiad geni fel y gallwn wirio pwy ydych.
Os na dderbynnir y dyddiad geni y byddwch yn ei nodi, gallai hyn fod oherwydd nad oedd wedi’i gofrestru’n gywir.
Bydd angen i chi siarad â chyswllt eich elusen a all ei ddiwygio i chi
Creu cyfrinair
Sicrhewch fod gan eich cyfrinair o leiaf:
- 10 nod
- 1 rhif
- 1 prif lythyren
Mynediad a chaniatâd
Gyda’ch cyfrif wedi’i sefydlu, byddwch yn gallu:
- cyrchu ein holl wasanaethau ar-lein ar gyfer eich elusen
- diweddaru a chynnal eich manylion personol eich hun
- gweld enwau a chyfeiriadau e-bost ymddiriedolwyr eraill a dyddiadau eu penodiad
- rhwystro cyswllt yr elusen a’r uwch weinyddwr rhag gweld eich gwybodaeth bersonol
Ni fyddwch yn gallu ychwanegu ymddiriedolwyr at yr elusen, na gweld neu olygu gwybodaeth bersonol ymddiriedolwyr eraill.
Gall gweinyddwr roi rhai caniatadau gweinyddwr i chi reoli defnyddwyr eraill.
Os byddant yn cael eu rhoi bydd angen i chi alluogi caniatadau gweinyddwr (mae’r ffolen hon yn agor tudalen newydd). Mae hyn i gadarnhau bod eich mynediad wedi’i awdurdodi gan yr ymddiriedolwyr eraill.
Materion cyffredin
Dewch o hyd i gymorth â phroblemau cyffredin (mae’r ddolen hon yn agor tudalen newydd) wrth fewngofnodi i a defnyddio eich cyfrif.