Cyflwyno Datganiad Toll Cwrw
Cyflwynwch Ddatganiad (EX46) i ddatgan toll ar gwrw ac i ddatgan symudiadau eraill i mewn ac allan o’ch safle cofrestredig.
Pryd y dylech gyflwyno Datganiad
Mae’n rhaid i chi gyflwyno Datganiad Toll Cwrw erbyn 15fed diwrnod y mis ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu.
Defnyddiwch y Datganiad i ddatgan y canlynol:
- y doll sy’n ddyledus ar gwrw
- gorddatganiadau a thanddatganiadau
- cwrw a ddosbarthwyd i, ac a gafwyd o, safleoedd eraill sydd wedi’u cofrestru yn y DU neu warysau ecséis
- y doll a gafodd ei hadennill ar gwrw wedi’i ddifetha
- y doll a gafodd ei hadennill fel ad-daliad
- cwrw a fewnforiwyd i’r DU
- cwrw a allforiwyd y tu allan i’r DU
Mae’n rhaid i chi gyflwyno Datganiad hyd yn oed os nad oes arnoch ddim byd.
Os oes angen i chi gyflwyno Datganiad ar gyfer cyfnod sydd dros na 6 mis yn ôl, dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF gan nodi eich bod am drafod Toll Cwrw.
Gwybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw a chyfeiriad y bragwr
- eich cyfeirnod Toll Cwrw 8 digid
- eich rhif cofrestru TAW, os oes un gennych
- nifer y litrau o alcohol pur sydd yn y cwrw
- manylion yr alcohol yn ôl cyfaint (ABV) yn eich cynhyrchion
- eich cyfraddau Rhyddhad i Gyn-hyrchwyr Bach os ydych yn gymwys ar gyfer y rhyddhad
- manylion y cynhyrchion sy’n gymwys i gael y gyfradd is ar gyfer cynhyr-chion o’r gasgen
Cyflwyno’ch Datganiad ar-lein
Bydd arnoch angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer y cyfrif sydd wedi’i gofrestru ar gyfer y Doll Alcohol.
Cewch gadarnhad drwy e-bost pan fyddwch yn cyflwyno eich Datganiad.
Anfon eich Datganiad drwy’r post
Gallwch ddod o hyd i godau’r math o dreth a chyfraddau ar gyfer y Doll Alcohol yn Tariff Masnach y DU: tollau ecséis, rhyddhadau, anfanteision a lwfansau (yn Saesneg).
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
Llenwch y canlynol:
- Datganiad Toll Cwrw ar gyfer cyfnodau ar ôl 1 Awst 2023
- Datganiad Toll Cwrw ar gyfer cyfnodau hyd at 31 Gorffennaf 2023 (yn Saesneg)
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bost i [email protected] a rhoi gwybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saesneg).
Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen yn Gymraeg.
Yr hyn i’w wneud nesaf
Dysgwch sut i dalu Toll Cwrw (yn Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 18 Awst 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Medi 2023 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.