Canllawiau

Talu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau

Sut i dalu trethi, cosbau a setliadau ymholiadau os na allwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau mewn canllawiau eraill ynghylch talu CThEF, neu os yw’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag ‘X’.

Defnyddiwch y canllaw hwn dim ond os ydych am dalu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau i CThEF a bod y canlynol yn wir:

Mae arweiniad gwahanol os oes angen i chi dalu cosb o ran y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg).

Peidiwch â defnyddio’r canllaw hwn os nad yw’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag ‘X’, gwiriwch ganllawiau eraill ynghylch talu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod sut i dalu.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 neu 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Mae hwn i’w weld ar y canlynol:

  • eich slip cyflog
  • eich Hysbysiad i Dalu

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Cysylltwch â CThEF os nad ydych yn siŵr beth yw’ch cyfeirnod talu.

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
  • Debyd Uniongyrchol
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF.

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth y gwnaethoch eu defnyddio wrth gofrestru am y cyfrif.

Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer Ffurflenni Treth sydd dros £20 miliwn. Os oes arnoch fwy, bydd angen i chi dalu mewn ffordd arall.

Dylech drefnu’r Debyd Uniongyrchol o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad rydych am i’ch taliad gael ei gasglu.

Dim ond os ydych wedi cofrestru ar gyfer un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn:

  • Hunanasesiad ar-lein
  • TWE i gyflogwyr
  • Treth Gorfforaeth ar-lein
  • CIS ar-lein
  • Toll Peiriannau Hapchwarae ar-lein

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd credyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Byddwn yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10
  • rhif y cyfrif — 12001020
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y busnes (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch wneud taliad yn eich cangen eich hun ag arian parod neu siec.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:

  • defnyddio’r slip talu y gwnaeth CThEF anfon atoch
  • gwneud eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac yn ysgrifennu’ch cyfeirnod ar y cefn

Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, byddwn yn derbyn eich taliad ar y dyddiad rydych yn gwneud y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF.

Os nad oes gennych slip talu

Bydd angen i chi wneud taliad gan ddefnyddio dull arall.

Talu â siec

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.

Anfonwch eich siec i:

HMRC
Direct
BX5 5BD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Ionawr 2023 + show all updates
  1. A link to the payment method for Trust Registration Service penalty charges has been added.

  2. Guidance about approving a payment through your online bank account has been added.

  3. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from 1 November 2020 has been added.

  4. Welsh translation had been added.

  5. References to National Minimum wage penalties removed.

  6. Information about National Minimum Wage penalties or enquiry settlements has been added.

  7. Guide updated to show payments can't be made with a personal credit card.

  8. Payments can no longer be made at a Post Office.

  9. Section ‘Pay online with a debit or credit card’ has been updated with information about payments by personal credit card from 13 January 2018.

  10. Information about payments at a Post Office from December 2017 has been added to the guide.

  11. Postal address for cheque payments has been updated.

  12. Credit card fees have changed.

  13. Notification that from 1 January 2016 changes will be introduced to limit the number of credit and debit card payments that can be made to any single tax regime within a given period.

  14. The online debit or credit card non-refundable fee has been increased to 1.5%.

  15. HMRC have launched a new payment service - you may be directed to WorldPay if you pay online by debit or credit card. The new service uses a different service provider to BillPay.

  16. You can pay tax, penalties and enquiry settlements (which are not covered in other HM Revenue and Customs (HMRC) guidance) to HMRC at the Post Office (subject to a maximum of £10,000).

  17. First published.

Print this page