Paratoi adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr elusen
Beth i'w roi yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr, yn dibynnu ar incwm eich elusen a gwerth ei hasedau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Am adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr elusen
Mae’ch adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr yn helpu pobl i ddeall beth mae’ch elusen yn ei wneud, yn enwedig cyllidwyr a buddiolwyr posibl.
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr os yw’ch elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru neu Loegr. Ynghyd â’ch cyfrifon, mae’r adroddiad yn dweud wrth bobl:
- am waith eich elusen
- o ble daw’ch arian
- sut rydych chi wedi gwario’ch arian dros y flwyddyn ddiwethaf
Adroddiadau ar gyfer elusennau bach heb fod yn gwmnïau
Os oes gan eich elusen incwm o lai na £500,000 (ac ar yr amod nad oes ganddi asedau sy’n werth mwy na £3.26 miliwn), paratowch adroddiad syml gan gynnwys:
- enw, rhif cofrestru, cyfeiriad ac enwau ymddiriedolwyr eich elusen
- ei strwythur a manylion ynghylch sut y caiff ei rheoli, gan gynnwys sut y mae’n recriwtio ymddiriedolwyr
- ei gweithgareddau a’i hamcanion yn ystod y flwyddyn
- ei chyflawniadau a’i pherfformiad, gan gynnwys adrodd ar ei budd cyhoeddus
- adolygiad ariannol gan gynnwys unrhyw ddyledion a manylion am eich polisi wrth gefn (os yw’n gymwys)
- manylion am unrhyw gronfeydd sy’n cael eu dal fel ymddiriedolwr gwarchod
Gallwch roi rhagor o fanylion yn adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr os ydych am wneud hynny. Mae’n rhaid i chi anfon copi i’r comisiwn gyda’ch adroddiad blynyddol dim ond os yw’ch incwm yn fwy na £25,000. Ond mae’n rhaid i chi anfon copi i’r comisiwn os yw’n gofyn amdano.
Adroddiadau ar gyfer elusennau mawr neu elusennau sy’n gwmnïau
Paratowch adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr llawn os yw naill ai:
- incwm eich elusen yn fwy na £500,000 (neu’n fwy na £250,000 os yw ei hasedau yn werth mwy na £3.26 miliwn)
- eich elusen yn gwmni neu’n SCE
Mae’n rhaid i adroddiad llawn ddilyn y canllawiau a osodwyd gan SORP.
Gallwch lanlwytho copi o adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr fel ffeil PDF pan fyddwch chi’n anfon eich ffurflen flynyddol i’r Comisiwn Elusennau.
Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP) Elusennau
Mae datganiad o arferion cymeradwy (SORP) yn rhoi fframwaith ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau, ac mae’n ceisio:
- helpu ymddiriedolwyr elusen i fodloni eu gofyniad cyfreithiol er mwyn i’w cyfrifon roi darlun gwir a theg
- annog cysondeb mewn safonau cyfrifyddu
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016, defnyddiwch SORP Elusennau (FRS 102) os yw’ch elusen yn paratoi cyfrifon croniadau oni bai bod SORP penodol ar gyfer eich math chi o elusen, er enghraifft;
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu cyn 1 Ionawr 2015, defnyddiwch SORP 2005.
Ar gyfer un flwyddyn (cyfnodau cyfrifyddu yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2015), os ydych yn endid llai, ceir dewis rhwng defnyddio naill ai:
- y FRSSE SORP neu
- y FRS 102 SORP
Bydd eich elusen yn cael ei hystyried yn endid llai a gall ddefnyddio FRSSE SORP os yw unrhyw ddau o’r datganiadau canlynol yn wir:
- mae ei hincwm yn llai na £6.5m
- mae gwerth ei holl asedau yn llai na £3.26m
- nid yw’n cyflogi mwy na 50 aelod o staff
Fel arall, bydd angen i chi ddefnyddio FRS 102 SORP
Adrodd ar fudd cyhoeddus eich elusen
Os ydych chi’n cwblhau adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr syml neu lawn, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi adrodd sut rydych chi wedi cyflawni dibenion eich elusen er budd y cyhoedd.
Mae hyn yn helpu pobl, gan gynnwys cyllidwyr a buddiolwyr, i ddeall pam mae’ch elusen yn gwneud beth mae’n ei wneud. Os yw incwm eich elusen yn llai na £500,000, gallwch ddewis sut i adrodd hyn. Ond fan lleiaf mae’n rhaid i chi ddweud:
- beth yw dibenion elusennol eich elusen
- beth y mae wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r dibenion hynny
- eich bod wedi ystyried canllawiau budd cyhoeddus y comisiwn wrth wneud unrhyw benderfyniad y mae’n berthnasol iddo
Os yw incwm eich elusen yn fwy na £500,000 mae’n rhaid i chi hefyd:
- esbonio eich strategaeth ar gyfer bodloni ei dibenion elusennol
- rhestru unrhyw weithgareddau arwyddocaol rydych chi wedi’u cyflawni fel rhan o’r strategaeth hon
- rhoi manylion am yr hyn roedd eich elusen wedi’i wneud wrth ymgymryd â’r gweithgareddau hyn i gyflawni ei dibenion