Canllawiau

Anfon tystiolaeth o’ch manylion personol i CThEF

Os yw CThEF wedi gofyn i chi am dystiolaeth o’ch manylion personol, neu eich bod wedi cael llythyr yn gwneud cais amdanynt, defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn gwneud hynny.

Defnyddiwch y ffurflen hon os yw CThEF wedi gofyn i chi am dystiolaeth o’ch manylion personol, neu eich bod wedi cael llythyr yn gwneud cais amdanynt.

Dylech dim ond defnyddio’r ffurflen hon os yw CThEF wedi gofyn i chi anfon tystiolaeth.

Dysgwch sut i roi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi uwchlwytho delwedd neu PDF o’ch tystiolaeth, a’i hanfon.

Mae’n rhaid bod y dystiolaeth hon yn dangos eich dyddiad geni.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth y byddwch yn ei huwchlwytho ac yn ei hanfon fod yn ddelwedd o’r ddogfen wreiddiol, neu’n gopi ardystiedig o’r ddogfen wreiddiol. Diffinnir ‘copi ardystiedig’ fel copi gwir o ddogfen wreiddiol sydd wedi’i stampio â dyddiad a’i lofnodi gan un o’r canlynol:

  • cyflogai i adran o’r Llywodraeth
  • sefydliad cyfreithiol, er enghraifft, cyfreithwyr neu gyfrifwyr
  • corff meddygol, er enghraifft, meddygfa

O’r tu allan i’r DU, gallwch gael copi ardystiedig gan y canlynol:

  • swyddfa’r maer
  • conswl Prydain

Tystiolaeth y gallwch ei hanfon

Mae’n bosibl y bydd angen i chi uwchlwytho ac anfon un neu ddwy ddelwedd o dystiolaeth, yn dibynnu ar y fath o ddogfennau sydd gennych.

Pan fyddwch yn anfon un ddogfen

Dylech uwchlwytho ac anfon delwedd o unrhyw un o’r dogfennau canlynol a gyhoeddwyd yn y DU, yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir. Eich:

  • tystysgrif geni
  • trwydded yrru lawn neu drwydded yrru dros dro
  • cerdyn adnabod
  • pasbort

Pan fyddwch yn anfon dwy ddogfen

Dylech uwchlwytho ac anfon delwedd o ddau o’r dogfennau canlynol. Eich:

  • pasbort, wedi’i gyhoeddi gan wlad heblaw am y DU, yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir
  • tystysgrif geni, wedi’i chyhoeddi gan wlad heblaw am y DU, yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir
  • tystysgrif dinasyddio
  • dogfen deithio’r Swyddfa Gartref
  • tystysgrif gwasanaethu yn Lluoedd Ei Fawrhydi
  • tystysgrif gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol
  • tystysgrif priodas
  • tystysgrif partneriaeth sifil
  • tystysgrif mabwysiadu

Os nad oes gennych y dogfennau a restrir

Os nad oes gennych unrhyw un o’r dogfennau hyn, gallwch uwchlwytho ac anfon delwedd o dystiolaeth arall sy’n dangos eich dyddiad geni. Byddwn wedyn yn ystyried a allwn ddefnyddio’r ddelwedd hon.

Anfon eich tystiolaeth

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i anfon delwedd o’ch tystiolaeth.

Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth — os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf
  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Dechrau nawr

Bydd modd i chi gadw’ch atebion am 28 diwrnod. Yn ystod yr amser hwn, gallwch ddychwelyd i’r ffurflen i ychwanegu rhagor o wybodaeth at eich atebion cyn ei chyflwyno.

Os na allwch anfon eich tystiolaeth ar-lein

Dylech anfon eich tystiolaeth — neu gopi ardystiedig ohono — drwy’r post at CThEF os nad oes modd i chi ei hanfon ar-lein. Anfonwch eich tystiolaeth at:

Cyllid a Thollau EF
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
HMRC
BX9 1ST

Ar ôl i chi anfon eich tystiolaeth

Byddwn yn adolygu’ch tystiolaeth ac yna’n cysylltu â chi. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Tachwedd 2024 + show all updates
  1. The list of evidence you can send has been updated and guidance on how to send information if you cannot use the online form has been added. A Welsh translation of the guidance has also been added.

  2. Added translation

Print this page