Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Datganiadau Polisi Cenedlaethol

Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn cael eu cynhyrchu gan y llywodraeth. Maent yn rhoi rhesymau dros y polisi a nodir yn y datganiad, a rhaid iddynt gynnwys esboniad o sut mae'r polisi'n ystyried polisi'r llywodraeth sy'n ymwneud â lliniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Beth yw Datganiadau Polisi Cenedlaethol?

Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn cael eu cynhyrchu gan y llywodraeth. Maen nhw’n rhoi rhesymau dros y polisi a amlinellir yn y datganiad ac mae’n rhaid iddynt esbonio sut mae’r polisi’n ystyried polisi’r llywodraeth yn ymwneud â lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu iddo. Maen nhw’n cynnwys amcanion y llywodraeth ar gyfer datblygu seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol mewn sector penodol a gwladwriaeth benodol, gan gynnwys:

  • sut bydd hyn yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy
  • sut mae’r amcanion hyn wedi cael eu hintegreiddio â pholisïau eraill y llywodraeth
  • sut yr ystyriwyd capasiti a galw gwirioneddol a rhagamcanol
  • ystyried materion perthnasol yn ymwneud â diogelwch neu dechnoleg
  • amgylchiadau lle byddai’n arbennig o bwysig mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol datblygiad
  • lleoliadau penodol, lle y bo’n briodol, er mwyn darparu fframwaith clir ar gyfer penderfyniadau buddsoddi a chynllunio

Maen nhw hefyd yn cynnwys unrhyw bolisïau neu amgylchiadau eraill y mae gweinidogion yn credu y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am ddatblygu seilwaith.

Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn mynd trwy broses ddemocrataidd o ymgynghori cyhoeddus a chraffu seneddol cyn cael eu dynodi (eu cyhoeddi). Maen nhw’n darparu’r fframwaith a ddefnyddir gan Awdurdodau Archwilio i wneud eu hargymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol.

I gael gwybodaeth am Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol drafft sy’n dod i’r amlwg neu adolygiadau o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol dynodedig, cyfeiriwch at y wefan ar gyfer Adran berthnasol y Llywodraeth.

2. Pa sectorau y mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn ymdrin â nhw?

Mae 12 Datganiad Polisi Cenedlaethol dynodedig, sy’n amlinellu polisi’r llywodraeth ar wahanol fathau o ddatblygiad seilwaith cenedlaethol, sef:

2.1 Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Ynni

  • Datganiad Polisi Cenedlaethol Trosfwaol ar gyfer Ynni (EN-1)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Cynhyrchu Trydan Nwy Naturiol (EN-2)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Ynni Adnewyddadwy (EN-3)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Cyflenwi Nwy Naturiol a Phiblinellau Nwy ac Olew (EN-4)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Rhwydweithiau Trydan (EN-5)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Cynhyrchu Pŵer Niwclear (EN-6)

Dynodwyd Datganiadau Polisi Cenedlaethol EN-1 i EN-5 ar 17 Ionawr 2024

Cynhyrchwyd y rhain gan yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net

Dynodwyd Datganiad Polisi Cenedlaethol EN-6 ar 19 Gorffennaf 2011 ac roedd yn berthnasol i brosiectau niwclear rhestredig a allai gael eu cyflawni erbyn diwedd 2025.

Fe’i cynhyrchwyd gan yr hen Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC), sef yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) bellach. Mae Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd yn cael ei baratoi gan yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net

Darpariaethau trosiannol

Dynodwyd y gyfres o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Ynni gyntaf yn 2011. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu, ar gyfer unrhyw gais a dderbyniwyd i’w archwilio cyn dynodiadau EN-1 i EN-5 yn 2024, y dylai cyfres 2011 o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol fod yn berthnasol yn unol â thelerau’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol hynny:

  • Datganiad Polisi Cenedlaethol Trosfwaol ar gyfer Ynni (EN-1)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Cynhyrchu Trydan Tanwydd Ffosil (EN-2)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Ynni Adnewyddadwy (EN-3)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Cyflenwi Nwy a Phiblinellau Nwy ac Olew (EN-4)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Rhwydweithiau Trydan (EN-5)

2.2 Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Porthladdoedd
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Meysydd Awyr

Cynhyrchwyd y rhain gan yr Adran Drafnidiaeth.

Dynodwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Porthladdoedd ar 26 Ionawr 2012.

Dynodwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol ar 24 Mai 2024. Mae’r Datganiad Polisi Cenedlaethol hwn yn berthnasol i unrhyw geisiadau ar gyfer caniatâd datblygu a dderbynnir i’w harchwilio ar ôl 24 Mai 2024. Mae Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol 2015 yn berthnasol i unrhyw gais ar gyfer caniatâd datblygu a dderbyniwyd i’w archwilio cyn 24 Mai 2024.

Dynodwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Meysydd Awyr ar 26 Mehefin 2018.

2.3 Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Dŵr, Dŵr Gwastraff a Gwastraff

  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Gwastraff Peryglus
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Dŵr Gwastraff
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Adnoddau Dŵr

Cynhyrchir y rhain gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Cyhoeddwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Gwastraff ar 6 Mehefin 2013.

Cyhoeddwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Dŵr Gwastraff ar 9 Chwefror 2012.

Dynodwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Gwaredu Daearegol ar 17 Hydref 2019.

Dynodwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Adnoddau Dŵr ar 18 Medi 2023

3. A oes gan yr Arolygiaeth Gynllunio farn am y Datganiadau Polisi Cenedlaethol?

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ddiduedd ac nid yw’n gwneud sylwadau ar bolisi’r llywodraeth. Fodd bynnag, mae Awdurdodau Archwilio yn gwneud eu hargymhellion o fewn y fframwaith a ddarperir gan Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cynllunio 2008.

4. Beth fydd yn digwydd os nad yw’r Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol wedi cael ei ddynodi?

Mae adran 105 Deddf Cynllunio 2008 yn amlinellu’r hyn y mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ei ystyried wrth wneud ei benderfyniad pan nad yw Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol wedi cael ei ddynodi. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fater y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn credu ei fod yn bwysig ac yn berthnasol i’w benderfyniad. Fe allai hyn gynnwys Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft, os yw’n bodoli.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2012

Print this page