Canllawiau

Talu ffi’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol

Sut i dalu eich ffi ddilysu ar gyfer y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, a pha mor hir mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Os ydych yn gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, bydd angen i chi dalu ffi. Gwiriwch faint bydd eich ffi dilysu ar gyfer:

Ni ellir ad-dalu’r ffi dilysu ac mae y tu allan i gwmpas TAW.

Pam y mae’n rhaid i chi dalu

Mae CThEF yn rheoli’r cynllun dilysu gyda’r bwriad o adennill ein costau gweinyddol yn unig bob blwyddyn ariannol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • salarïau
  • gorbenion staff wrth iddynt gynnal y gwaith dilysu
  • treuliau teithio staff

Caiff y ffioedd sy’n cael eu codi ar gyfer prosesau’r DU eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau bod y taliadau’n cyfateb i gostau CThEF ar gyfer y cynllun dilysu. Mae’r ffioedd yn cael eu haddasu bob 2 flynedd er mwyn:

  • talu am gostau disgwyliedig y cynllun
  • rhoi cyfrif am unrhyw ddiffygion neu wargedau
  • rhoi ecwiti yn ystod y rhaglen o ymweliadau dilysu sydd â chyfnod treigl o 2 flynedd

Byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau i’r ffioedd yn yr arweiniad technegol perthnasol ac anfon anfonebau atoch ar gyfer y ffioedd dilysu gan ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch yn eich cais.

Bydd CThEF yn ymgynghori â’r diwydiant pe bai angen gwneud newidiadau sylweddol i’r strwythur ffioedd.

Pryd i dalu

Ar ôl i chi wneud cais i ymuno â’r cynllun, neu ar ôl i chi gyflwyno Ymrwymiad ar gyfer Wisgi Albanaidd (yn agor tudalen Saesneg), byddwn yn anfon anfoneb atoch sy’n cynnwys y ffi ar gyfer eich cofrestriad a’ch dilysiad.

Bydd angen i chi dalu’ch ffi:

  • cyn bod modd trefnu ymweliad dilysu, os ydych yn gynhyrchydd yn y DU
  • cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad sydd ar yr anfoneb

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Os na fyddwch yn talu

Byddwch yn cael un nodyn i’ch atgoffa nad yw’ch anfoneb wedi’i thalu. Os na ddaw eich taliad i law:

  • ni fyddwch yn cael eich ymweliad dilysu, os ydych yn gynhyrchydd yn y DU
  • cewch eich trin fel un nad yw’n cydymffurfio, a hynny o’r dyddiad yr ydym yn ei roi i chi
  • caiff manylion eich cyfleusterau cynhyrchu dilys eu diwygio, eu dileu neu eu hepgor o’r gwasanaeth Cyfleuster Chwilio’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol (SDV) (yn agor tudalen Saesneg)
  • ni fydd unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu wedi’r dyddiad yr ydym yn ei roi i chi yn rhai dilys — caiff y manylion eu diwygio, eu dileu neu eu hepgor o’r rhestr o frandiau dilys yn y gwasanaeth chwilio
  • mae’n bosibl y byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdod gorfodi dynodedig

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y cyfeirnod 14-rhif arnoch (er enghraifft, 18000012345678).

Gallwch ddod o hyd i’r rhif hwn ar yr anfoneb a anfonwyd atoch gan CThEF ar ôl i chi wneud cais i ymuno â’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Talu ar-lein

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ar gyfer talu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’r cyfrif banc ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu nawr

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn dod i law ar yr un diwrnod gwaith, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs, dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 20 50 46
  • rhif y cyfrif — 73987795
  • enw’r cyfrif — HMRC Accounts Receivable Receipts

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB61 BARC 2050 4673 9877 95
  • cod adnabod y busnes (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC Accounts Receivable Receipts

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP).

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Awst 2023 + show all updates
  1. Page updated to include references to Single Malt Welsh Whisky.

  2. You can now pay the Spirit Drinks Verification Scheme fee using your online or mobile bank account.

  3. Overseas payment details updated.

  4. First published.

Print this page