Cofrestru partneriaeth ar gyfer Hunanasesiad
Cofrestru partneriaeth newydd ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio ffurflen SA400.
Gallwch gofrestru partneriaeth ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gofrestru drwy anfon ffurflen bost at CThEF.
Mae’n rhaid i’r partner enwebedig llenwi’r ffurflen.
Os ydych yn sefydlu partneriaeth gyfyngedig neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC), mae angen i chi gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Darllenwch yr arweiniad ar y canlynol:
- sefydlu a rhedeg partneriaeth gyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg)
- sefydlu a rhedeg partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg)
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- dyddiad dechrau’r bartneriaeth
- dyddiad cyfrifyddu’r bartneriaeth
Cofrestru ar-lein
I gofrestru ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth – os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu gyfeirnod TAW a geir yn eich cyfrif treth busnes
Cofrestru drwy’r post
Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- llenwi fersiwn ar-lein o’r ffurflen, ac yna’i hargraffu
- llenwi fersiwn PDF o’r ffurflen ar y sgrin, a’i hargraffu
- argraffu fersiwn PDF o’r ffurflen, ac wedyn ei llenwi ar bapur
Yna, bydd angen i chi anfon eich ffurflen wedi’i llenwi at CThEF.
Llenwi fersiwn ar-lein o’r ffurflen
I ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o’r ffurflen mae angen i chi:
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o’r ffurflen ‘fersiwn ar-lein o’r ffurflen ‘Cofrestru partneriaeth ar gyfer Hunanasesiad’.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch [email protected] a rhoi gwybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Llenwch fersiwn PDF o’r ffurflen
Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- argraffwch y ffurflen a’i llenwi
- llenwch y ffurflen ar y sgrin, ac yna ei hargraffu
Yna, bydd angen i chi bostio’ch ffurflen wedi’i llenwi i CThEF, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
I gwblhau’r ffurflen ar y sgrin, mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.
-
Llenwch y ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Ar ôl i chi gofrestru
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod i’r dyddiad y daw eich ffurflen i law, ond gall hyn gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.
Os gwnaethoch gofrestru ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eich UTR yn gynt drwy ddefnyddio Ap CThEF neu’ch cyfrif treth busnes.
Os na fyddwn wedi cysylltu â chi ar ôl 3 wythnos, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Gallwch wirio’r hyn y gall asiant sy’n cael ei dalu ei wneud ar eich rhan.
Mae sut yr ydych yn awdurdodi’r asiant yn dibynnu ar y dreth, ac efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 neu wasanaeth ar-lein.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Information on what you'll need before you start has been added.
-
Added translation