Talu treth fel gweinyddwr cynllun pensiwn
Sut i dalu’r tâl a godir ar daliadau o gynlluniau pensiwn cofrestredig a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Mae’n rhaid i chi, fel gweinyddwr cynllun pensiwn ar gyfer cynllun pensiwn cofrestredig, anfon adroddiadau ar gynlluniau pensiwn a thalu taliadau treth i CThEF.
Er mwyn bod yn daliad awdurdodedig, mae’n rhaid i daliad fodloni amodau penodol. Os nad yw’n bodloni’r amodau hyn, bydd eich taliad yn ‘taliad heb ei awdurdodi’.
Darllenwch yr arweiniad ynghylch sut i ddelio â thaliadau sy’n codi o ganlyniad i daliad heb ei awdurdodi (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad, neu’ch adroddiad am ddigwyddiad (yn agor tudalen Saesneg), a thalu unrhyw dreth cyn pen 45 diwrnod calendr i ddiwedd y cyfnod treth.
Os bydd digwyddiad yn codi yn ystod blwyddyn dreth y mae angen i chi roi gwybod amdano, mae’n rhaid i chi gyflwyno adroddiad am ddigwyddiad erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth honno.
Os yw cynllun wedi’i ddirwyn i ben, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r adroddiad am ddigwyddiad cyn pen 3 mis i’r dyddiad y cafodd y cynllun ei ddirwyn i ben, neu erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr, pa bynnag un sydd gynharaf.
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad hwn:
-
ar eich derbynneb ar-lein, os gwnaethoch gyflwyno’ch datganiad drwy’r Gwasanaeth Cynlluniau Pensiwn ar-lein
-
ar y dudalen ‘taliadau’ ar gyfer pob datganiad a gyflwynwyd drwy’r gwasanaeth rheoli cynlluniau pensiwn
Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.
Talu ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ar gyfer talu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd credyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 10
- rhif y cyfrif — 12001020
- enw’r cyfrif — HMRC Shipley
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
- enw’r cyfrif — HMRC Shipley
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Os ydych yn rheolwr cynllun pensiwn tramor (yn agor tudalen Saesneg), dylech gysylltu â CThEF cyn talu’r tâl ar drosglwyddiadau tramor.
Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth
Gall cyflogwyr, megis adrannau o’r Llywodraeth ac awdurdodau iechyd sydd â chyfrif Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth, dalu gan ddefnyddio Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth ar-lein.
Os byddwch yn nodi manylion cyfrif CThEF ar gyfer Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth yn anghywir, efallai y bydd oedi cyn diweddaru’ch cofnod neu efallai na fydd eich taliad yn cyrraedd CThEF.
Cyn belled â’ch bod yn gwneud taliad erbyn dyddiad cau Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth, bydd yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod.
Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch wneud taliad yn eich cangen eich hun ag arian parod neu siec.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:
- defnyddio’r slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF
- gwneud eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac yn ysgrifennu’ch cyfeirnod ar y cefn
Os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF.
Os nad oes gennych slip talu
Bydd angen i chi wneud taliad gan ddefnyddio dull arall.
Talu â siec
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
Cyllid a Thollau EF
Direct
BX5 5BD
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Mai 2022 + show all updates
-
Information about approving a payment through your online bank account has been added.
-
Added translation
-
Information about how to make a payment following the submission of an event report has been updated.
-
Information about a non-refundable fee for corporate debit cards has been updated.
-
Where to find a charge reference on the Managing Pension Scheme service and using a charge reference when making a payment on account has been updated.
-
Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from the 1 November 2020 has been added.
-
Information about contacting us for a charge reference and when using your pension scheme tax reference (PSTR) to make a payment has been added.
-
Welsh translation has been added.
-
Sections about reporting and making payments on charges arising from your Accounting for Tax Return or Event and what reference to use if you’re making a payment, have been added to the guidance.
-
Guidance on paying by cheque through the post has been updated.
-
Guide updated to show payments can't be made with a personal credit card.
-
Payments can no longer be made at a Post Office.
-
Guidance updated to show it won't be possible to make a payment with a personal credit card from 13 January 2018.
-
Guidance updated to show it won't be possible to pay at the Post Office from 15 December 2017.
-
Information about payments at a Post Office from December 2017 has been added to the guide.
-
Change of address for ordering payslips.
-
Guidance has been updated to advise that all Post Offices don't accept payment by cheque.
-
Credit card fees have changed.
-
Overseas payment details updated.
-
The pay by cheque through the post address has changed to HM Revenue and Customs, Direct, BX5 5BD.
-
Notification that from 1 January 2016 changes will be introduced to limit the number of credit and debit card payments that can be made to any single tax regime within a given period.
-
The online debit or credit card non-refundable fee has been increased to 1.5%.
-
HMRC have launched a new payment service - you may be directed to WorldPay if you pay online by debit or credit card. The new service uses a different service provider to BillPay.
-
Pension scheme administrators can pay tax owing to HM Revenue and Customs at the Post Office (up to a maximum of £10,000)
-
First published.