Talu’r Doll Teithwyr Awyr
Sut i dalu’r Doll Teithwyr Awyr, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu’r Doll Teithwyr Awyr, a’r hyn sydd i’w wneud os oes gennych ddim byd i’w dalu.
Pryd i dalu
Bydd y dyddiad cau ar gyfer talu i’w weld ar eich hysbysiad i gyflwyno. Os byddwch yn defnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu, bydd y dyddiad cau yn cael ei ymestyn gan 7 diwrnod calendr:
- Debyd Uniongyrchol
- Taliadau Cyflymach
- CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio)
- Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr)
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwr Achlysurol (yn agor tudalen Saesneg), mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 7 diwrnod i’ch hediad.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Mae hwn i’w weld ar eich hysbysiad i gyflwyno.
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwr Achlysurol, bydd angen i chi gysylltu â CThEF i gael cyfeirnod. Defnyddiwch y cyfeirnod hwn bob tro y byddwch yn rhoi gwybod am y Doll Teithwyr Awyr a’i thalu. Gwnewch nodyn o’r cyfeirnod hwn oherwydd na fyddwch yn cael hysbysiad i gyflwyno.
Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.
Talu ar-lein
Gallwch gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein.
Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ar gyfer talu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’r cyfrif banc ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
I drefnu Debyd Uniongyrchol, gallwch argraffu ffurflen cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon drwy’r post.
Dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol. Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu os na fydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i drefnu mewn pryd.
Unwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol, bydd y swm a ddangosir ar eich datganiad yn cael ei gasglu’n awtomatig.
Ni allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwr Achlysurol.
Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer datganiadau sydd dros £20 miliwn. Os oes rhagor arnoch i’w dalu, bydd angen i chi dalu mewn ffordd arall.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn dod i law ar yr un diwrnod gwaith, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs, dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 00
- rhif y cyfrif — 12000938
- enw’r cyfrif — HMRC Air Passenger Duty
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) — GB70 BARC 2005 1733 0642 98
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
- enw’r cyfrif — HMRC Air Passenger Duty
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Talu â siec
Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad cyrraedd CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD
United Kingdom
Os oes gennych ddim byd i’w dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad i CThEF hyd yn oed os ydych wedi cyfrifo bod gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 3 Tachwedd 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Chwefror 2024 + show all updates
-
Added translation
-
Information about approving a payment through your online bank account has been added.
-
Cheque payment details updated.
-
Updated link to form APD6 and new Direct Debit instruction form (EEIITT15).
-
Overseas payment details updated.
-
First published.