Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU drwy’r post
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo neu dir yn y DU os na allwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.
Os ydych yn breswylydd yn y DU, nid oes angen i chi roi gwybod am eich enillion os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU, bydd angen i chi gyfrifo p’un a wnaethoch ennill trethadwy neu golled drethadwy. Mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob gwerthiant a gwarediad o eiddo neu dir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y dyddiad cau, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu.
Pryd mae’n rhaid i chi roi gwybod drwy’r post
Mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen drwy’r post os:
- rydych eisoes wedi cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr un flwyddyn dreth rydych yn rhoi gwybod amdani
- mae angen i chi ddiwygio ffurflen bapur sydd eisoes wedi cael ei hanfon at CThEF
- rydych yn rhoi gwybod fel asiant ar ran cynrychiolydd personol sy’n defnyddio asiant arall i reoli ei gyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU
- rydych yn ymddiriedolwr corfforaethol
- rydych yn ymddiriedolwr dibreswyl ac nad oes angen i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau ac nad oes gennych unrhyw rwymedigaeth Treth Enillion Cyfalaf i’w dalu
- rydych yn gynrychiolydd personol sydd angen diwygio gwybodaeth am Dreth Enillion Cyfalaf sydd eisoes wedi’i hanfon at CThEF
- ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i ddiwygio gwybodaeth am Dreth Enillion Cyfalaf sydd eisoes wedi’i hanfon at CThEF os:
- rydych yn benodai
- mae gennych bŵer twrnai
- rydych yn gweithredu ar ran rhywun arall mewn rhinwedd gyfreithiol debyg
Os nad oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, yna dylech roi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU, a’i thalu, gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF.
Cyn i chi ddechrau
I roi gwybod drwy ddefnyddio’r ffurflen hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cwblhau’r ffurflen.
Rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU
-
Casglwch yr holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch y ffurflen ar-lein.
-
Cadwch ac argraffwch y ffurflen wedi’i llenwi.
-
Llofnodwch y datganiad.
-
Dylech gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol a fydd yn ategu’ch datganiad.
-
Anfonwch drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Ar ôl i chi anfon eich ffurflen
Byddwn yn anfon cyfeirnod talu 14 digid atoch sy’n dechrau gydag ‘x’.
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych erbyn y dyddiad cau.