Rhoi gwybod am grantiau a thaliadau cymorth yn sgil COVID-19
Os ydych yn gweithredu fel busnes, dysgwch a oes angen i chi gynnwys grant neu daliad cymorth yn sgil COVID-19 ar eich Ffurflen Dreth.
Mae grantiau a thaliadau a gafwyd drwy gynlluniau er mwyn cefnogi busnesau ac unigolion hunangyflogedig yn ystod y COVID-19 yn drethadwy.
Pwy ddylai rhoi gwybod am grant neu daliad cymorth
Os cawsoch daliad i’ch cefnogi yn ystod COVID-19 efallai y bydd angen i chi roi gwybod am hyn ar eich Ffurflen Dreth os ydych:
- yn hunangyflogedig
- mewn partneriaeth
- yn fusnes
Pa daliadau sydd angen i chi roi gwybod amdanynt
Mae angen i chi roi gwybod am grantiau a thaliadau o gynlluniau cymorth yn sgil COVID-19. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS)
- taliadau profi ac olrhain neu hunanynysu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
- y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CJRS)
- y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
- Ad-dalu Tâl Salwch Statudol yn sgil Coronafeirws
- Grantiau Cymorth Busnes yn sgil Coronafeirws
Grantiau Cymorth Busnes yn sgil Coronafeirws
Mae’r rhain yn grantiau neu daliadau a wnaed gan un o’r canlynol:
- awdurdodau lleol
- gweinyddiaethau datganoledig
- unrhyw awdurdod cyhoeddus arall
Fe’u gelwir hefyd yn grantiau awdurdodau lleol neu’n grantiau trethi busnes.
Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yn Lloegr yn cynnwys:
- Cronfa Grantiau i Fusnesau Bach
- Cronfa Grantiau Manwerthu, Lletygarwch a Hamdden
- Cronfa Grant Disgresiwn Awdurdod Lleol
- Cronfa Ymateb Pysgodfeydd
Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yng Nghymru yn cynnwys:
- Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru (Grantiau 1 a 2)
- Cronfa Cadernid Economaidd
Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yn yr Alban yn cynnwys:
- Cronfa Cymorth Busnes
- Cronfa Caledi Newydd Hunangyflogedig
- Cronfa Caledi Mentrau Creadigol, Twristiaeth a Lletygarwch
- Cronfa Gwydnwch Menter Canolog
- Cronfa Caledi Dyframaeth
- Cronfa Caledi Pysgodfeydd Môr
Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys:
- Cynllun Grant Cymorth i Fusnesau Bach
- Grant Manwerthu, Lletygarwch, Twristiaeth a Hamdden
- cronfeydd argyfwng a chaledi eraill yn sgil COVID-19 sy’n gysylltiedig â busnes
Os ydych wedi cael Grant Cymorth Busnes yn sgil Coronafeirws, mae angen talu treth arnynt.
Mae rhai eithriadau, er enghraifft, os cafodd y grant ei wneud i sefydliad masnachu ar y cyd.
Sut i roi gwybod am grant neu daliad
Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dylai taliadau SEISS gael eu rhoi yn y blwch Grantiau’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Dylech gofnodi bob taliad COVID-19 trethadwy arall yn y blwch ar gyfer unrhyw incwm busnes arall.
Os ydych yn hunangyflogedig, dysgwch sut i roi gwybod am eich grant neu daliad drwy ddefnyddio:
- nodiadau SA103S — byr
- nodiadau SA103F — llawn
Os ydych mewn partneriaeth, dysgwch sut i roi gwybod am eich grant neu daliad drwy ddefnyddio:
- nodiadau SA104S — byr
- nodiadau SA104F — llawn
Ffurflen Dreth y Cwmni
Os cawsoch grant Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws neu daliad cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, bydd angen i chi wneud y ddau beth canlynol:
- ei drin fel incwm wrth gyfrifo’ch elw trethadwy yn unol â’r safonau cyfrifyddu perthnasol
- rhoi gwybod amdano ar wahân ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni gan ddefnyddio’r blychau ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
Dylech gofnodi bob taliad COVID-19 trethadwy arall fel incwm pan ydych yn cyfrifo’ch elw trethadwy.
Dysgwch sut i roi gwybod am grant neu daliad ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (CT600) (yn Saesneg).
Pa daliadau sydd ddim angen i chi roi gwybod amdanynt
Nid oes angen i chi roi gwybod am daliad cymorth yn sgil COVID-19 ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yw hwn yn daliad lles a wnaed gan gyngor i unigolyn, er enghraifft i helpu â’r canlynol:
- taliadau treth gyngor
- budd-dal tai
Nid yw benthyciadau Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil Coronafeirws a Benthyciadau Adfer yn daliadau cymorth nac yn grantiau yn sgil COVID-19. Does dim angen i chi roi gwybod am y rhain ar eich Ffurflen Dreth.
Help a chymorth
Os nad ydych yn siŵr a yw’r taliad cymorth yn sgil COVID-19 a gawsoch yn drethadwy neu os hoffech gael rhagor o help, dylech ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Awst 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Medi 2023 + show all updates
-
The guidance has been updated, as the COVID-19 helpline for businesses and the self-employed is now closed.
-
New section 'Company Tax Return' added. This explains that grants and payments to support businesses during coronavirus (COVID-19) are taxable and need to be declared on Company Tax Returns.
-
First published.