Canllawiau

Mewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes CThEF

Os ydych yn rheoli un neu fwy o drethi busnes ar-lein, mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes i weld eich sefyllfa dreth a rheoli’ch trethi i gyd mewn un man.

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer treth busnes ar-lein.

Pwy all ddefnyddio cyfrif treth busnes

Gall unigolion, unig fasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig ddefnyddio cyfrif treth busnes er mwyn gwirio eu sefyllfa dreth ar gyfer mwy na 40 o drethi, gan gynnwys:

  • Hunanasesiad
  • TAW
  • TWE
  • Treth Gorfforaeth

Os ydych eisoes yn rheoli’ch treth busnes ar-lein, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes.

Defnyddio’ch cyfrif

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes CThEF i wneud y canlynol:

  • gwirio’ch sefyllfa dreth ar gyfer trethi yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer
  • cyflwyno Ffurflenni Treth a gwneud taliadau
  • ychwanegu neu dynnu treth, toll neu gynllun
  • rhoi caniatâd i aelod o’r tîm i gael mynediad at dreth, toll neu gynllun
  • gwirio negeseuon diogel oddi wrth CThEF
  • ychwanegu, newid neu fwrw golwg dros asiant treth
  • cael help gyda’ch trethi
  • diweddaru’ch manylion cyswllt
  • cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur
  • newid eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a’ch dewisiadau diogelwch

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen yr ID Defnyddiwr a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru treth busnes am y tro cyntaf.

Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio drwy’r cyfrif treth busnes

Gallwch ddefnyddio’r cyfrif treth busnes ar gyfer:

  • Dyfarniadau Tariffau Ymlaen Llaw
  • Dyfarniadau Prisio Ymlaen Llaw
  • Datganiadau Warws Alcohol a Thybaco (ATWD)
  • Toll Alcohol
  • Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol (AWRS)
  • Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ATED)
  • Cyfnewid Gwybodaeth yn Awtomatig (AEOI)
  • Elusennau
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
  • Treth Gorfforaeth
  • Datganiadau Electronig i Ohirio Tollau (DDES)
  • Ardoll Troseddau Economaidd (ECL)
  • Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS)
  • System Symudiadau a Rheolaeth Ecséis (EMCS)
  • Cynllun Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Busnesau Cyflawni
  • Gwasanaeth Treth Hapchwarae (GTS)
  • System Rheoli Mewnforion
  • Datganiad Atodol Intrastat
  • Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD)
  • Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
  • Goruchwyliaeth Gwyngalchu Arian
  • System Gludo Gyfrifiadurol Newydd (NCTS)
  • System Allforio Newydd (NES)
  • Y Gwasanaeth Un Cam (GUC)
  • TWE i gyflogwyr
  • Cynlluniau Pensiwn ar gyfer gweinyddwyr
  • Cynlluniau Pensiwn ar gyfer ymarferwyr
  • Gwasanaeth Digidol Pensiynau Ar-lein
  • Ymarferydd Pensiynau Gwasanaeth Digidol Pensiynau Ar-lein
  • Cyfrif treth personol
  • Colofn 2
  • Treth Deunydd Pacio Plastig
  • Gwasanaeth Ymholiadau Olew Ad-daledig
  • Hunanasesiad
  • Hunanasesiad ar gyfer partneriaethau ac ymddiriedolaethau
  • Gweithle sy’n cael ei Rannu
  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
  • Treth Dir y Tollau Stamp ar-lein ar gyfer sefydliadau
  • Cyflwyno adroddiad cyfryngwr cyflogaeth
  • Gwasanaeth Ymholiadau Olew ‘Tied’
  • TAW — Rhestr Gwerthiannau yn y GE (ECSL)
  • Ad-daliadau TAW yr UE
  • TAW — Gwybodaeth y Llywodraeth ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cenedlaethol (GIANT)
  • Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio)
  • Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW — busnesau y tu allan i’r UE (GUC TAW Di-undeb)
  • Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW — busnesau o fewn yr UE (Undeb GUC TAW)
  • TAW — Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA)

Rhagor o wybodaeth

Gwyliwch fideo am sut i ychwanegu treth i’w rheoli drwy’ch cyfrif treth busnes.

Sut i ychwanegu treth drwy’ch Cyfrif Treth Busnes.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2024 + show all updates
  1. Alcohol Duty, Pillar 2 and VAT Import One Stop Shop (IOSS) have been added to the list of services you can use from the business tax account.

  2. Economic Crime Levy (ECL), Employment Related Securities (ERS) and Intrastat Supplementary Declaration have been added to the list of services you can use from the business tax account. The electronic Binding Tariff Information (eBTI) service has been removed from the list as it is no longer available.

  3. The VAT Reverse Charge Sales List has been removed from the list of services you can use from your business tax account, as this service has been decommissioned.

  4. Added 'Advance Valuation Rulings' to the list of services you can use from the business tax account.

  5. The list of services you can use from the business tax account has been updated.

  6. You can now access the OSS Union scheme through your HMRC business tax account.

  7. Watch a video about how to add a service through your Business Tax Account has been added.

  8. Added translation

Print this page