Canllawiau

TWE: eithriad sy’n ymwneud â threuliau a buddiannau’r cyflogwr

Defnyddiwch ffurflen eithrio ar gyfer y cyflogwr os ydych yn gyflogwr ac am wneud cais am gyfradd graddfa bwrpasol neu gyfradd graddfa’r diwydiant er mwyn rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau nad ydynt yn drethadwy.

Fel cyflogwr, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF i dalu cyfradd graddfa bwrpasol neu gyfradd graddfa’r diwydiant i’ch cyflogeion i ad-dalu’r treuliau y mae’n rhaid iddynt eu talu.

Nid oes rhaid i chi wneud cais i CThEF os ydych am dalu cyfraddau graddfa meincnod CThEF.

Ni ellir ôl-ddyddio hysbysiadau cymeradwyo i ddechrau’r flwyddyn dreth nac i unrhyw adeg arall, a gellir ond gwneud cais o’r dyddiad y cânt eu hanfon gan CThEF. Ni all cyflogwyr ddechrau defnyddio cyfradd bwrpasol neu gyfradd y diwydiant hyd nes y byddant wedi cael copi o’r hysbysiad cymeradwyo.

Cyn i chi ddechrau

Dylech wirio bod eich cyflogeion wedi gwneud y canlynol:

  • wedi ysgwyddo treuliau perthnasol
  • wedi cadw tystiolaeth

Cadwch unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’ch hawliad hyd nes y byddwn wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.

Os ydych yn gwneud cais am gyfradd bwrpasol, gwnewch yn siŵr bod gennych dderbynebau i gyd-fynd â’r ymarfer samplu.

Llenwch y ffurflen hon ar-lein

Gallwch ddefnyddio ein harweiniad rhyngweithiol i lenwi’r ffurflen. Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Casglu’r holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch y ffurflen.

  3. Argraffwch y ffurflen.

  4. Llofnodwch y datganiad.

  5. Anfonwch y ffurflen at CThEF.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg
CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn gwirio’ch ffurflen ac yn anfon hysbysiad cymeradwyo a fydd yn ddilys am hyd at 5 mlynedd os ydych yn bodloni’r meini prawf neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2024

Print this page