Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n marw ar ddaliad
Rhaid i geidwaid gwartheg roi gwybod bod unrhyw wartheg wedi marw i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP), dychwelyd y pasbort gwartheg a chofnodi’r farwolaeth ar gofrestr eu daliad.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Pan fydd gwartheg, byfflos neu fuail yn marw neu’n cael eu lladd ar eich daliad, yn hytrach nag mewn lladd-dy, rhaid ichi wneud y canlynol:
- Rhoi gwybod i GSGP.
- Dychwelyd y pasbort gwartheg (neu’r dogfennau adnabod eraill) i GSGP.
- Cofnodi manylion marwolaeth yr anifail yng nghofrestr eich daliad.
- Trefnu profi’r carcas ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE) o fewn 72 awr, lle bo angen.
- Gwaredu’r carcas.
Rhaid ichi wneud hyn o fewn 7 diwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail, neu’n gynharach. Diwrnod 1 yw’r diwrnod ar ôl i’r anifail farw.
Rhaid ichi gyflawni’r holl weithredoedd hyn er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau
Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, cael llai o daliadau cymhorthdal neu gallech gael eich erlyn.
Mae’r rheolau’n wahanol os yw eich gwartheg chi:
- heb basport am fod hwnnw wedi cael ei wrthod
- wedi’u geni cyn 1996
Chaiff yr anifeiliaid hyn ddim mynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Darllenwch y canllawiau ar wartheg heb basbortau.
Rhoi gwybod am farwolaeth ar-lein
Gallwch roi gwybod am farwolaeth drwy ddefnyddio’r System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) neu becynnau meddalwedd ffermio cydnaws (tudalen gwe yn Saesneg).
I roi gwybod am nifer o farwolaethau, gallwch uwchlwytho ffeil i SOG Ar-lein. Os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud hyn cysylltwch â GSGP.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Rhoi gwybod am farwolaeth dros y ffôn
Os oes gan yr anifeiliaid dagiau clust swyddogol y Deyrnas Unedig, gallwch roi gwybod am eu marwolaethau ar linell ffôn hunanwasanaeth SOG.
Pan fyddwch yn ffonio, bydd arnoch chi angen:
- eich rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg)
- rhifau tagiau clust swyddogol pob anifail
- dyddiad marwolaeth pob anifail
Llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
Ffôn (Cymraeg): 0345 011 1213
Ffôn (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ffôn a rhifau ffôn
Rhoi gwybod am farwolaeth drwy’r post
Llenwch fanylion y farwolaeth ar basbort yr anifail a’i anfon at GSGP. Rhaid iddo gyrraedd o fewn 7 diwrnod ar ôl y farwolaeth.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Dychwelyd dogfennau i GSGP
Mae’r ddogfen sydd gennych ar gyfer eich anifeiliaid yn dibynnu ar ba bryd y cawson nhw eu cofrestru.
Dyddiad cofrestru’r gwartheg | Y ddogfen i’w dychwelyd |
---|---|
Wedi’u cofrestru ar ôl 1 Awst 2011 | Pasbort tudalen sengl (CPP52) |
Wedi’u cofrestru rhwng 28 Medi 1998 a 31 Gorffennaf 2011 | Pasbort tebyg i lyfr sieciau (CPP13) |
Wedi’u cofrestru rhwng 1 Awst 1996 a 27 Medi 1998 | Pasbort gwartheg yr hen ddull (glas a gwyrdd) (CPP1) a thystysgrif gofrestru SOG (COR neu ffurflen CHR3) |
Wedi’u geni, wedi’u mewnforio neu wedi’u symud i Brydain Fawr cyn 1 Awst 1996 | Tystysgrif gofrestru SOG (COR neu CHR3) |
Anifail heb basbort wedi’i eni ar ôl 1 Awst 1996 | Hysbysiad cofrestru (CPP35) neu lythyr os nad yw’r CPP35 wedi’i gadw |
Os ydych chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth ar-lein neu dros y ffôn, does dim angen ichi lenwi manylion y farwolaeth ar basbortau tudalen sengl. Yn hytrach, ticiwch y blwch i ddweud eich bod chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth.
Yn achos pasbortau ar ffurf llyfr sieciau, llenwch fanylion y farwolaeth.
Yn achos pasbortau glas a gwyrdd neu dystysgrifau cofrestru, llenwch ddyddiad a man y farwolaeth ar y pasbort.
Peidiwch ag anfon eich tystysgrif bridio neu’ch tystysgrif bedigri.
Anfonwch y dogfennau yn ôl i:
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad wrth roi gwybod am farwolaeth
Rhowch wybod am unrhyw wallau i GSGP mewn ysgrifen cyn gynted ag y cewch chi wybod am y broblem.
Gallwch chi naill ai:
- anfon neges yn eich cyfrif SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg)
- anfon neges ebost neu anfon llythyr at GSGP
Esboniwch y broblem a chofiwch gynnwys:
- rhif eich daliad
- rhifau’r tagiau clust swyddogol
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost: [email protected]
Cofnodi’r marwolaethau yng nghofrestr eich daliad
Rhaid i bob marwolaeth gael ei chofnodi yng nghofrestr eich daliad. Rhaid ichi wneud hyn o fewn 7 diwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail.
Darllenwch y canllawiau ar gadw cofrestr daliad ar gyfer eich gwartheg.
Cofnodi anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y daliad
Rhaid ichi lenwi manylion marwolaeth anifail yn ei basport os cafodd ei ladd ar eich daliad.
Os cafodd yr anifail ei ladd gan filfeddyg neu weithredwr ladd-dy a’i gymryd i ladd-dy i gael ei drin, rhaid ichi anfon y pasbort gyda’r anifail. Rhaid i’r pasbort ddangos bod yr anifail wedi marw ar eich daliad.
Os bydd llo anghofrestredig yn marw
Mae gwahanol bethau mae’n rhaid ichi eu gwneud gan ddibynnu pryd mae’r llo yn marw
Chewch chi ddim ailddefnyddio tagiau clust llo marw ar gyfer anifail arall.
Cyn ichi osod tagiau clust
Does dim angen ichi roi gwybod am farwolaeth llo i GSGP os yw’n marw cyn ichi osod ei dagiau clust.
Mae’n rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad drwy nodi dyddiad geni’r llo a dyddiad ei farwolaeth gyferbyn â manylion mam y llo.
Cyn ichi wneud cais am basbort
Os bydd llo yn marw ar ôl i chi osod ei dagiau clust, ond cyn i chi wneud cais am ei basport, rhaid ichi ddweud wrth GSGP.
Gallwch chi:
- ddefnyddio SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) neu becynnau meddalwedd ffermio cydnaws (tudalen gwe yn Saesneg)
- defnyddio llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
- anfon cais am basbort gwartheg (ffurflen CPP12) i GSGP - llenwch adrannau 2 a 3 (manylion yr anifail) ac adran 4 (marwolaeth yr anifail)
Llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
Ffôn (Cymraeg): 0345 011 1213
Ffôn (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ffôn a rhifau ffôn
Ar ôl ichi wneud cais am basport
Os ydych chi wedi gosod tagiau clust ar y llo yn barod ac wedi gwneud cais am basport, cysylltwch â GSGP i ddweud wrthyn nhw am y farwolaeth. Pan gewch chi’r pasbort, bydd angen ichi lenwi manylion y farwolaeth a’i anfon yn ôl i GSGP.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Pryd i brofi ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE)
Rhaid i chi drefnu bod y carcas yn cael ei brofi ar gyfer TSE – mae’r prawf yn chwilio am bresenoldeb enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE). Mae angen ichi brofi os oedd yr anifail marw:
- dros 48 mis oed ac wedi’i eni yn y Deyrnas Unedig neu un o’r gwledydd yn y tabl gwledydd a chodau gwledydd isod
- dros 24 mis oed ac wedi’i eni mewn unrhyw wlad arall
Does dim rhaid ichi brofi am TSE os yw’r anifail yn marw ar Ynysoedd Sili, Ynys Lundy, Ynys Enlli, Ynys Echni neu Ynys Bŷr.
Bydd angen ichi naill ai:
- rhwygo’r slip profion TSE oddi ar waelod pasbort tudalen sengl
- cadw cerdyn symud yn ôl os nad oes gan yr anifail basport tudalen sengl
Rhaid i’r slip neu’r cerdyn fynd gyda’r carcas i safle samplu wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).
Pan fydd y carcas yn gadael eich daliad, does dim angen ichi roi gwybod am symudiad oddi ar eich daliad. Bydd y safle samplu yn gwaredu’r carcas.
Bydd anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio neu sy’n cael eu symud i Gymru neu Loegr ac sydd wedi’u haildagio yn dangos y wlad enedigol ar y pasbort a roddwyd gan GSGP.
Tabl gwledydd a chodau gwledydd
Mae angen i anifeiliaid dros 48 mis oed a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig neu un o’r gwledydd sydd wedi’u rhestru yn y tabl gael eu profi ar gyfer TSE.
Gwlad | Cod y wlad |
---|---|
Awstria | AT |
Gwlad Belg | BE |
Cyprus | CY |
Y Weriniaeth Tsiec | CZ |
Denmarc | DK |
Estonia | EE |
Y Ffindir | FI |
Ffrainc | FR |
Yr Almaen | DE |
Groeg | EL |
Hwngari | HU |
Iwerddon | IE |
Yr Eidal | IT |
Latfia | LV |
Lithwania | LT |
Lwcsembwrg | LU |
Malta | MT |
Yr Iseldiroedd | NL |
Gwlad Pwyl | PL |
Portiwgal | PT |
Slofacia | SK |
Slofenia | SI |
Sbaen | ES |
Sweden | SE |
Sut i drefnu prawf TSE
Rhaid mynd â’r carcas i safle samplu wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg) o fewn 72 awr ar ôl ei farwolaeth.
Gallwch chi:
- trefnu iddo gael ei gasglu - rhaid ichi drefnu hyn gyda chasglwr o fewn 24 awr ar ôl marwolaeth yr anifail
- mynd â’r carcas eich hun
I drefnu i anifail gael ei gasglu cysylltwch â naill ai:
- eich casglwr stoc drig lleol (tudalen gwe yn Saesneg)
- y Cwmni Stoc Drig Cenedlaethol (NFSCo) (tudalen gwe yn Saesneg) - dyma gynllun sy’n casglu da byw marw
Anfonwch bob carcas gyda naill ai:
- y slip TSE sydd wedi’i dorri oddi ar basbort tudalen sengl
- cerdyn symud os oes gan yr anifail basbort ar ffurf llyfr sieciau
Does dim angen ichi anfon dim byd gyda’r anifail os dim ond hysbysiad cofrestru sydd ganddo.
Peidiwch ag anfon y pasbort na’r hysbysiad cofrestru gyda’r anifail. Rhaid ichi roi gwybod am y farwolaeth i GSGP a dychwelyd y pasbort neu’r hysbysiad iddyn nhw.
Pryd nad oes rhaid ichi brofi ar gyfer TSE
Does dim rhaid ichi brofi ar gyfer TSE os yw’r anifail yn marw:
- cyn ei fod yn 48 mis oed os cafodd ei eni yn y Deyrnas Unedig neu un o’r gwledydd a restrir yn y tabl gwledydd a chodau gwledydd
- cyn ei fod yn 24 mis oed os na chafodd ei eni yn y gwledydd a restrir yn y tabl
- ar Ynysoedd Sili, Ynys Lundy, Ynys Enlli, Ynys Echni neu Ynys Bŷr
Yn hytrach, rhaid ichi wneud un o’r canlynol:
- anfon y carcas i gytiau helfa neu iard nacer
- defnyddio’ch casglwr stoc drig lleol (tudalen gwe yn Saesneg)
- defnyddio cynllun yr NFSCo (tudalen gwe yn Saesneg)
Gwaredu carcas
Chewch chi ddim claddu na llosgi carcasau ar eich daliad oni bai bod safle hylosgi ar eich daliad wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Darllenwch y canllaw ar sut i waredu stoc drig (tudalen gwe yn Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Cewch losgi neu gladdu stoc drig ar y canlynol:
- Ynysoedd Sili
- Ynys Lundy
- Ynys Enlli
- Ynys Echni
- Ynys Bŷr
Cysylltu â GSGP
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost:[email protected]
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Costau ffôn a rhifau ffôn
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Tachwedd 2022 + show all updates
-
Content has been reviewed for accuracy and reformatted. New information includes signposting to what to do with cattle without passports and how to correct an error.
-
Added translation
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
Updated telephone number for NFSC
-
Updated National Fallen Stock Company telephone number.
-
First published.