Cyflwyno neu ymateb i gais gyda MyHMCTS
Cyflwyno neu ymateb i geisiadau ar-lein ar gyfer rhai achosion sifil, teulu a thribiwnlys.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cyfreithiwr a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith eraill.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno ceisiadau am:
- hawliadau am iawndal yn y llys sifil
- hawliadau am arian yn y llys sifil
- ysgariad
- tribiwnlysoedd cyflogaeth
- gorchmynion cyfraith deulu gyhoeddus
- rhwymedi ariannol
- apeliadau mewnfudo a lloches
- profiant
Cyn ichi ddechrau
I allu defnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid bod eich sefydliad wedi cofrestru ar gyfer cyfrif MyHMCTS. Unwaith y bydd eich sefydliad wedi cofrestru, bydd ganddo weinyddwr cyfrif MyHMCTS. Gallant ychwanegu mwy o weinyddwyr cyfrif a’ch gwahodd i ymuno â chyfrif MyHMCTS eich sefydliad. Dim ond gweinyddwyr cyfrif all ychwanegu defnyddwyr.
Ar ôl ichi gael gwahoddiad fe gewch neges e-bost i orffen agor eich cyfrif. Fe anfonir y neges e-bost hon o hm.courts.and.tribunals.registrations@notifications.service.gov.uk. Bydd pob neges e-bost, gan gynnwys codau dilysu, yn cael ei hanfon o’r cyfeiriad e-bost hwn.
Mae’n rhaid i chi ychwanegu’r cyfeiriad hwn i’ch rhestr o gyfeiriadau e-bost diogel. Os oes gan eich sefydliad feddalwedd diogelwch ychwanegol, rhaid i chi ychwanegu’r cyfeiriad e-bost i’r rhestr o gyfeiriadau e-bost diogel hon hefyd. Os oes gennych adran TG, gallant eich helpu i wneud hyn.
Mae’n rhaid i chi greu eich cyfrinair o fewn 20 diwrnod. Os na fyddwch yn creu eich cyfrinair o fewn y cyfnod hwn, gall eich gweinyddwr cyfrif anfon gwahoddiad arall atoch.
Cael mynediad i MyHMCTS
Unwaith y bydd eich cyfrif wedi’i agor gallwch fewngofnodi i MyHMCTS i reoli a chreu achosion.
Dilysu eich cyfrif
Bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif, byddwn yn anfon cod dilysu atoch. Bydd y cod yn gweithio am 90 munud.
Os byddwch yn cymryd mwy o amser na hyn i ddefnyddio’r cod, bydd rhaid ichi fewngofnodi i’r system eto a gofyn am god newydd.
Os nad ydych wedi cael cod ar ôl aros am 20 munud, cysylltwch â [email protected].
Os na allwch wneud cais ar-lein
Ni ellir defnyddio MyHMCTS i gyflwyno rhai ceisiadau a rhaid llenwi ffurflen bapur.
Profiant
Gwneud cais am brofiant gan ddefnyddio ffurflen bapur
Apeliadau mewnfudo a lloches
Gwneud cais am apeliadau mewnfudo a lloches gan ddefnyddio ffurflen bapur
Cyfarwyddyd ar gyflwyno a rheoli achosion
Cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau canlynol i gael mwy o wybodaeth am reoli, cyflwyno ac ymateb i achosion yn MyHMCTS:
- gweinyddu achosion – gan gynnwys rhannu achos, aseinio achos a ffeilio hysbysiad o newid neu hysbysiad gweithredu
- hawliadau am iawndal yn y llys sifil
- ysgariad - cyfraith newydd
- ysgariad - hen gyfraith
- tribiwnlysoedd cyflogaeth – hawlwyr
- tribiwnlysoedd cyflogaeth – atebwyr
- cyfraith deulu gyhoeddus – ceiswyr
- cyfraith deulu gyhoeddus – atebwyr
- rhwymedi ariannol – ceiswyr
- rhwymedi ariannol – atebwyr
- apeliadau mewnfudo a lloches
- profiant
Gwasanaeth Cymraeg i weithwyr proffesiynol
Gallwch greu a rheoli eich achosion yn Gymraeg drwy glicio ar y botwm Cymraeg sydd ar ochr dde uchaf unrhyw dudalen yn MyHMCTS. Dim ond pan fyddwch yn rheoli achos y mae’r opsiwn hwn ar gael, ac nid pan fyddwch yn cofrestru neu’n rheoli cyfrif sefydliad. Os nad yw’r botwm iaith yn gweithio, anfonwch e-bost i [email protected]. Os nad yw cyfieithiad Cymraeg yn ymddangos yn gywir, anfonwch e-bost i [email protected]. Pan fydd y gwasanaeth newydd gael ei ddiweddaru, efallai y byddwch yn gweld testun Saesneg yn hytrach na thestun Cymraeg tra bydd y testun yn cael ei gyfieithu.
Os ydych angen cymorth gydag achos, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd ar reoli achosion a chael mynediad i achosion yn MyHMCTS
Cymorth gyda MyHMCTS
Os nad oes gennych gyfrif eto
Ni allwch greu cyfrif ar gyfer chi eich hun. Os ydych wedi ceisio cofrestru ac y dywedwyd wrthych bod rhif cofrestru’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) neu’r rhif Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) wedi’i ddefnyddio’n barod, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch gweinyddwr cyfrif MyHMCTS.
Os na allwch ddod o hyd i fanylion eich gweinyddwr cyfrif MyHMCTS, gallwch anfon e-bost i [email protected]. Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mewngofnodi i’ch cyfrif MyHMCTS
Os ydych yn cael trafferth mewngofnodi i MyHMCTS, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r ddolen gywir. I reoli achos, mae’n rhaid ichi ddefnyddio https://manage-case.platform.hmcts.net.
Os ydych yn weinyddwr cyfrif ac rydych angen rheoli cyfrif y sefydliad neu ddefnyddiwr, defnyddiwch https://manage-org.platform.hmcts.net.
Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn:
- defnyddio porwr we sydd wedi’i ddiweddaru - rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Google Chrome neu Microsoft Edge (ni allwch ddefnyddio Internet Explorer neu Apple Safari)
- clirio eich cwcis a’ch cof dros dro (cache)
- gwirio eich gosodiadau diogelwch a wal tân
Rydym yn argymell eich bod yn rhoi nod tudalen ar dudalen we MyHMCTS neu’n ei hychwanegu at eich rhestr ffefrynnau. Dylech ond wneud hyn ar ôl i chi fewngofnodi i MyHMCTS ac rydych ar y dudalen gartref. Peidiwch â gwneud hyn o’r dudalen fewngofnodi neu’r dudalen ddilysu, neu tra bydd gennych fanylion achos ar agor.
Os ydych dal i gael trafferth mewngofnodi i MyHMCTS, ceisiwch ddefnyddio dyfais wahanol.
Os oes gennych dîm cymorth TG yn eich sefydliad, yna byddant yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau gyda’ch dyfais, porwr we a gosodiadau diogelwch.
Os oes gennych broblem â’ch cyfrif MyHMCTS, dylech gysylltu â gweinyddwr cyfrif eich sefydliad.
Os ydych angen cymorth pellach gyda’ch cyfrif MyHMCTS, anfonwch neges e-bost i [email protected]. Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Rheoli achosion a chael mynediad at achosion yn MyHMCTS
Cyfarwyddyd ar dasgau gweinyddol achosion yn MyHMCTS, gan gynnwys ffeilio hysbysiad o gais am newid.
Os ydych angen cymorth gydag achos penodol neu i reoli achos yn MyHMCTS, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd perthnasol i ganfod gyda phwy y dylech gysylltu.
Gweler y cyfarwyddyd ar reoli a chyflwyno achosion am restr o ddolenni i wasanaethau gwahanol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 19 Hydref 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Mawrth 2024 + show all updates
-
Added guidance about managing cases in Welsh
-
First published.