Talu Toll Gwin neu Doll Seidr
Sut i dalu’r Doll Gwin neu Doll Seidr, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu Toll Gwin neu Doll Seidr.
Mae yna ganllaw ar wahân i talu Toll Cwrw.
Pryd i dalu
Mae’ch datganiad a’ch taliad yn ddyledus erbyn y 15fed diwrnod o’r mis ar ôl eich cyfnod cyfrifyddu.
Os ydych wedi’ch trwyddedu ar gyfer Toll Gwin neu wedi cofrestru ar gyfer Toll Seidr, byddwch yn cael datganiad yn awtomatig. Os oes angen dyblyg arnoch, cysylltwch â CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod talu Toll Gwin neu Seidr arnoch, sy’n 12 o gymeriadau. Bydd y cyfeirnod hwn naill ai’n cynnwys 12 rhif (er enghraifft, 012345678900) neu un llythyren ac 11 rhif (er enghraifft, N12345678900).
Gallwch ddod o hyd i hyn ar eich datganiad.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:
- bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
- byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad
Talu ar-lein
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’r cyfrif banc ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 00
- rhif y cyfrif — 12000946
- enw’r cyfrif — HMRC TAPS
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Talu â siec
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
Taliadau, Newid Hinsawdd a Thollau Alcohol
HM Revenue and Customs
BX9 1XL
Does dim rhaid i chi gynnwys stryd na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn.
Dim byd i’w dalu
Os cewch ddatganiad a’ch bod yn cyfrifo nad oes gennych ddim byd i’w dalu neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi, mae’n dal i fod yn rhaid i chi ei hanfon yn ôl i CThEF.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 3 Medi 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Mai 2024 + show all updates
-
Information updated to confirm your Cider or Wine Duty payment reference number is made up of either 12 numbers or one character and 11 numbers.
-
Welsh translation added.
-
If your deadline falls on a weekend or bank holiday, make sure your payment reaches us on the last working day before it.
-
The address to post cheques to has changed.
-
You can now pay wine and cider duty using your online or mobile bank account.
-
Cheque payment details have been updated.
-
Address updated for sending returns and payments.
-
Temporary measures have been put in place to stop the spread of coronavirus (COVID-19) - you must now pay Wine or Cider Duty electronically by Faster Payment, Bacs or CHAPS rather than post.
-
First published.