Dewisiadau ar gyfer dewislen ffôn Cofrestrfa Tir EF
Defnyddiwch y dewisiadau hyn i'ch helpu i lywio'n dewislen ffôn
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Cymorth ar gyfer defnyddio’n gwasanaethau ar-lein
Y porthol ac e-wasanaethau busnes
Os ydych yn gwsmer busnes ac mae angen cymorth gyda’r porthol neu e-wasanaethau busnes arnoch:
-
ffoniwch 0300 006 0411
-
dewiswch 1 ar gyfer gwasanaethau ar-lein
-
dewiswch 1 ar gyfer y porthol ac e-wasanaethau busnes
-
dewiswch 1 ar gyfer cynnal a chadw eich cyfrif, problemau defnyddiwr na all eich gweinyddwr eu datrys, neu ymholiadau’n ymwneud a thalu
-
dewiswch 2 ar gyfer gwybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaethau
-
dewiswch 3 ar gyfer anawsterau wrth gyflwyno cais ar-lein
Gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu forgeisi digidol
Os ydych yn defnyddio gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu Sign your mortgage deed:
- ffoniwch 0300 006 0422
Mae angen cyfeiriad ebost arnoch i gael cyfrif.
Os oes cwestiwn gennych am archeb, bydd yn rhaid ichi ddarparu:
-
cyfeiriad neu rif teitl yr eiddo
-
cyfeirnod 10 neu 11 digid World Pay
Ceisiadau
I wybod beth sy’n digwydd gyda chais (gan gynnwys ceisiadau ar gyfer chwiliadau, chwiliadau o’r map mynegai neu gopïau swyddogol):
- ffoniwch 0300 006 0422
Dim ond gyda’r sawl a anfonodd y cais atom y gallwn drafod manylion cais.
Gweler y diweddariad diwethaf i’n gwasanaethau.
I drafod unrhyw beth arall yn ymwneud â chais:
- ffoniwch 0300 006 0422
Sylwer: ni fyddwn yn cyflymu chwiliad swyddogol oni bai bod y safon gwasanaeth ar gyfer y cais wedi mynd heibio. Dylech wneud cais o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn cwblhau er mwyn cael y dystysgrif chwiliad swyddogol mewn pryd.
Cael gwybodaeth gan Gofrestrfa Tir EF
Perchnogaeth tir ac eiddo
Nid ydym yn cadw gweithredoedd gwreiddiol. Gallwch gael copi o gofrestri, cynlluniau a dogfennau am ffi fach.
I gael gwybodaeth am sut i gael gweithredoedd, dogfennau neu wybodaeth arall am berchnogaeth tir ac eiddo:
- ffoniwch 0300 006 0422
Manylion cysylltu
Dim ond arweiniad ar sut i newid enw neu gyfeiriad ar y gofrestr y gallwn ei roi.
I gael gwybodaeth am gadw enwau a manylion cyswllt yn gyfredol:
- ffoniwch 0300 006 0422
Terfynau
Nid ydym yn cadw gwybodaeth am berchnogaeth terfynau fel rheol. Os oes gwybodaeth gennym, ni allwn:
-
ddweud wrthych pwy sy’n berchen ar derfyn neu’n gyfrifol am derfyn dros y ffôn
-
datrys neu gynnig cyngor cyfreithiol ynghylch anghydfodau
I gael gwybodaeth am berthi, waliau, coed a ffensys:
- ffoniwch 0300 006 0422
Cymorth pan fydd rhywun yn marw
I gael gwybodaeth am yr hyn i’w wneud pan fydd rhywun yn marw:
- ffoniwch 0300 006 0422
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 5 Awst 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Hydref 2024 + show all updates
-
Page updated to reflect the changes to our phone messaging, providing shorter and clearer menu options to callers.
-
First published.