Canllawiau

Storio, prosesu neu gynhyrchu nwyddau ecséis mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU

Dysgwch pwy all gael ei awdurdodi i storio, prosesu neu gynhyrchu nwyddau ecséis mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU a sut mae gwneud cais i wneud hynny.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.

Trosolwg 

Mae’r arweiniad hwn yn egluro pwy sy’n gallu gweithredu ym maes nwyddau ecséis ar safle tollau Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘barth rhydd’) a beth mae’n rhaid i chi ei wneud. Dylech ei ddarllen os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • hoffech fewnforio, allforio, cynhyrchu, trin, storio, prosesu, pecynnu, cludo neu ddelio mewn nwyddau ecséis ar safle tollau Porthladd Rhydd 

  • hoffech gael eich awdurdodi fel busnes ecséis Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘fusnes ecséis parth rhydd’) a’ch cymeradwyo i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘warws ecséis parth rhydd’) ac:

    • rydych yn dymuno cael eich cymeradwyo a’ch cofrestru fel perchennog Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘berchennog cofrestredig parth rhydd’) i roi nwyddau ecséis rydych yn berchen arnynt mewn warws ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig 

    • rydych yn dymuno cael eich cymeradwyo a’ch cofrestru fel cynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘gynrychiolydd tollau parth rhydd’), yn gweithredu ar ran masnachwr tramor

Ystyr ‘parth rhydd’ yw ardal yn y DU sydd wedi’i dynodi’n ardal arbennig at ddibenion tollau o dan adran 100A o CEMA 1979. 

Ystyr perchennog cofrestredig parth rhydd yw masnachwr refeniw sydd wedi’i gymeradwyo i roi nwyddau ecséis perthnasol y mae’n berchen arnynt mewn warws ecséis parth rhydd o dan reoliad 85D(2).

Ystyr cynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd yw masnachwr refeniw sydd wedi’i gymeradwyo i weithredu fel asiant ar ran masnachwyr refeniw tramor o dan reoliad 85D(3). 

Gall CThEF ddewis a yw am wneud y canlynol:

  • caniatáu i awdurdodiad neu gymeradwyaeth sy’n bodoli’n barod barhau 

  • cymeradwyo a chofrestru safleoedd a busnesau ecséis Porthladd Rhydd newydd 

  • cymeradwyo safleoedd newydd ac ychwanegol 

  • cymeradwyo a chofrestru perchnogion Porthladd Rhydd newydd neu gynrychiolwyr tollau Porthladd Rhydd ar gyfer nwyddau ecséis

Fe allech gael cosb os na fyddwch yn gwneud cais am awdurdodiad neu gymeradwyaeth ar yr adeg gywir. 

Bydd CThEF bob amser yn:

  • adolygu cydymffurfiad busnesau ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig sy’n bodoli’n barod 

  • gwirio pob cais newydd

Pwy y gellir ei awdurdodi fel busnes ecséis Porthladd Rhydd i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd

Mae busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig wedi’i gymeradwyo i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd ar gyfer naill ai:

  • datgan nwyddau i weithdrefn Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘weithdrefn parth rhydd’)  
  • cyflawni gweithgaredd Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘weithgaredd parth rhydd’)

Ystyr busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig yw busnes sydd wedi’i awdurdodi fel busnes ‘parth rhydd’ ac sydd hefyd wedi’i gymeradwyo i weithredu warws ecséis parth rhydd yn unol â rheoliad 85C. Mae gweithdrefn parth rhydd yn golygu gweithdrefn storio a ddisgrifir ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018.

Mae warws ecséis Porthladd Rhydd yn fan diogel i roi, cadw a diogelu nwyddau ecséis mewn gweithdrefn Porthladd Rhydd. 

Mae gweithgaredd Porthladd Rhydd yn weithgaredd sy’n dod o dan y disgrifiad yn rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Tollau (Gweithdrefnau Arbennig a Phrosesu Allanol) (Ymadael â’r UE) 2018.

Gwneud cais i gael eich awdurdodi fel busnes ecséis Porthladd Rhydd i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd

Mae’n rhaid i chi wneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd. Mae’n rhaid i berson cyfrifol yn y busnes lenwi a llofnodi’r ffurflen gais. Bydd y person hwn yn un o’r canlynol:

  • unig berchennog y busnes 

  • un o’r partneriaid os yw’r busnes yn bartneriaeth 

  • cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni, neu lofnodwr awdurdodedig os yw’r busnes yn gorff corfforaethol

Fel rhan o’ch cais mae’n rhaid i chi gynnwys:  

  • copïau o luniadau neu gynlluniau sy’n dangos manylion ardal y warws arfaethedig sy’n ceisio cymeradwyaeth 

  • copi (neu grynodeb) o asesiad risg iechyd a diogelwch eich safle 

  • unrhyw wybodaeth arall y gallwn ofyn amdani (er enghraifft, cynlluniau busnes)

Bydd eich cais yn cael ei ystyried a byddwn yn cynnal gwiriadau cefndir. Os nad yw’r gwiriadau hyn yn ddigon i ni benderfynu, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth. Bydd eich cais yn cael ei ohirio nes i’r wybodaeth hon ddod i law.

Efallai y byddwn yn ymweld â chi cyn cymeradwyo’ch cais er mwyn i ni gael gwybodaeth i’n helpu i brosesu’r cais. 

Yn ystod unrhyw ymweliadau â’ch safle, byddwn yn archwilio holl weithgareddau’r busnes ac efallai y byddwn yn holi am y canlynol:

  • eich cyflenwyr 

  • eich cwsmeriaid 

  • eich cynlluniau busnes 

  • eich systemau cyfrifyddu 

  • eich safle 

  • eich hyfywedd ariannol 

  • materion perthnasol eraill

Mae’r prawf gweddus a phriodol yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.

Bydd angen i chi brofi eich bod yn weddus ac yn briodol i gyflawni gweithgareddau ecséis yn y Porthladd Rhydd er mwyn cael eich cymeradwyo. Darllenwch ragor am y profion gweddus a phriodol yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg).

Er mwyn i CThEF ystyried cymeradwyo’ch warws ecséis Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dangos gwir angen am gyfleusterau storio warws ecséis Porthladd Rhydd yn yr ardal 

  • darparu gwarant (os byddwn yn penderfynu bod angen un) 

  • sicrhau bod y safle’n ddiogel 

  • sicrhau bod y safle’n caniatáu i CThEF gael mynediad diogel i’r holl ardaloedd cymeradwy a’r stoc â thollau wedi’u gohirio 

  • sicrhau bod eich systemau’n caniatáu i ni gynnal archwiliad ac unrhyw wiriadau eraill 

  • bodloni’r holl amodau a nodir yn yr arweiniad hwn 

  • bodloni unrhyw amodau eraill y gallem eu gosod ar eich cymeradwyaeth

Pan fyddwn yn eich awdurdodi, byddwch yn cael llythyr sy’n nodi’r amodau awdurdodi a’r hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf.

Eich rhwymedigaethau fel busnes ecséis Porthladd Rhydd i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd

Cyn i chi dderbyn nwyddau yn eich warws, mae’n rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • bod perchennog y nwyddau yn berchennog ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig 

  • os yw’r adneuwr yn berchennog tramor, ei fod wedi penodi cynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd 

  • nad oes angen i’r perchennog gofrestru 

  • os ydych yn delio â nwyddau alcohol, mae angen i chi gynnal diwydrwydd dyladwy ar eich cadwyni cyflenwi i sicrhau bod nwyddau’n dod o ffynonellau cyfreithlon

Cynnal diwydrwydd dyladwy

Ystyr diwydrwydd dyladwy yw’r gofal y mae cwmni’n ei gymryd wrth wneud y canlynol: 

  • dechrau cysylltiadau busnes neu gontractau gyda chwmnïau eraill 

  • ymateb i risgiau masnachu a nodwyd

Heb ddiwydrwydd dyladwy, mae risgiau ar draws cadwyni cyflenwi o ddod yn gysylltiedig â masnachu anghyfreithlon.

Bydd gwneud hynny’n helpu i wneud y canlynol: 

  • atal masnachu anghyfreithlon mewn cadwyni cyflenwi alcohol 

  • lleihau’r risg i fusnesau o rwymedigaethau ariannol ar nwyddau nad yw tollau wedi’u talu ar eu cyfer

Mae diwydrwydd dyladwy yn un o amodau’ch cymeradwyaeth. Darllenwch ragor am ddiwydrwydd dyladwy yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg).

Cadw cofnodion 

Fel rhan o’r weithdrefn ar gyfer eich awdurdodi fel busnes tollau Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu cadw cofnodion masnachol.

Mae’n rhaid i’ch cofnodion ddangos manylion yr holl nwyddau ecséis a ddaeth i law, a gafodd eu storio, eu prosesu a’u symud o’ch safle.

Cofnodion electronig

Os ydych yn cadw cofnodion digidol (er enghraifft, ar-lein), dylech roi gwybod i ni am y feddalwedd rydych yn bwriadu ei defnyddio pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd. 

Nid yw CThEF yn cymeradwyo unrhyw becyn meddalwedd penodol. Efallai na fydd pecynnau meddalwedd a ddefnyddir mewn un warws yn briodol i’w defnyddio mewn warws arall.

Y mynediad sydd ei angen arnom 

Wrth ystyried rhoi cymeradwyaeth i chi ddefnyddio’ch pecyn meddalwedd penodol, bydd angen: 

  • hawl mynediad arnom i’ch systemau cyfrifiadurol a’r data a’r dogfennau, gan gynnwys systemau ariannol a rheoli 

  • y cyfleuster arnom i lawrlwytho data ar gyfer unrhyw wiriadau a gwaith archwilio y gallem ei wneud oddi ar y safle 

  • i chi ddarparu unrhyw gymorth angenrheidiol i’n swyddogion wrth iddynt archwilio’ch systemau 

  • i chi fod â threfniadau wrth gefn digonol, gyda systemau i syrthio’n ôl arnynt a systemau adfer ar ôl trychineb 

  • rhybudd ymlaen llaw gennych am unrhyw newidiadau arfaethedig i’r pecyn meddalwedd — ni allwch gyflwyno unrhyw newidiadau a allai effeithio ar allu’r system i roi cyfrif am y nwyddau ecséis heb i ni gymeradwyo hynny

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod mesurau diogelu ar gael i warchod eich system rhag llygredd anfwriadol. Os bydd angen, byddwn yn gofyn i chi wneud y canlynol: 

  • darparu terfynell ar gyfer defnydd swyddogol, sy’n gallu argraffu, darllen ffeiliau a dangos gwybodaeth ar y cyfrifiadur yn unig 

  • rhoi cyfrinair unigryw i’n swyddogion a fydd yn ein galluogi i gael mynediad at y ffeiliau ar sail ‘darllen yn unig’ 

  • cadw cofnod o newidiadau i raglenni 

  • atal mynediad heb awdurdod at ddata

Marcio a rheoli’ch stoc 

Wrth weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi farcio’r holl nwyddau ecséis, er mwyn i chi allu eu hadnabod yn hawdd yn eich cyfrifon stoc. Mae’n rhaid iddynt bob amser gynnwys marciau clir nad oes modd ymyrryd â nhw, o’r amser pan fyddant yn cyrraedd i’r amser pan fyddant yn cael eu symud.

Dylech gadw’r holl nwyddau ecséis mewn lleoliadau sydd wedi’u nodi er mwyn i chi allu eu holrhain i’r cyfrif stoc. Mae’n rhaid i chi nodi’r cyfrif stoc priodol pryd bynnag y byddwch yn symud nwyddau ecséis i leoliad newydd yn y warws ecséis Porthladd Rhydd. 

Cewch ddefnyddio unrhyw system i fodloni’r gofynion hyn (er enghraifft, codau bar), ar yr amod eich bod yn gallu sefydlu trywydd archwilio.

Mae’n rhaid i gyfrif stoc ddangos: 

  • disgrifiad masnachol o’r cynnyrch a’r swm a ddaeth i law — er enghraifft, ar gyfer:  
    • alcohol nad yw’n wirod, dylai hyn fod mewn litrau 
    • gwirodydd, dylai hyn fod mewn litrau o alcohol pur — cyfrifir hyn drwy luosi’r swmplitrau â’r cryfder alcoholig (ABV) 
  • cryfder alcoholig y cynnyrch 
  • faint o gynnyrch sydd wedi dod i law mewn casys, casgenni neu ddrymiau polythen 
  • cyfeirnod dynodi unigryw 
  • y dyddiad y daeth i law 
  • perchennog y nwyddau

Mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau: 

  • bod eich cofnodion stoc yn cofnodi unrhyw newid perchnogaeth yn gywir 

  • bod holl berchnogion Porthladd Rhydd sy’n berchen ar nwyddau perthnasol wedi cofrestru gyda CThEF a’r dyddiad y gwnaethoch archwilio eu tystysgrif neu, os yw’n briodol, dystysgrif y cynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd 

  • bod manylion llawn perchnogion Porthladd Rhydd a chynrychiolwyr tollau Porthladd Rhydd ar gael i ni

Storio nwyddau ecséis gyda statws tollau gwahanol ar un safle cymeradwy 

O dan rai amodau, byddwn yn caniatáu i chi storio nwyddau ecséis sydd â statws tollau gwahanol ar un safle cymeradwy. Gair arall am hyn yw ‘cydstorio’. 

Cewch storio nwyddau:

  • y mae’n rhaid talu toll ecséis ar eu cyfer, sydd wedi’u gohirio o dan weithdrefn arbennig Porthladd Rhydd 

  • y talwyd toll ecséis ar eu cyfer ac unrhyw dollau eraill (mewn geiriau eraill, nwyddau yn y DU gyda’r doll wedi’i thalu)

Pan fyddwch yn gwneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig tollau Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni a ydych yn dymuno storio nwyddau gyda’r doll wedi’i thalu neu nwyddau nad oes angen talu toll ar eu cyfer. 

Mae’n rhaid i chi fodloni CThEF bod eich system gyfrifyddu’n gallu:

  • nodi a chofnodi lleoliad a statws tollau’r holl nwyddau ecséis 

  • rhedeg y gwahanol drefniadau cyfrifyddu ar gyfer pob dosbarth o nwyddau ecséis 

  • dangos yn glir pryd y daw tollau’n ddyledus

Mae’n rhaid i’ch system fod yn ddigon cadarn i sicrhau bod y statws tollau cywir yn cael ei ddangos bob amser. Er enghraifft, ni ddylid dangos nwyddau y gohiriwyd tollau arnynt fel nwyddau gyda’r doll wedi’i thalu heb dalu’r doll ymlaen llaw. 

Gweithrediadau a ganiateir mewn warws Porthladd Rhydd

Cewch gynnal gweithrediadau ar eich nwyddau ar yr amod bod CThEF:  

  • wedi’ch cymeradwyo i gael a storio nwyddau ecséis mewn swmp  

  • heb gyfyngu’n benodol ar eich awdurdodiad drwy osod unrhyw amodau neu gyfyngiadau.

Mae’n rhaid i chi restru’r holl weithrediadau rydych am eu cyflawni yn eich cais. 

Gall CThEF osod amodau neu gyfyngiadau ar weithrediadau rydych yn eu cyflawni i ostwng y risg o doll heb ei thalu. 

Y cofnodion mae’n rhaid i chi eu cadw ar gyfer y gweithrediadau a gyflawnir

Wrth gyflawni unrhyw weithrediad mewn warws ecséis Porthladd Rhydd ar nwyddau y gohiriwyd y doll arnynt, mae’n rhaid i chi gadw cofnodion cywir.  

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol: 

  • cymryd a chofnodi’ch cyfrifon yn union cyn ac ar ôl pob gweithrediad 

  • cadw cofnod cywir o unrhyw ddeunydd glanhau a ddefnyddiwyd  

  • rhoi gwybod i CThEF am unrhyw enillion a cholledion o unrhyw weithrediad

Gallwch gymysgu nwyddau gwahanol mewn un cas os byddwch yn sicrhau bod eich system gyfrifyddu’n eich galluogi i gadw cyfrif o’r nwyddau dan sylw. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r math cywir o dreth a’r gyfradd dollau gywir ar gyfer pob cynnyrch yn y cas cymysg pryd bynnag y byddwch yn talu toll.  

Cysylltwch â CThEF os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch gallu’ch system arfaethedig.

Ar gyfer pob gweithrediad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol: 

  • cofnodi manylion unrhyw fethiannau mecanyddol lle mae colledion wedi digwydd 

  • sicrhau eich bod yn cadw cyfrif o holl weddillion unrhyw weithrediad ac yn eu cadw’n ddiogel 

  • cadw cofnod ar wahân o golledion (yn ôl math) i sefydlu patrymau colli 

  • ymchwilio i’r rhesymau dros unrhyw golledion neu enillion y tu allan i’ch patrymau colled sefydlog a’u cofnodi 

  • sicrhau bod yr holl becynnau gwag na fwriedir eu hailddefnyddio’n syth yn cael eu tynnu o warws neu’n cael eu rhoi mewn adrannau deunyddiau pecynnu yn ddi-oed 

  • dadnatureiddio neu ddinistrio padiau a ddefnyddiwyd ar ôl hidlo neu weithrediadau eraill 

  • dim ond dod â phecynnau gwag i’r warws a’r symiau o ddeunyddiau pecynnu sydd eu hangen ar gyfer eu defnyddio ar unwaith — mae’n rhaid i chi dynnu neu ddileu unrhyw farciau adnabod blaenorol

Enillion a cholledion yn ystod gweithrediadau 

Rydym yn derbyn y bydd enillion neu golledion o unrhyw weithrediadau a gyflawnir mewn warws, ac nid ydym yn gosod goddefiannau na ‘cholledion a ganiateir’. 

Cyfrifoldeb y busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig yw: 

  • cynnal rheolaethau ar bob gweithrediad  

  • nodi unrhyw enillion neu golledion yn gywir

Mae’n rhaid ychwanegu unrhyw enillion sy’n deillio o’r gweithrediad ar unwaith at y cyfrif stoc priodol. Dylid cofnodi ac ymchwilio i unrhyw golled.  

Mae’n rhaid i chi ddangos bod unrhyw golled o fewn paramedrau sefydledig eich busnes (gan ystyried y math o weithrediad, y cynnyrch, y peiriannau, y tymheredd, ac yn y blaen). Os na fyddwch yn gwneud hyn, neu os na fydd CThEF yn derbyn eich esboniad, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi cyfrif am y doll ecséis.

Datganiadau ar labeli 

Mae’n bosibl na fyddwn yn gadael i chi ddefnyddio labeli, deunydd lapio, casys neu ddeunydd printiedig a gynhwysir mewn casys sydd â datganiadau neu eiriau anghywir neu gamarweiniol. Er enghraifft:

  • honni bod gwirodydd yn tarddu o Brydain yn unig, er bod y cofnodion yn dangos eu bod yn wirodydd sydd wedi’u mewnforio, neu i’r gwrthwyneb 

  • honni bod gwirodydd yn tarddu o Brydain yn unig neu o dramor yn unig, er bod y cofnodion yn dangos eu bod yn gymysgedd o wirodydd o Brydain a gwirodydd wedi’u mewnforio 

  • awgrymu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, fod y masnachwr dan sylw yn ddistyllfa drwyddedig, er nad oes ganddo drwydded distyllwr 

  • dangos mai ‘wisgi Albanaidd’ neu ‘wisgi Gwyddelig’ yw’r gwirodydd, er nad yw’r gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r disgrifiadau hyn wedi’u bodloni

Os byddwch yn argraffu labeli mewn iaith dramor, bydd yn rhaid i chi ddarparu cyfieithiad Saesneg ar gais. 

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig gan Swyddog Safonau Masnach ar gyfer defnyddio unrhyw label. Mae’r Rheoliadau Labelu Bwyd yn cynnwys gofynion eraill ar gyfer labeli ar ddiodydd alcoholaidd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan naill ai: 

  • eich Swyddfa Safonau Masnach leol  

  • yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cynhyrchu nwyddau ecséis mewn Porthladd Rhydd 

Gallwch gynhyrchu nwyddau o dan y weithdrefn Porthladd Rhydd, os cewch yr awdurdodiadau cywir. 

Pan fyddwch yn gwneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod yn bwriadu cynhyrchu nwyddau ecséis yn y Porthladd Rhydd.

Bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd: 

  • gwneud cais am yr awdurdodiad cynhyrchu perthnasol (er enghraifft, i ddod yn Fragwr Cofrestredig)  

  • dilyn telerau ac amodau’r awdurdodiad hwnnw 

Gallwch wirio gwybodaeth am gynhyrchu ecséis yn:

Dinistrio nwyddau a diffygion mewn stoc 

Os ydych yn bwriadu dinistrio nwyddau ecséis mewn warws ecséis Porthladd Rhydd, dim ond os yw CThEF wedi’ch awdurdodi y gallwch wneud hynny. Rydym yn cadw’r hawl i osod unrhyw amodau sy’n angenrheidiol.

Bydd nwyddau’n cael eu trin fel rhai sydd wedi’u rhyddhau i’w defnyddio yn y DU lle naill ai: 

  • caiff nwyddau ecséis eu dinistrio heb ganiatâd 

  • caiff diffygion mewn stoc eu nodi

Mae’n rhaid i chi ddatgan y nwyddau hyn i gylchrediad rhydd a rhoi cyfrif am yr holl dollau. 

Dileu’ch cofrestriad 

Os ydych am ganslo’ch cofrestriad, mae’n rhaid i chi e-bostio: [email protected]. Dylech e-bostio o leiaf 30 diwrnod cyn y dyddiad rydych am i CThEF ganslo’ch cofrestriad.

Os byddwn yn cytuno i ganslo’ch cofrestriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig. 

Ar y dyddiad canslo, mae’n rhaid i chi ddinistrio’ch tystysgrif cofrestru. 

Gall CThEF ganslo’ch cofrestriad unrhyw bryd ac os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig, gan roi ein rhesymau dros ganslo. Byddwn yn cynnig adolygiad o’n penderfyniad i chi neu gallwch apelio’n uniongyrchol ar y tribiwnlys annibynnol.

Pan fydd eich cofrestriad wedi’i ganslo, bydd yn rhaid i chi ddinistrio’ch tystysgrif cofrestru ar unwaith. Byddwch yn peidio â bod yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd cyn gynted ag y byddwn yn canslo’ch cofrestriad.

Pwy y gellir ei awdurdodi’n berchennog Porthladd Rhydd neu’n gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd 

Mae’n rhaid i CThEF gymeradwyo a chofrestru pob perchennog nwyddau ecséis â thollau gohiriedig a gaiff eu storio mewn warws ecséis Porthladd Rhydd, oni bai:

  • bod y nwyddau’n perthyn i’r busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig 

  • nad yw perchennog y nwyddau ecséis yn fasnachwr refeniw 

  • bod y nwyddau ecséis yn win neu’n win a wnaed 

  • bod y nwyddau ecséis yn olewau hydrocarbon, bioethanol, neu’n gynhyrchion ynni arbennig 

  • eich bod yn berchennog nad yw’n byw yn y DU a’ch bod wedi penodi cynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd i weithredu ar eich rhan

Mae’n rhaid i gynrychiolwyr tollau a pherchnogion Porthladd Rhydd sydd wedi’u cymeradwyo a’u cofrestru gyflwyno eu tystysgrifau cofrestru i’r busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig. 

Os bydd CThEF yn rhoi tystysgrif ddiwygiedig neu amrywiol i berchennog Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd, mae’n rhaid darparu copi o’r dystysgrif newydd i bob busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig lle mae nwyddau’r perchennog yn cael eu storio. Bydd y tystysgrifau’n cynnwys manylion unrhyw amodau a osodwyd gennym.

Byddwn yn cadarnhau dilysrwydd unrhyw gofrestriad os bydd busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig yn darparu ei dystysgrif gyda’i enw a’i rif cofrestru. 

Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth am amodau na chyfyngiadau. Bydd y manylion hyn ar y dystysgrif cofrestru a ddarperir i berchennog y Porthladd Rhydd.

Gwneud cais i gael eich awdurdodi fel perchennog Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd 

Gwneud cais fel perchennog Porthladd Rhydd 

I gael cymeradwyaeth i fod yn berchen ar nwyddau ecséis a gedwir mewn warws ecséis Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi wneud cais i CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn unol â’r profion gweddus a phriodol, a esbonnir yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg)

Gall perchennog fod yn unig berchennog, yn bartneriaeth neu’n gwmni cyfyngedig. Mae’n rhaid i berson cyfrifol yn y busnes lenwi a llofnodi’r ffurflen gais. Bydd y person hwn yn un o’r canlynol:

  • unig berchennog y busnes 

  • un o’r partneriaid os yw’r busnes yn bartneriaeth 

  • cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni, neu lofnodwr awdurdodedig os yw’r busnes yn gorff corfforaethol 

Fel rhan o’r broses ymgeisio, mae’n rhaid i chi anfon cynllun busnes cyfredol. Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd anfon rhagor o bapurau busnes i ategu’ch cais. Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth hon, byddwn yn gohirio’ch cais nes i chi ei hanfon.

Os na allwch ddarparu cynllun busnes neu unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani, e-bostiwch: [email protected]. Os na fyddwch yn gwneud hyn, ni fydd eich cais yn cael ei brosesu nes i chi anfon y dogfennau angenrheidiol atom. 

Os bydd unrhyw ymgeisydd yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar y ffurflen gais, gallwn wneud y canlynol:

  • canslo unrhyw gymeradwyaeth rydym wedi’i rhoi 

  • rhoi cosbau ariannol 

  • erlyn yr ymgeisydd 

Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais, byddwn yn rhoi tystysgrif cofrestru i chi a fydd yn cynnwys:

  • eich rhif cofrestru unigryw 

  • eich enw ac (os yw’n wahanol) eich enw masnachu 

  • eich cyfeiriad 

  • unrhyw amodau neu gyfyngiadau sy’n berthnasol i’ch cofrestriad 

Dylech nodi’r rhif cofrestru unigryw ar bob gohebiaeth â CThEF ynghylch eich cofrestriad. Dylai fod ar gael gennych hefyd pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Os na fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig ac yn rhoi ein rhesymau dros ei wrthod. Byddwn yn cynnig adolygiad o’n penderfyniad i chi neu gallwch apelio’n uniongyrchol ar y tribiwnlys annibynnol.  

Os nad oes gennych gyfeiriad busnes yn y DU, ni fyddwch yn gallu cadw’r nwyddau mewn busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig am fwy na’r cyfnod cychwynnol, sef 72 awr (heb gynnwys gwyliau banc) o’r adeg maent yn cael eu rhoi ar y safle.

Dylech benodi cynrychiolydd tollau os yw’r canlynol yn wir: 

  • rydych yn fasnachwr refeniw tramor 

  • rydych am ddal nwyddau ecséis gyda’r doll wedi’i gohirio mewn warws ecséis Porthladd Rhydd y tu hwnt i 72 awr

Gwneud cais fel cynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd 

I fod yn gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi  wneud cais i CThEF (yn agor tudalen Saesneg)

Mae’n rhaid i berson cyfrifol yn y busnes lenwi a llofnodi’r ffurflen gais. Bydd y person hwn yn un o’r canlynol:

  • unig berchennog y busnes 

  • un o’r partneriaid os yw’r busnes yn bartneriaeth 

  • cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni, neu lofnodwr awdurdodedig os yw’r busnes yn gorff corfforaethol 

Bydd ceisiadau am gymeradwyaeth fel cynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd yn cael eu hystyried yn unol â’r profion gweddus a phriodol a esbonnir yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi wirio cyn gweithredu ar ran perchennog nad oes gan unrhyw berchennog yr ydych yn ei gynrychioli naill ai: 

  • sefydliad busnes yn y DU 

  • cyfeiriad sefydlog yn y DU

Dylech gadw tystiolaeth eu bod wedi cynnal gwiriadau o’r fath cyn i chi weithredu ar eu rhan. 

Os na fyddwch yn cwblhau’r gwiriadau hyn nac yn cadw’r dystiolaeth ofynnol, bydd eich cofrestriad yn cael ei ddirymu. Gall hefyd effeithio ar unrhyw gymeradwyaethau neu gofrestriadau ecséis eraill sydd gennych.

Eich rhwymedigaethau fel perchennog Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd 

Amodau y gellir eu gosod ar berchennog Porthladd Rhydd a chynrychiolwyr tollau Porthladd Rhydd 

Mae’n rhaid i bob perchennog Porthladd Rhydd a chynrychiolwyr tollau Porthladd Rhydd gydymffurfio â’r amodau a’r cyfyngiadau a nodir yn yr arweiniad hwn. Gall CThEF hefyd osod amodau penodol (er enghraifft, cyfyngiadau ar y math o nwyddau y gellir eu dal) y byddwn yn eu rhestru ar eich tystysgrif cofrestru.

Newid manylion cofrestru 

Os bydd statws cyfreithiol eich busnes yn newid (er enghraifft, os bydd unig berchennog yn dod yn bartneriaeth), bydd yn rhaid i’r endid cyfreithiol newydd wneud cais i fod yn berchennog Porthladd Rhydd cyn cymryd perchnogaeth o’r nwyddau ecséis. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gynrychiolwyr tollau Porthladd Rhydd. Ni fyddwn yn cymeradwyo’r ymgeisydd newydd yn awtomatig.

Os bydd unrhyw newid i’r bobl allweddol sy’n gysylltiedig â’r busnes, gallwn adolygu’r cofrestriad ar ôl ystyried y meini prawf gweddus a phriodol. Yn dilyn yr adolygiad hwn, mae’n bosibl y bydd eich cofrestriad yn cael ei dynnu’n ôl neu y bydd amodau’n cael eu hychwanegu ato. 

Ar gyfer unrhyw newidiadau eraill i’r manylion sydd ar eich tystysgrif cofrestru (er enghraifft, newid cyfeiriad) mae’n rhaid i chi anfon e-bost at: [email protected] cyn pen 7 diwrnod i’r newid ddod i rym.

Byddwn yn rhoi tystysgrif newydd i chi, yna bydd gennych 7 diwrnod i ddarparu copi ohoni i bob warws ecséis Porthladd Rhydd lle bydd eich nwyddau’n cael eu gadael. Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newidiadau i’r manylion sydd ar eich tystysgrif cofrestru, mae’n bosibl y cewch gosb ariannol. 

Mae’n rhaid i chi ddinistrio’r dystysgrif flaenorol cyn gynted ag y byddwch yn derbyn y dystysgrif newydd.

Newid perchnogaeth nwyddau mewn warws ecséis Porthladd Rhydd 

Mae’n rhaid i berchennog y Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd roi gwybod i’r busnes ecséis Porthladd Rhydd cyn y bydd unrhyw nwyddau gyda’r doll wedi’i gohirio’n cael eu gwerthu tra byddant yn cael eu dal yn eu safle. 

Mae’n rhaid i’r perchennog newydd gyflwyno ei dystysgrif cofrestru i’r busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig, a fydd yn cynnwys manylion unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cofrestriad.

Os yw’r perchennog newydd yn fasnachwr refeniw ond heb gofrestru gyda ni, mae hyn yn creu pwynt codi toll ac mae’r doll yn ddyledus i CThEF ar unwaith. Yn yr achos hwn, bydd y busnes ecséis Porthladd Rhydd, y prynwr a’r gwerthwr i gyd yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i’r doll. Os bydd hyn yn digwydd, dylech chi fel busnes ecséis Porthladd Rhydd, neu’r prynwr neu’r gwerthwr, gysylltu â CThEF.

Yn yr un modd, mae’n rhaid i berchennog Porthladd Rhydd dramor sy’n berchen ar nwyddau y gohiriwyd tollau arnynt roi 72 awr o rybudd i chi o newid i’w gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd. Mae’n rhaid iddo hefyd roi 72 awr o rybudd o unrhyw newid i’w gynrychiolydd tollau.  

Mae modd i chi gael cadarnhad o ddilysrwydd y cofrestriad gan: [email protected].

Dileu’ch cofrestriad 

Os ydych am ganslo’ch cofrestriad fel perchennog Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi anfon e-bost at: [email protected] o leiaf 30 diwrnod cyn y dyddiad rydych am i CThEF ganslo’ch cofrestriad.

Os byddwn yn cytuno i ganslo’ch cofrestriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig. 

Ar y dyddiad canslo, mae’n rhaid i chi ddinistrio’ch tystysgrif cofrestru. 

Gall CThEF ganslo’ch cofrestriad unrhyw bryd ac os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig, gan roi ein rhesymau dros ganslo. Byddwn yn cynnig adolygiad o’n penderfyniad i chi neu gallwch apelio’n uniongyrchol ar y tribiwnlys annibynnol.

Pan gaiff eich cofrestriad ei ganslo, mae’n rhaid i chi ddinistrio’ch tystysgrif cofrestru ar unwaith a rhoi gwybod i bob busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig lle cedwir eich nwyddau. Byddwch yn peidio â bod yn berchennog Porthladd Rhydd cyn gynted ag y byddwn yn canslo’ch cofrestriad.

Os ydych yn fasnachwr refeniw a bod eich cofrestriad yn cael ei ganslo, byddwch chi (perchennog y Porthladd Rhydd) yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i’r doll ecséis sy’n ddyledus gyda’r busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig a’r person neu’r personau a oedd yn berchen ar y nwyddau ecséis yn union cyn ac ar ôl y pwynt codi toll ecséis (ac unrhyw gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd neu unrhyw un o berchnogion y Porthladd Rhydd). Os nad ydych yn fasnachwr refeniw a bod eich cofrestriad yn cael ei ganslo, gall eich nwyddau aros dan ohiriad tollau yn y warws ecséis Porthladd Rhydd.

Protocol i Ddileu Masnachu Anghyfreithlon mewn Cynhyrchion Tybaco 

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag Erthygl 12 y Protocol i Ddileu Masnachu Anghyfreithlon mewn Tybaco wrth dynnu cynhyrchion tybaco o’r weithdrefn Porthladd Rhydd a sicrhau nad ydynt yn cael eu cymysgu â chynhyrchion nad ydynt yn gynhyrchion tybaco ar ôl eu rhyddhau. 

Ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a theithio rhyngwladol, mae Erthygl 12 yn datgan y canlynol:

  1. Mae’n rhaid i bob Parti, cyn pen tair blynedd ar ôl i’r Protocol hwn ar gyfer y Parti hwnnw ddod i rym, roi rheolaethau effeithiol ar waith ar gyfer pob dull o weithgynhyrchu tybaco a chynhyrchion tybaco, a thrafodion ynddynt, mewn parth rhydd drwy ddefnyddio’r holl fesurau perthnasol a ddarperir yn y Protocol hwn.  

  2. Yn ogystal, gwaherddir cymysgu cynhyrchion tybaco â chynhyrchion nad ydynt yn rhai tybaco mewn un cynhwysydd neu unrhyw uned drafnidiaeth arall debyg pan fyddant yn cael eu symud o barth rhydd.  

  3. Mae’n rhaid i bob Parti, yn unol â chyfraith genedlaethol, fabwysiadu a gweithredu mesurau rheoli a dilysu ar gyfer trosglwyddo o gwch i gwch neu gludo’n rhyngwladol, o fewn ei diriogaeth, gynhyrchion tybaco a chyfarpar gweithgynhyrchu sy’n cydymffurfio â darpariaethau’r Protocol hwn i atal masnachu anghyfreithlon mewn cynhyrchion o’r fath.

Ar ôl i chi gael eich awdurdodi 

Efallai y byddwn yn ymweld â chi a’ch safle cymeradwy i gynnal archwiliadau ar y canlynol: 

  • cynhyrchiant 

  • gweithrediadau 

  • warysu

Mae ein rheolaethau’n cynnwys archwiliadau a gwiriadau ffisegol. Tra bydd ein swyddogion ar eich safle, mae’n rhaid i chi sicrhau eu bod yn ddiogel yn unol â’r Deddfau Iechyd a Diogelwch perthnasol. Os na fyddwch yn darparu mynediad diogel i’ch safle a’r nwyddau a ddelir gennych, efallai y byddwn yn cyfyngu ar eich awdurdodiad neu’n ei dynnu’n ôl.

Byddwn fel arfer yn trefnu apwyntiadau i ymweld â’ch safle, ond efallai y byddwn hefyd yn ymweld yn ddirybudd, yn enwedig wrth gynnal gwiriadau ffisegol. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod swyddogion CThEF yn cael mynediad at unrhyw ran o’ch safle yn ystod oriau gweithredu’r busnes neu ar unrhyw adeg pan fydd gweithgarwch yn cael ei wneud yn y busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig. 

Mae holl swyddogion CThEF yn cario dogfennau adnabod a byddant yn dangos y rhain pan fyddant yn cyrraedd neu ar gais.

Ar ôl i chi gael eich awdurdodi i weithredu fel busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig, eich cymeradwyo fel perchennog Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd, mae gennych rwymedigaethau penodol o dan y gyfraith. Gallai methu â chyflawni’r rhwymedigaethau hyn neu gadw at unrhyw un o amodau’ch awdurdodiad a’ch cymeradwyaeth arwain at un neu’r cyfan o’r canlynol:

  • cyfyngu ar eich awdurdodiad a’ch cymeradwyaeth 

  • tynnu awdurdodiad a chymeradwyaeth yn ôl ar gyfer rhai neu bob un o’r safleoedd rydych yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig ar eu cyfer 

  • tynnu’ch cymeradwyaeth fel perchennog Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd yn ôl 

  • peidio ag adnewyddu’ch awdurdodiad neu’ch cymeradwyaeth ar gyfer rhai neu bob un o’r safleoedd rydych yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig ar eu cyfer 

  • peidio ag adnewyddu’ch cymeradwyaeth fel perchennog Porthladd Rhydd neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd 

  • rhoi cosb ariannol 

  • gallai nwyddau fod yn agored i gael eu fforffedu a gallech hefyd fod yn agored i dalu unrhyw doll sy’n ddyledus

Mae’n rhaid i fusnesau ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig sy’n ymwneud ag alcohol sicrhau eu bod yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy priodol ar eu cyflenwyr, eu cwsmeriaid a’u cadwyni cyflenwi. Darllenwch ragor am ddiwydrwydd dyladwy yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg).

Gweithdrefn Apeliadau ac Adolygiadau 

Dyma’r penderfyniadau y gallwch ofyn iddynt gael eu hadolygu ac y gallwch apelio yn eu herbyn: 

  • gwrthod cymeradwyaeth neu ddirymu cymeradwyaeth 

  • rhoi cosb a swm unrhyw gosb 

  • gosod unrhyw amodau neu gyfyngiadau ychwanegol

Os nad ydych yn cytuno ag unrhyw un o’r penderfyniadau hyn, gallwch wneud y canlynol: 

  • dweud wrth y sawl a gyflwynodd y penderfyniad os oes gennych ragor o wybodaeth neu os ydych yn meddwl bod CThEF wedi methu rhywbeth 

  • gofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu gan swyddog CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn 

  • apelio ar dribiwnlys annibynnol

Terfynau amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad neu apêl 

Os ydych am i CThEF adolygu penderfyniad, mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y sawl a gyhoeddodd y llythyr o benderfyniad cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr hwnnw.  

Dylai’ch cais ysgrifenedig nodi’n glir: 

  • manylion llawn eich achos 

  • y rhesymau pam rydych yn anghytuno â’r penderfyniad 

  • unrhyw ddogfennau ategol

Dylech hefyd nodi pa ganlyniad rydych yn ei ddisgwyl o adolygiad CThEF. Bydd CThEF yn cwblhau adolygiad cyn pen 45 diwrnod oni bai ei fod yn cytuno ar ddyddiad cwblhau arall gyda chi. 

Apelio ar ôl i CThEF gwblhau ei adolygiad 

Anfonwch fanylion eich apêl i’r tribiwnlys cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr o benderfyniad a gawsoch yn sgil adolygiad CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2022

Print this page