Cyfraddau a throthwyon ar gyfer cyflogwyr am 2024 i 2025
Defnyddiwch y cyfraddau a’r trothwyon hyn pan fyddwch yn gweithredu’ch cyflogres neu’n darparu treuliau a buddiannau i’ch cyflogeion.
Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau canlynol yn berthnasol rhwng 6 Ebrill 2024 a 5 Ebrill 2025.
Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Fel arfer rydych yn gweithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn i CThEF allu casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol oddi wrth eich cyflogeion.
Bydd eich meddalwedd gyflogres yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol i’w didynnu oddi wrth gyflog eich cyflogeion. Os byddwch yn dewis rhedeg y gyflogres eich hun, mae angen i chi ddod o hyd i feddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hyn.
Trothwyon, cyfraddau a chodau treth
Mae swm y Dreth Incwm a ddidynnwch o’ch cyflogeion yn dibynnu ar eu cod treth a faint o’u hincwm trethadwy sy’n uwch na’u Lwfans Personol.
Lloegr a Gogledd Iwerddon
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
Cyfanswm TWE | Cyfradd dreth | Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn berthnasol iddynt (uwchben y trothwy TWE) |
---|---|---|
Cyfradd treth sylfaenol | 20% | Hyd at £37,700 |
Cyfradd treth uwch | 40% | O £37,701 i £125,140 |
Cyfradd treth ychwanegol | 45% | Mwy na £125,140 |
Yr Alban
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
Cyfanswm TWE | Cyfradd dreth | Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn gymwys iddynt (uwchlaw’r trothwy TWE) |
---|---|---|
Cyfradd dreth cychwyn | 19% | Hyd at £2,306 |
Cyfradd treth sylfaenol | 20% | O £2,307 i £13,991 |
Cyfradd dreth ganolradd | 21% | O £13,992 i £31,092 |
Cyfradd treth uwch | 42% | O £31,093 i £62,430 |
Cyfradd dreth uwch | 45% | O £62,431 i £125,140 |
Cyfradd dreth uchaf | 48% | Mwy na £125,140 |
Cymru
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
Cyfanswm TWE | Cyfradd dreth | Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn berthnasol iddynt (uwchben y trothwy TWE) |
---|---|---|
Cyfradd treth sylfaenol | 20% | Hyd at £37,700 |
Cyfradd treth uwch | 40% | O £37,701 i £125,140 |
Cyfradd treth ychwanegol | 45% | Mwy na £125,140 |
Codau treth dros dro
Dyma’r codau treth dros dro o 6 Ebrill 2024 ymlaen:
- 1257L W1
- 1257L M1
- 1257L X
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am godau treth dros dro.
Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Dim ond ar enillion sy’n uwch na’r terfyn enillion isaf y cewch wneud didyniadau Yswiriant Gwladol.
Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 | 2024 i 2025 |
---|---|
Terfyn Enillion Isaf | £123 yr wythnos £533 y mis £6,396 y flwyddyn |
Prif Drothwy | £242 yr wythnos £1,048 y mis £12,570 y flwyddyn |
Trothwy Eilaidd | £175 yr wythnos £758 y mis £9,100 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf porthladdoedd rhydd | £481 yr wythnos £2,083 y mis £25,000 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf Parth Buddsoddi | £481 yr wythnos £2,083 y mis £25,000 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf (dan 21) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Trothwy eilaidd uchaf i brentis (prentis dan 25) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Trothwy Eilaidd Uchaf i gyn-filwyr | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Terfyn Enillion Uchaf | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai (prif gyfraniadau)
Didynnwch brif gyfraniadau (Yswiriant Gwladol y cyflogai) oddi wrth gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.
Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion sy’n cyrraedd y Terfyn Enillion Isaf, neu sy’n uwch na’r terfyn, hyd at a chan gynnwys y Prif Drothwy | Enillion sy’n uwch na’r Prif Drothwy, hyd at a chan gynnwys y Terfyn Enillion Uchaf | Balans yr enillion sy’n uwch na’r Terfyn Enillion Uchaf |
---|---|---|---|
A | 0% | 8% | 2% |
B | 0% | 1.85% | 2% |
C | dim | dim | dim |
D (Parth Buddsoddi — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
E (Parth Buddsoddi — cyfradd is menywod priod a gweddwon) | 0% | 1.85% | 2% |
F (Porthladd Rhydd) | 0% | 8% | 2% |
H (prentis dan 25) | 0% | 8% | 2% |
I (Porthladd Rhydd — cyfradd is menywod priod a gweddwon) | 0% | 1.85% | 2% |
J | 0% | 2% | 2% |
K (Parth Buddsoddi — pensiynwr y wladwriaeth) | dim | dim | dim |
L (Porthladd Rhydd — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
M (dan 21) | 0% | 8% | 2% |
N (Porthladd Rhydd) | 0% | 8% | 2% |
S (Porthladd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | dim | dim | dim |
V (cyn-filwr) | 0% | 8% | 2% |
Z (dan 21 — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd)
Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr.
Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion sy’n cyrraedd y Terfyn Enillion Isaf, neu sy’n uwch na’r terfyn, hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd | Enillion uwch na’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys trothwyon eilaidd uchaf Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi | Enillion uwchben trothwyon eilaidd uchaf Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi hyd at a chan gynnwys terfyn enillion uchaf, trothwyon eilaidd uchaf ar gyfer pobl dan 21 oed, prentisiaid a chyn-filwyr | Cydbwysedd enillion uwch na’r terfyn enillion uchaf, trothwyon eilaidd uchaf ar gyfer pobl dan 21 oed, prentisiaid a chyn-filwyr |
---|---|---|---|---|
A | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
B | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
C | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
D (Parth Buddsoddi — gohirio) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
E (Parth Buddsoddi — cyfradd is menywod priod agweddwon) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
F (Porthladd Rhydd) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
H (prentis dan 25) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
I (Porthladd Rhydd — cyfradd is menywod priod agweddwon) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
J | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
K (Parth Buddsoddi — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
L (Porthladd Rhydd — gohirio) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
M (dan 21) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
N (Porthladd Rhydd) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
S (Porthladd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
V (cyn-filwr) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
Z (dan 21 — gohirio) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddiannau
Mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion — er enghraifft, ffôn symudol y cwmni. Rydych yn rhoi gwybod am, a thalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar, dreuliau a buddiannau ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer 2024 i 2025 yw 13.8%.
Dysgwch ragor am dreuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr.
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar swm y dyfarniadau terfynu (yn agor tudalen Saesneg) a delir i gyflogeion sydd dros £30,000 ac ar swm y taliadau tystebau chwaraeon a delir gan bwyllgorau annibynnol sydd dros £100,000. Rydych yn rhoi gwybod am ac yn talu Dosbarth 1A ar y mathau hyn o daliadau yn ystod y flwyddyn dreth fel rhan o’ch cyflogres.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon ar gyfer 2024 i 2025 yw 13.8%.
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr.
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliad TWE (PSAs)
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych Gytundeb Setliad TWE. Mae hyn yn caniatáu i chi wneud taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B ar gyfer 2024 i 2025 yw 13.8%
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r cyflog isaf yr awr y mae gan bron pob gweithiwr yr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Dysgwch ragor am bwy all gael yr isafswm cyflog (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch y gyfrifiannell Isafswm Cyflog Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydych yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithwyr neu a oes arnoch daliadau iddynt o flynyddoedd blaenorol.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Ebrill 2024 ymlaen.
Categori’r gweithiwr | Cyfradd gyflog fesul awr |
---|---|
21 oed neuʼn hŷn (Cyfradd gyflog byw cenedlaethol) | £11.44 |
18 – 20 yn gynwysedig | £8.60 |
O dan 18 (ond dros yr oedran gadael ysgol orfodol) | £6.40 |
Prentisiaid dan 19 oed | £6.40 |
Prentisiad 19 a throsodd ond yn y flwyddyn gyntaf o’u prentisiaeth | £6.40 |
Gwiriwch gyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer y blynyddoedd blaenorol.
Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Defnyddiwch y gyfrifiannell mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r canlynol ar gyfer eich cyflogeion:
- Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
- tâl tadolaeth neu fabwysiadu
- wythnos gymhwysol
- enillion wythnosol cyfartalog
- cyfnod absenoldeb
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 7 Ebrill 2024 ymlaen.
Math o daliad neu adferiad | Cyfradd 2024 i 2025 |
---|---|
Tâl Statudol Mamolaeth Statudol — cyfradd wythnosol ar gyfer y chwe wythnos cyntaf | 90% o enillion wythnosol y cyflogai ar gyfartaledd |
Tâl Mamolaeth Statudol — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddilliol | £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa run bynnag sydd is yw’r isaf |
Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) — cyfradd wythnosol | £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf |
Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) — cyfradd wythnosol ar gyfer y chwe wythnos gyntaf | 90% o enillion wythnosol y cyflogai ar gyfartaledd |
SAP — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddilliol | £184.03 neu 90% o enillionwythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd leiaf |
Tâl Statudol ar y cyd i Rieni (ShPP) — cyfradd wythnosol | £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf |
Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP) — cyfradd wythnosol | £184.03 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf |
SMP, SPP, ShPP, SAP neu SPBP — canran cyfran o’ch taliadau y gallwch eu hadennill o CThEF | 92% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (cyfraniadau cyflogeion a chyflogwyr) yn uwch na £45,000 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol 103% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol yn £45,000 neu’n is |
Tâl Salwch Statudol (SSP)
Mae’r un gyfradd wythnosol o Dâl Salwch Statudol yn gymwys i bob cyflogai. Fodd bynnag, mae’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu mewn gwirionedd i’r cyflogai am bob diwrnod y mae’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch (y gyfradd ddyddiol) yn dibynnu ar nifer y ‘diwrnodau cymhwysol’ y mae’n gweithio bob wythnos.
Defnyddiwch y cyfrifiannell Tâl Salwch Statudol (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo tâl salwch eich cyflogai, neu ddarllen sut i gyfrifo Tâl Salwch Statudol eich cyflogai â llaw (yn agor tudalen Saesneg) gan ddefnyddio’r cyfraddau hyn.
Cyfraddau dyddiol heb eu talgrynnu | Nifer y diwrnodau cymhwysol yn yr wythnos |
---|---|
£16.6785 | 7 |
£19.4583 | 6 |
£23.35 | 5 |
£29.1875 | 4 |
£38.9166 | 3 |
£58.375 | 2 |
£116.75 | 1 |
7 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 7 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £16.68 |
2 | £33.36 |
3 | £50.04 |
4 | £66.72 |
5 | £83.40 |
6 | £100.08 |
7 | £116.75 |
6 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 6 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £19.46 |
2 | £38.92 |
3 | £58.38 |
4 | £77.84 |
5 | £97.30 |
6 | £116.75 |
5 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 5 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £23.35 |
2 | £46.70 |
3 | £70.05 |
4 | £93.40 |
5 | £116.75 |
4 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 4 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £29.19 |
2 | £58.38 |
3 | £87.57 |
4 | £116.75 |
3 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 3 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £38.92 |
2 | £77.84 |
3 | £116.75 |
2 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 2 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £58.38 |
2 | £116.75 |
1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
---|---|
1 | £116.75 |
Ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig
Os yw enillion eich cyflogeion uwchlaw’r trothwy enillion, cofnodwch eu didyniadau benthyciad myfyriwr a’u didyniadau benthyciad ôl-raddedig (yn agor tudalen Saesneg) yn eich meddalwedd gyflogres. Bydd yn cyfrifo ac yn didynnu ad-daliadau o’u cyflog yn awtomatig.
Trothwy neu gyfradd | Cyfradd 2024 i 2025 |
---|---|
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 1 | £24,990 y flwyddyn £2,082.50 y mis £480.57 y flwyddyn |
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 2 | £27,295 y flwyddyn £2,274.58 y mis £524.90 y flwyddyn |
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 4 | £31,395 y flwyddyn £2,616.25 y mis £603.75 y flwyddyn |
Didyniadau Benthyciad Myfyrwyr | 9% |
Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad ôl-raddedig | £21,000 y flwyddyn £1,750 y mis £403.84 yr wythnos |
Didyniad Benthyciad Ôl-raddedig | 6% |
Ceir cwmni: cyfraddau tanwydd ymgynghorol
Defnyddiwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol i gyfrifo costau milltiroedd os ydych yn darparu ceir cwmni i’ch cyflogeion.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Rhagfyr 2024 ymlaen.
Maint yr injan | Petrol — swm y filltir | LPG — swm y filltir |
---|---|---|
1400cc neu lai | 12 ceiniog | 11 ceiniog |
1401cc a 2000cc | 14 ceiniog | 13 ceiniog |
Dros 2000cc | 23 ceiniog | 21 ceiniog |
Maint yr injan | Diesel — swm y filltir |
---|---|
1600cc neu lai | 11 ceiniog |
1601cc a 2000cc | 13 ceiniog |
Dros 2000cc | 17 ceiniog |
Caiff ceir hybrid eu trin fel ceir petrol neu diesel at y diben hwn.
Gwiriwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol am gyfnodau blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfradd drydanol ymgynghorol ar gyfer ceir sy’n gwbl drydanol o 1 Rhagfyr 2024 ymlaen
Swm y filltir: 7 ceiniog.
Nid yw trydan yn danwydd at ddibenion buddiant tanwydd ceir.
Cerbydau cyflogeion: taliadau lwfans milltiroedd
Taliadau lwfans milltiroedd yw’r hyn rydych yn ei dalu i’ch cyflogeion am ddefnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer teithiau busnes.
Gallwch dalu swm cymeradwy o daliadau lwfans milltiroedd i’ch cyflogeion bob blwyddyn heb orfod rhoi gwybod i CThEF amdanynt. I gyfrifo’r swm cymeradwy, lluoswch filltiroedd teithio busnes eich cyflogai am y flwyddyn â chyfradd y filltir ar gyfer ei gerbyd.
Dysgwch ragor am roi gwybod am daliadau lwfans milltiroedd a’u talu (yn agor tudalen Saesneg).
Math o gerbyd | Cyfradd fesul milltir busnes 2024 i 2025 |
---|---|
Car | At ddibenion treth — 45 ceiniog ar gyfer y 10,000 cyntaf o filltiroedd busnes yn ystod blwyddyn dreth, yna 25 ceiniog am bob milltir ddilynol At ddibenion Yswiriant Gwladol — 45 ceiniog ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Beic modur | 24 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Beic | 20 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Lwfans Cyflogaeth
Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn caniatáu i gyflogwyr cymwys (yn agor tudalen Saesneg) ostwng eu rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol flynyddol hyd at swm y lwfans blynyddol.
Lwfans | Cyfradd 2024 i 2025 |
---|---|
Lwfans Cyflogaeth | £5,000 |
Ardoll Brentisiaethau
Mae cyflogwyr a chwmnïau cysylltiedig sydd â chyfanswm bil cyflogau blynyddol o dros £3 miliwn yn agored i dalu’r Ardoll Brentisiaethau, sy’n daladwy bob mis. Bydd gan gyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig â chwmni neu elusen arall lwfans blynyddol sy’n gostwng y swm o Ardoll Brentisiaethau y mae’n rhaid i chi ei thalu. Codir yr Ardoll Brentisiaethau ar sail canran o’ch bil cyflog blynyddol.
Lwfans neu dâl | Cyfradd 2024 i 2025 |
---|---|
Lwfans Ardoll Brentisiaethau | £15,000 |
Tâl Ardoll Brentisiaethau | 0.5% |
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Chwefror 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Advisory fuel rates for company cars have been updated.
-
Advisory fuel rates for company cars have been updated.
-
Advisory fuel rates for company cars have been updated.
-
Class 1 National Insurance contribution rates and advisory fuel rates for company cars have been updated.
-
Added translation