Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP): Prosbectws Cyn-ymgeisio 2024 – Cwestiynau Cyffredin

Rhestr o gwestiynau cyffredin am y Prosbectws Cyn-ymgeisio Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Pryd byddwch yn dechrau codi tâl am y gwasanaethau cyn-ymgeisio? 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynnal ymarfer mynegi diddordeb rhwng 29 Mai 2024 a 10 Gorffennaf 2024, gan ofyn i ymgeiswyr fynegi pa un o’r tair haen cyn-ymgeisio yr hoffent ymwneud â hi ar gyfer pob NSIP (Sylfaenol, Safonol neu Fanylach). Ar hyn o bryd, bwriedir i’r holl ymgeiswyr gael gwybod am y gwasanaeth sydd ar gael i’w NSIP erbyn diwedd mis Awst 2024. 

O ran prosiectau nad ydynt wedi rhoi gwybod i ni neu ofyn am farn yn unol â Rheoliad 8 yr EIA erbyn 30 Ebrill 2024, byddwn yn dechrau codi tâl am ein gwasanaethau newydd ar 1 Hydref 2024. 

O ran prosiectau sydd wedi rhoi gwybod i ni neu ofyn am farn yn unol â Rheoliad 8 yr EIA cyn 30 Ebrill 2024, byddwn yn dechrau codi tâl am ein gwasanaethau newydd ar 1 Ebrill 2025. 

O ran yr holl brosiectau sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth cyn-ymgeisio haen fanylach, byddwn yn dechrau codi tâl ar 1 Hydref 2024. 

2. Pam mae ymagwedd haenog at ddechrau codi tâl cyn-ymgeisio? 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod yr ymagwedd haenog at godi tâl yn un deg a rhesymol, o ystyried bod y gwasanaeth yn cael ei lansio hanner ffordd drwy flwyddyn ariannol y rhan fwyaf o sefydliadau a’n bod eisoes wedi cyflawni rhai dyletswyddau statudol ar gyfer rhai NSIPau. Mae proses Rheoliad 8 yr EIA yn cael ei defnyddio i wahaniaethu rhwng prosiectau sy’n fwy datblygedig ar y cam cyn-ymgeisio, o gymharu â rhai sy’n llai datblygedig, yn ogystal â’r ymgeiswyr hynny sy’n ceisio’r haen fanylach ar gyfer eu NSIP.   

3. Nid ydym eisiau talu am y gwasanaeth cyn-ymgeisio/nid ydym eisiau tanysgrifio i un o’r haenau cyn-ymgeisio.

Yn dilyn y Cynllun Gweithredu (a gyhoeddwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau) a’r ymateb ymgynghori cysylltiedig, mae’r llywodraeth wedi gosod gofyniad ar yr Arolygiaeth Gynllunio i geisio adennill costau llawn. Bydd pob NSIP yn derbyn y lleiafswm gwasanaeth statudol o leiaf (h.y. sy’n cynnwys proses sgrinio a/neu gwmpasu Asesu Effeithiau Amgylcheddol (EIA) yn unol â Rheoliad 8 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017). Mae’r haen ‘Sylfaenol’ yn cyd-fynd â darparu ein dyletswyddau statudol ar y cam cyn-ymgeisio a’r gost gysylltiedig i gyflawni rhwymedigaethau perthnasol. Felly, gofynnir i ymgeiswyr danysgrifio i un o’r haenau a chodir tâl arnynt yn unol â hynny fel bod yr Arolygiaeth Gynllunio’n adennill ei chostau.   

4. Rydym yn gweithredu ar ran ymgeiswyr amrywiol; a allwn negodi ffi is oherwydd hynny?

Na allwch. Nid yw hyn yn adlewyrchu bwriadau’r model gwasanaeth a ddisgrifir yn y Prosbectws. 

5. Beth fydd yn digwydd i’r ffioedd cyn-ymgeisio rwyf wedi’u talu os bydd fy nghais yn cael ei gyflwyno cyn i drefniant y gwasanaeth cyn-ymgeisio gael ei gwblhau? 

Bydd unrhyw ad-daliadau’n cael eu gwneud ar sail mis cyfan. Gofynnir i ymgeiswyr gadw gwybodaeth am y rhaglen yn gyfredol i’n galluogi i gynllunio ein hadnoddau’n effeithiol a lliniaru unrhyw gost ddiangen a fyddai’n golygu bod angen i’r Arolygiaeth Gynllunio dynnu adnoddau yn ôl.  

6. A yw talu am gyngor cyn-ymgeisio yn golygu y bydd yr Awdurdod Archwilio’n argymell bod caniatâd datblygu’n cael ei roi ar gyfer fy mhrosiect? 

Nac ydyw. Nid yw’r cyngor a roddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar y cam cyn-ymgeisio yn gyfystyr â chyngor unrhyw Awdurdod Archwilio yn y dyfodol a fydd yn archwilio’r cais, na phenderfyniad terfynol yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â ph’un a ellir rhoi caniatâd datblygu i’r NSIP. Fel y nodir yng Nghanllawiau Cyn-ymgeisio’r Llywodraeth (Deddf Cynllunio 2008: Y cam cyn-ymgeisio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol - GOV.UK (www.gov.uk)), bydd y cyngor a roddir ar y cam cyn-ymgeisio yn cael ei roi heb ragfarnu ac yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael bryd hynny yn unig, ac ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gallu cynghori ar b’un a yw caniatâd datblygu’n debygol o gael ei roi neu ei wrthod i NSIP yn y pen draw.  

7. A all yr Arolygiaeth Gynllunio benderfynu dyrannu fy NSIP i haen uwch (er enghraifft Manylach) er y byddai’n well gennyf haen is (Safonol neu Sylfaenol)? 

Na, ni fydd NSIP yn cael ei ddyrannu i haen uwch nag y gofynnir amdani. Fe allai’r Arolygiaeth Gynllunio gynghori os yw’n credu y byddai NSIP yn gweddu’n well i haen uwch, ond ni all orfodi ymgeisydd i gael ei ddyrannu i wasanaeth haen uwch. Fodd bynnag, sylwch efallai y bydd angen i’r Arolygiaeth Gynllunio ddyrannu ymgeiswyr i wasanaeth haen is os na ellir bodloni’r galw.  

8. Rydw i eisiau i’m NSIP ddilyn y weithdrefn garlam. Sut gallaf wneud cais am hyn? 

Yn unol â’r Canllawiau ar y Weithdrefn Garlam, bydd angen i NSIP Gweithdrefn Garlam ddefnyddio’r haen gwasanaeth Manylach. Amlinellir y gofynion manwl sy’n gysylltiedig â’r Weithdrefn Garlam yn ein Prosbectws. Fodd bynnag, sylwch fod yr Arolygiaeth Gynllunio’n ceisio cwblhau pob archwiliad mor effeithlon â phosibl a bydd yn gwneud hynny mewn llai na chwe mis, lle y bo’n briodol.  

9. Rydw i eisiau i’m NSIP ddilyn y weithdrefn garlam, ond nid wyf eisiau dilyn y llwybr manylach. 

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cwblhau’r archwiliad mor effeithlon â phosibl a bydd yn gwneud hynny mewn llai na chwe mis, lle y bo’n briodol. Fodd bynnag, fel y cyfarwyddir yn y Canllawiau ar y Weithdrefn Garlam, ni fydd yr NSIP yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam ffurfiol os na ddefnyddir yr haen Fanylach.  

10. Beth fydd yn digwydd os bydd fy mhrosiect yn newid yn sylweddol yn ystod y broses cyn-ymgeisio? 

Mae’n bosibl newid haenau gwasanaeth cyn-ymgeisio, os bydd angen. Fodd bynnag, bydd angen i’r Arolygiaeth Gynllunio gael tri mis o rybudd o flaen llaw o’r dymuniad i newid haen ac ni all warantu y cytunir ar geisiadau o’r fath, yn enwedig rhai i symud i haen uwch (o ystyried y galw cystadleuol tebygol am ddarparu gwasanaethau).  

11. Faint o fanylion y dylid eu darparu yn y Ddogfen Rhaglen? 

Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys wedi’i hamlinellu yn y canllawiau cyn-ymgeisio a’r Prosbectws. O ran prosiectau sydd eisoes hanner ffordd drwy’r broses cyn-ymgeisio, dylai’r Ddogfen Rhaglen ymdrin â’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma, yn ogystal â’r hyn y bwriedir iddo ddigwydd cyn cyflwyno.

12. A oes gofyniad i ymgynghori’n ffurfiol â chyrff eraill ynglŷn â’r Ddogfen Rhaglen cyn cyhoeddi (a diweddariadau dilynol)? 

Disgwylir i ymgeiswyr ystyried safbwyntiau cyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt wrth ddatblygu a chynnal y Ddogfen Rhaglen. Dylai’r Ddogfen Rhaglen roi syniad o allu’r cyrff hynny i gefnogi’r rhaglen a gynigir gan yr ymgeisydd. Bydd hyn yn gofyn am ryngweithio rhwng yr ymgeisydd a’r cyrff yr effeithir arnynt, a byddem yn disgwyl i’r ymgeisydd rannu’r Ddogfen Rhaglen yn rhagweithiol â nhw, ond nid yw’n broses ymgynghori ffurfiol. 

13. Pryd byddaf yn cael adborth ar y Ddogfen Rhaglen rwyf wedi ei darparu?

Mae Timau Achos yr Arolygiaeth Gynllunio yn paratoi cyngor ar Ddogfennau Rhaglen unigol, a bydd hyn yn cael ei roi i ymgeiswyr cyn hir. Yn gyffredinol, nid yw’r rhan fwyaf o’r Dogfennau Rhaglen a dderbyniwyd hyd yma yn cynnwys y manylion sy’n ofynnol er mwyn i’r Arolygiaeth allu cynllunio ein hadnoddau’n effeithiol. Oherwydd hyn, gofynnir i ymgeiswyr ymateb i’r cyngor sy’n cael ei baratoi gan ein Timau Achos yn drwyadl ac yn brydlon.

14. A oes arnom angen Carreg Filltir Digonolrwydd Ymgynghori (AoCM)? Pryd dylai ddigwydd?

Mater i’r ymgeisydd yw cynnig y garreg filltir yn y Ddogfen Rhaglen, o fewn paramedrau a amlinellir yn y canllawiau, h.y. o leiaf 3 mis cyn cyflwyno. Mae canllawiau ar lunio datganiad AoCM ar gael yn y canllawiau newydd a’n Prosbectws. 

15. Sawl cyfarfod aml-barti (y tu allan i broses Cynllun Tystiolaeth) y gall ymgeisydd ofyn amdano?

Mae paragraffau 007 a 011 y Prosbectws wedi cael eu diweddaru i egluro’r mater hwn. Mae nifer y cyfarfodydd aml-barti y gall ymgeiswyr ofyn amdanynt wedi’u chynnwys yng nghyfanswm nifer y cyfarfodydd y flwyddyn y mae gan ymgeiswyr yr hawl iddynt ym mhob haen. Er enghraifft, mae gan ymgeisydd sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth haen safonol yr hawl i hyd at chwe chyfarfod â’r Arolygiaeth y flwyddyn. Gall y chwe chyfarfod hyn gynnwys cymysgedd o gyfarfodydd diweddariad ar y prosiect, seiliedig ar bwnc ac aml-barti (os cytunir â’r Arolygiaeth a chyfranogwyr eraill y gofynnir iddynt fynychu).

16. Gyda pha gyrff statudol y mae angen i mi rannu fy nhraciwr materion?

Byddai’r Arolygiaeth Gynllunio’n disgwyl i’r ymgeisydd rannu ei draciwr materion gydag unrhyw gyrff statudol yr effeithir arnynt, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan unrhyw un o’r materion a gofnodwyd yn y traciwr. Penderfyniad goddrychol yw hwn i’w wneud gan yr ymgeisydd, gan ystyried unrhyw gyngor cysylltiedig a roddwyd gan yr Arolygiaeth. Nid yw’n ofynnol yn ddiofyn i ymgeiswyr rannu eu traciwr materion gyda’r holl gyrff statudol a restrir yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009.

17. Pam nad yw’r Prosbectws yn cael ei gyflwyno ar ffurf llyfryn, gyda thablau, diagramau a ffotograffau? 

Mae hyn o ganlyniad i’r gofynion ar yr Arolygiaeth Gynllunio, fel corff cyhoeddus, i sicrhau bod cynnwys y wefan ac unrhyw wybodaeth yn hygyrch. Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio gydymffurfio â’r gofynion yn ‘Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018’. I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â: Deall gofynion hygyrchedd ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus - GOV.UK (www.gov.uk) 

18. Yn nodweddiadol, rydym yn cael rhoi adborth ar y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr Arolygiaeth ar ddiwedd y broses yn unig, ar ôl caniatâd. A fydd cyfle i roi adborth mwy amserol ar y gwasanaeth cyn-ymgeisio yn gynharach yn y dyfodol?

Bydd. Ystyriwn fod hyn yn bwysig i ddarparu’r gwasanaeth newydd a gall ymgeiswyr ddisgwyl i ni ofyn am eu hadborth ar wasanaethau cyn-ymgeisio yn gynharach o lawer nag ar hyn o bryd. Darperir rhagor o fanylion ynglŷn â hyn yn fuan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Hydref 2024 + show all updates
  1. Updated to remove references to the Expression of Interest process which has now expired. This page will continue to be updated as new FAQs arise during the implementation of our new pre-application services.

  2. New question - 28. How many multiparty meetings (outside of an Evidence Plan process) can an applicant request?

  3. Welsh translation added

  4. Added translation

Print this page