Cofrestru partner ar gyfer Hunanasesiad ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan rydych wedi ymuno â phartneriaeth gan ddefnyddio ffurflen SA401.
Os mai chi yw’r partner enwebedig, gallwch gofrestru fel partner ar gyfer Hunanasesiad a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gofrestru drwy anfon ffurflen bost at CThEF.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes un gennych* eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes un gennych
- y dyddiad y dechreuodd eich hunangyflogaeth* y dyddiad y dechreuodd eich hunangyflogaeth
- y dyddiad y gwnaethoch ymuno â’r bartneriaeth
- enw, cyfeiriad a UTR y bartneriaeth
- Rhif Cofrestru’r Cwmni (CRN) os yw’r bartneriaeth yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) neu’n bartneriaeth gyfyngedig sydd wedi’i chofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau ar neu ar ôl 25 Hydref 2010
Dim ond y partner enwebedig all gofrestru ar-lein. Os nad chi yw’r partner enwebedig a’ch bod yn ymuno â phartneriaeth, mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r post.
Cofrestru ar-lein
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru.
Cofrestru drwy’r post
Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- llenwi fersiwn ar-lein o’r ffurflen, ac yna’i hargraffu
- llenwi’r fersiwn PDF o’r ffurflen ar y sgrin, ac yna’i hargraffu
- argraffu’r fersiwn PDF o’r ffurflen, ac yna’i llenwi
Yna, bydd angen i chi anfon eich ffurflen wedi’i llenwi at CThEF.
Llenwi fersiwn ar-lein o’r ffurflen
I ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o’r ffurflen mae angen i chi:
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o’r ffurflen ‘Cofrestru partner ar gyfer Hunanasesiad a CYG Dosbarth 2 (SA401).
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch [email protected] a rhoi gwybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Llenwch fersiwn PDF o’r ffurflen
Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- argraffwch y ffurflen a’i llenwi
- llenwch y ffurflen ar y sgrin, ac yna ei hargraffu
Yna, bydd angen i chi bostio’ch ffurflen wedi’i llenwi i CThEF, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
I gwblhau’r ffurflen ar y sgrin, mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.
-
Llenwch y ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Ar ôl i chi gofrestru
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod i’r dyddiad y daw eich ffurflen i law, ond gall hyn gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.
Os gwnaethoch gofrestru ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eich UTR yn gynt drwy ddefnyddio Ap CThEF neu’ch cyfrif treth personol.
Os na fyddwn wedi cysylltu â chi ar ôl 3 wythnos, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Gallwch wirio’r hyn y gall asiant sy’n cael ei dalu ei wneud ar eich rhan.
Mae sut yr ydych yn awdurdodi’r asiant yn dibynnu ar y dreth, ac efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 neu wasanaeth ar-lein.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Information on what you'll need before you start has been added.
-
Added translation