Canllawiau

Dosbarthu carcasau moch ac eidion: os na fyddwch yn cydymffurfio

Beth fydd yn digwydd os bydd arolygydd yn canfod eich bod yn torri rheoliadau ar raddio carcasau moch neu ddosbarthu carcasau eidion.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Os na fydd lladd-dy trwyddedig yn cydymffurfio â Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Lloegr) 2010 (OS 2010/1090) (fel y’u diwygiwyd) neu Reoliadau Dosbarthu Carcasau Cig Eidion a Moch (Cymru) 2011 (OS 2011/1826 (Cy. 198)), gall yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) gymryd ystod o gamau.

Mathau o gamau gorfodi

Gall RPA gymryd pedair lefel o gamau gweithredu:

  • hysbysiadau diffyg - sef rhybuddion anffurfiol sy’n rhoi amser i chi ddatrys y broblem; byddwch yn cael rhybudd llafar ar yr un pryd ac weithiau lythyr hefyd
  • hysbysiadau gorfodi - a gyhoeddir pan fydd yr arolygydd yn gweld nad yw’r broblem wedi’i datrys pan fydd yn ymweld eto; bydd yr hysbysiad yn datgan y drosedd y mae’r arolygydd o’r farn eich bod yn ei chyflawni ac yn dynodi’r mesurau y mae’n rhaid i chi eu rhoi ar waith o fewn cyfnod amser penodedig; bydd hefyd yn eich hysbysu o’ch hawl i apelio
  • hysbysiadau cosb - a roddir os na fyddwch yn cydymffurfio â hysbysiad gorfodi; bydd hysbysiad cosb yn pennu dirwy ac yn rhoi 28 diwrnod i chi ei thalu
  • erlyniad troseddol - os na fyddwch yn talu’r ddirwy a bennwyd yn yr hysbysiad cosb; gellir eich erlyn hefyd os byddwch yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi

Os bydd cyfran uchel o’r carcasau a archwiliwyd yn destun sylw, neu os ydych wedi cyflawni trosedd yn y gorffennol, gall RPA gyhoeddi hysbysiad gorfodi heb roi hysbysiad diffyg yn gyntaf. Felly hefyd mewn perthynas â throseddau difrifol sy’n ymwneud â methu â hysbysu, trwyddedau a chofnodion a marciau.

Os ydych wedi cyflawni dwy drosedd neu fwy yn y gorffennol, gall RPA gyhoeddi hysbysiad cosb neu ddechrau erlyniad ar unwaith.

Os bydd arolygydd yn dod o hyd i fwy nag un broblem yn ystod ymweliad, bydd RPA yn ystyried pob un ar wahân. Felly gallech dderbyn mwy nag un hysbysiad ar ôl arolygiad.

Dirwyon

Os bydd RPA yn eich erlyn, a chewch eich collfarnu o drosedd sy’n ymwneud â marcio neu labelu carcasau mewn ffordd sy’n debygol o gamarwain, nid oes terfyn i’r ddirwy y gall y llys ei phennu ar eich cyfer. Gall troseddau eraill arwain at ddirwyon posibl o hyd at £5,000.

Sut i apelio

Yr unig fath o gam gweithredu y gallwch apelio yn ei erbyn yw hysbysiad gorfodi. Mae dwy ffordd o wneud hyn:

  • anfon e-bost neu ysgrifennu i’r tîm Cynlluniau Technegol Cig yn RPA cyn gynted â phosibl, gan amgáu unrhyw dystiolaeth nad oedd ar gael yn ystod yr archwiliad
  • gwneud cwyn i’r llys ynadon, a all wneud gorchymyn yn diddymu’r hysbysiad

Bydd gennych un mis o ddyddiad yr hysbysiad gorfodi i wneud cwyn i lys yr ynadon.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r ddogfen yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn a wna’r RPA pan fydd lladd-dai yn torri’r rheolau.

Manylion Cyswllt

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01228 640 369

Meat Technical Schemes team
Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
CA3 8DX

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Awst 2020 + show all updates
  1. Added in link to Fixed Penalty Guidance page

  2. Text reviewed and updated

  3. First published.

Print this page