Dywedwch wrthym am gwmni sy'n defnyddio'ch manylion personol heb eich caniatâd
Sut i ddweud wrth Dŷ'r Cwmnïau bod cwmni'n defnyddio gwybodaeth bersonol fel eich enw a'ch cyfeiriad heb eich caniatâd.
Os yw cwmni wedi rhoi eich manylion personol i Dŷ’r Cwmnïau heb eich caniatâd, mae angen i chi roi gwybod i ni.
Mae hyn yn cynnwys os yw’r cwmni wedi defnyddio eich:
- enw
- cyfeiriad
Fel arfer, gallwn dynnu eich gwybodaeth oddi ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau os oes digon o dystiolaeth i gefnogi eich achos.
Os yw’ch enw neu gyfeiriad wedi’i ddefnyddio heb eich caniatâd
Dylech ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau os yw’ch enw wedi’i ddefnyddio heb ganiatâd ar gyfer unrhyw rolau mewn cwmni, er enghraifft:
- cyfarwyddwr
- ysgrifennydd y cwmni
- person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) neu berchennog llesiannol
Dylech hefyd ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau os yw cwmni wedi defnyddio eich cyfeiriad heb ganiatâd, fel:
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig
- cyfeiriad gohebiaeth
- cyfeiriad cartref
Sut i ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau bod eich manylion wedi’u defnyddio heb ganiatâd
E-bostiwch [email protected] gan gynnwys:
- yr enw llawn, cyfeiriad llawn, neu’r ddau, a ddefnyddir heb ganiatâd
- pa gwmni neu gwmnïau sydd wedi defnyddio’ch manylion - dewch o hyd i enw a rhif y cwmni
- ar gyfer beth mae’r cwmni wedi defnyddio eich enw, er enghraifft fel cyfarwyddwr neu PRhA
- yr hyn y mae’r cwmni wedi defnyddio’ch cyfeiriad ar gyfer, er enghraifft fel cyfeiriad swyddfa gofrestredig
- p’un a ydych yn gwybod neu os oes gennych unrhyw gysylltiad â’r cwmni neu’r cwmnïau sy’n defnyddio’ch manylion
Mae’n bwysig cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, neu gallai oedi eich achos.
Os ydych chi’n rhoi gwybod am gyfeiriad a ddefnyddir heb eich caniatâd, mae angen i chi gynnwys:
- y dyddiad y gwnaethoch chi ddechrau defnyddio’r cyfeiriad
- tystiolaeth sy’n dangos mai eich cyfeiriad chi ydyw
Gallai eich tystiolaeth fod:
- bil cyfleustodau gyda dyddiad o fewn y 6 mis diwethaf
- gweithred y gofrestrfa tir gyda dyddiad o fewn y 12 mis diwethaf
- cytundeb ysgrifenedig sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r cyfeiriad
- dogfennau sy’n dangos eich hawliau yn y cyfeiriad, megis lesddaliad neu rydd-ddaliad
- tystiolaeth ysgrifenedig o ddechrau a diwedd contract (os ydych yn ddarparwr gwasanaeth)
Gall eich tystiolaeth fod yn gopïau o’r dogfennau gwreiddiol.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth a’ch tystiolaeth yn gyfrinachol. Byddwn ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i gysylltu â chi am eich achos.
Ni fyddwn yn rhannu eich cyfeiriad e-bost na’ch data personol gyda’r cwmni nac unrhyw drydydd parti.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth neu dystiolaeth i gefnogi eich achos.
Unwaith y byddwn wedi prosesu eich achos, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi os gallwn dynnu eich manylion oddi ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Gan ein bod yn delio â nifer uchel o adroddiadau ar hyn o bryd, efallai y bydd yn cymryd amser i ddod yn ôl atoch chi.
Nid oes angen i chi ffonio Tŷ’r Cwmnïau, gan na allwn ddatrys y math hwn o broblem dros y ffôn. Peidiwch ag adrodd eich achos fwy nag unwaith, gan y bydd hyn yn oedi eich achos.
Mwy o ganllawiau ar dwyll a dwyn hunaniaeth
Mae’r broses yn wahanol os ydych chi am gwyno am gwmni. Er enghraifft, os gwerthwyd cynnyrch diffygiol i chi neu os ydych chi’n meddwl ei fod yn sgâm.
Action Fraud yw’r ganolfan adrodd genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddu ar gyfer yr heddlu.
Os cyflawnwyd trosedd, efallai y bydd angen i chi adrodd eich achos i Action Fraud ar-lein neu eu ffonio ar 0300 123 2040.
Os yw’r cwmni wedi’i gofrestru yn yr Alban, bydd angen i chi roi gwybod i Heddlu’r Alban.
Am fwy o arweiniad, ewch i Citizen’s Advice neu Cifas, gwasanaeth atal twyll y DU.
Rheolau a phwerau’r cofrestrydd
Gall y Cofrestrydd Cwmnïau ddiwygio neu anodi’r gofrestr mewn rhai achosion. Gallwch hefyd wneud cais i newid neu dynnu dogfen neu wybodaeth o’r gofrestr.
Gweler ffurflenni Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer pwerau’r cofrestrydd.
Darllenwch ein canllawiau ar beth yw pwerau’r cofrestrydd a phryd y byddwn yn eu defnyddio.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Mehefin 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Medi 2024 + show all updates
-
Updated guidance on the process for reporting a case by email.
-
Updated with new measures under the Economic Crime and Corporate Transparency Act.
-
First published.