Tudalennau atodol CT600A (2015) fersiwn 3: benthyciadau gan gwmni caeedig a threfniadau i drosglwyddo buddiannau i gyfranogwyr
Sut i lenwi tudalennau atodol CT600A a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.
Pryd i’w llenwi
Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’r cwmni’n gaeedig, ac yn y cyfnod hwn:
-
mae wedi gwneud un neu fwy o fenthyciadau sydd heb eu had-dalu yn ystod y cyfnod i unigolyn neu gwmni sy’n gweithredu mewn capasiti ymddiriedolwr neu gynrychiolydd, neu sy’n gyswllt i gyfranogwr
-
mae treth yn ddyledus o dan adran 455 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
-
mae wedi bod yn rhan o drefniadau arbed treth lle bo buddiant wedi’i drosglwyddo i unigolyn sy’n gyfranogwr, neu sy’n gyswllt i gyfranogwr, yn ystod y cyfnod hwn ac nid oes taliad Ffurflen Dreth wedi’i wneud i’r cwmni o fewn y cyfnod
-
mae treth yn ddyledus o dan adran 464A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
Gwybodaeth am y cwmni
A1 Enw’r cwmni
Nodwch enw’r cwmni.
A2 Cyfeirnod treth
Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.
Y cyfnod dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)
A3
Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
A4
Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
Rhan 1: benthyciadau neu drefniadau a wnaed
Llenwch ran 1 os yw’r cwmni’n gaeedig ac, yn ystod y cyfnod hwn mae wedi gwneud un neu fwy o fenthyciadau i’r canlynol:
-
unigolyn neu gwmni sy’n gweithredu mewn capasiti ymddiriedolwr neu gynrychiolydd sy’n gyfranogwr, neu sy’n gyswllt i gyfranogwr
-
unrhyw bartneriaeth lle bo o leiaf un partner yn gyfranogwr cyswllt
-
ymddiriedolwyr setliad, lle bo un neu fwy o’r ymddiriedolwyr neu’r buddiolwyr yn gyfranogwr neu’n gyswllt iddo
a bod unrhyw fenthyciadau naill ai:
-
heb gael eu had-dalu o fewn y cyfnod
-
wedi bod yn rhan o drefniadau arbed treth lle bo buddiant wedi’i drosglwyddo i unigolyn sy’n gyfranogwr, neu sy’n gyswllt i gyfranogwr, yn ystod y cyfnod hwn ac nid oes taliad Ffurflen Dreth wedi’i wneud i’r cwmni o fewn y cyfnod
Defnyddiwch ffigurau llawn i lenwi’r blychau, ac eithrio lle bo gofyn defnyddio ceiniog neu le degol.
A5 Benthyciadau wedi’u had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu neu daliadau Ffurflenni Treth
Nodwch X os yw unrhyw un o’r benthyciadau, yn ystod y cyfnod wedi’u had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu. Yn achos trefniadau, nodwch X os yw taliadau Ffurflenni Treth wedi’u gwneud cyn diwedd y cyfnod.
A10 Benthyciadau heb eu talu a threfniadau a wnaed
Defnyddiwch y tabl i nodi manylion unrhyw fenthyciadau heb eu talu a wnaed, neu fanylion unrhyw fuddiant a drosglwyddwyd, o dan drefniadau adran 464A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg), i gyfranogwr neu gyswllt i gyfranogwr yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth. Os oes gan y cyfranogwr neu’r cyswllt gyfrif cyfredol neu gyfrif benthyg yn y cwmni, nodwch fanylion cyfrif pob cyfranogwr neu gyswllt.
Y ffigur a nodwch yng ngholofn 2 o’r tabl yw cyfanswm yr holl gofnodion debyd ar y cyfrif, llai unrhyw gofnodion credyd a llai unrhyw falans credyd a ddygwyd ymlaen o gyfnod y Ffurflen Dreth flaenorol. Wrth gyrraedd y ffigur hwn, mae’n rhaid i chi eithrio unrhyw gofnodion credyd sy’n cynrychioli benthyciadau sydd wedi’u had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu mewn cyfnodau Ffurflenni Treth cynharach.
A15 Cyfanswm
Nodwch gyfanswm:
-
pob benthyciad o fewn adran 455 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) a wnaed yn ystod y cyfnod cyfrifyddu sydd heb ei ad-dalu, ei ryddhau neu ei ddileu cyn diwedd y cyfnod
-
unrhyw fuddiant a drosglwyddwyd o dan drefniadau sy’n agored i dreth o dan adran 464A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod y cyfnod cyfrifyddu lle nad oes taliad Ffurflen Dreth wedi’i wneud cyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu
-
benthyciadau neu fuddiannau a drosglwyddwyd, yr ystyrir eu bod heb eu talu, yn ôl adran 464C o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
A20 Treth i’w chodi
Nodwch gyfanswm y dreth i’w chodi ar fenthyciadau a wnaed neu fuddiannau a drosglwyddwyd o flwch A15.
Codir treth o 25% ar unrhyw fenthyciadau a wnaed neu unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd cyn 6 Ebrill 2016. Codir treth ar unrhyw fenthyciadau a wnaed neu unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ar gyfradd uchaf y difidend a nodir yn adran 8(2) o Ddeddf Treth Incwm 2007 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y flwyddyn dreth lle y gwnaed y benthyciad neu’r taliad ymlaen llaw. Hyd at 5 Ebrill 2022, y gyfradd oedd 32.5% ac o 6 Ebrill 2022, cyfradd uchaf y difidend oedd 33.75%.
Rhan 2: rhyddhad ar gyfer taliadau Ffurflenni Treth a/neu symiau wedi’u had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu o fewn 9 mis
Llenwch ran 2 er mwyn cael rhyddhad ar gyfer symiau a nodir ym mlwch A15 a gafodd eu had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’r Ffurflen Dreth ar gyfer y cyfnod lle y gwnaed y benthyciadau neu’r lle y trosglwyddwyd y buddiant
-
cafodd y benthyciad ei ad-dalu, ei ryddhau neu ei ddileu (neu gwnaed taliad Ffurflen Dreth ar gyfer gwerth y buddiant) ar ôl diwedd y cyfnod ond yn gynt na’r 9 mis ac un diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu lle y gwnaed y benthyciad
A25 Rhyddhad ar gyfer taliadau Ffurflenni Treth neu symiau wedi’u had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu o fewn 9 mis
Defnyddiwch y tabl i nodi manylion ar gyfer pob cyfranogwr neu gyswllt. Os bu nifer o ad-daliadau neu daliadau Ffurflenni Treth ar gyfrif, nodwch gyfanswm yr ad-daliadau a’r taliadau Ffurflenni Treth ar gyfer y cyfrif hwnnw yn unig a nodwch ddyddiad yr ad-daliad diwethaf. Mae’n rhaid gwneud cofnod ar wahân ar gyfer pob benthyciad neu ran o fenthyciad sydd wedi’i ryddhau neu ei ddileu.
Enghraifft
Mae cwmni yn gwneud benthyciad o dan y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Mae’r benthyciad cyfan yn cael ei ad-dalu ar 30 Mehefin 2021. Mae Ffurflen Dreth y cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020 yn cael ei anfon at CThEF ar 1 Tachwedd 2021. Dylai rhan 2 gael ei llenwi gan fod y benthyciad wedi’i ad-dalu ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu ond yn gynt na’r 9 mis ac un diwrnod ar ei ôl.
A30 Y cyfanswm wedi’i ad-dalu neu gyfanswm y taliadau Ffurflenni Treth a wnaed
Nodwch gyfanswm yr ad-daliadau a’r taliadau Ffurflenni Treth a wnaed ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu, ond yn gynt na 9 mis ac un diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu.
A35 Y cyfanswm wedi’i ryddhau neu ei ddileu
Nodwch y cyfanswm sydd wedi’i ad-dalu neu ei ddileu ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu ond yn gynt na 9 mis ac un diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu.
A40 Cyfanswm
Nodwch swm bylchau A30 ac A35.
A45 Rhyddhad sy’n ddyledus
Nodwch gyfanswm y rhyddhad sy’n ddyledus ar symiau sydd wedi’u rhyddhau neu eu dileu ym mlwch A40.
Mae rhyddhad o 25% yn ddyledus ar unrhyw fenthyciadau a wnaed neu unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd cyn 6 Ebrill 2016. Mae rhyddhad yn ddyledus ar unrhyw fenthyciadau a wnaed neu unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ar gyfradd uchaf y difidend a nodir yn adran 8(2) o Dreth Treth Incwm 2007 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y flwyddyn dreth lle y gwnaed y benthyciad neu’r taliad ymlaen llaw. Hyd at 5 Ebrill 2022, y gyfradd oedd 32.5% ac o 6 Ebrill 2022, cyfradd uchaf y difidend oedd 33.75%.
Rhan 3: rhyddhad sy’n ddyledus nawr ar gyfer taliadau Ffurflenni Treth a/neu symiau wedi’u had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu’n nes ymlaen
Rhyddhad ar gyfer benthyciadau a wnaed neu fuddiannau a drosglwyddwyd o dan drefniadau yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth a gafodd eu had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu (neu daliadau Ffurflenni Treth a wnaed neu fuddiant a drosglwyddwyd) mwy na 9 mis ar ôl diwedd y cyfnod a lle bo rhyddhad yn ddyledus nawr. Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o’r cwmnïau lenwi rhan 3.
Dylech ond llenwi rhan 3 os yw pob un o’r amodau canlynol yn berthnasol:
-
lle bo’r benthyciad wedi’i wneud neu’r buddiant wedi’i drosglwyddo o dan drefniadau yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth
-
lle bo’r ad-daliad, achos o ryddhau neu ddileu neu daliad Ffurflen Dreth yn fwy na 9 mis ar ôl diwedd y cyfnod lle y gwnaed y benthyciad
-
lle bo’r Ffurflen Dreth wedi’i chyflwyno ar ôl y dyddiad y mae rhyddhad yn ddyledus (os anfonir y Ffurflen Dreth yn hwyr iawn, o leiaf 21 mis ar ôl diwedd cyfnod y Ffurflen Dreth)
Llenwch ran 3 dim ond os yw benthyciadau a wnaed neu fuddiannau a drosglwyddwyd o dan drefniadau yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth sydd heb eu had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu (neu daliad Ffurflen Dreth a wnaed yn erbyn buddiant a drosglwyddwyd) a lle bo rhyddhad yn ddyledus nawr.
Enghraifft 1
Mae cwmni yn gwneud benthyciad o dan y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014. Mae’n cael ei ad-dalu’n llawn ar 30 Tachwedd 2015. Mae Ffurflen Dreth y cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014 yn cael ei anfon at CThEF ar 1 Rhagfyr 2015.
Ni ddylai rhan 3 o’r ffurflen hon gael ei llenwi. Er i’r benthyciad gael ei ad-dalu mwy na 9 mis ar ôl diwedd cyfnod y Ffurflen Dreth, anfonwyd y Ffurflen Dreth yn gynt na 9 mis ar ôl diwedd y cyfnod Ffurflen Dreth lle yr ad-dalwyd y benthyciad. Nid oes modd rhoi rhyddhad ar gyfer yr ad-daliad tan ddyddiad dyledus y cyfnod cyfrifyddu lle y gwnaed yr ad-daliad, sef 1 Hydref 2016 yn yr achos hwn (darllenwch adran 458(4),(5) a (6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)). Mae’n rhaid i’r cwmni wneud hawliad ar wahân am ryddhad.
Enghraifft 2
Mae cwmni yn gwneud benthyciad o dan y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014. Mae’n cael ei ad-dalu’n llawn ar 30 Tachwedd 2015. Mae Ffurflen Dreth y cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2014 yn cael ei anfon at CThEF ar 3 Rhagfyr 2016. Mae rhyddhad ar gyfer yr ad-daliad yn ddyledus ar neu ar ôl 1 Hydref 2016.
Yn yr achos hwn, gall rhan 3 gael ei llenwi gan fod yr ad-daliad wedi’i wneud mwy na 9 mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu lle y gwnaed y benthyciad, a bo’r rhyddhad yn ddyledus ar yr adeg yr anfonir y Ffurflen Dreth.
A50 Rhyddhad sy’n ddyledus nawr ar gyfer taliadau Ffurflenni Treth a/neu symiau wedi’u had-dalu, eu rhyddhau neu eu dileu’n nes ymlaen
Nodwch fanylion priodol yn y tabl.
A55 Y cyfanswm wedi’i ad-dalu/cyfanswm y taliadau Ffurflenni Treth a wnaed
Nodwch y cyfanswm sydd wedi’i ad-dalu/cyfanswm y taliadau Ffurflenni Treth a wnaed mwy na 9 mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu lle bo rhyddhad yn ddyledus nawr.
A60 Y cyfanswm wedi’i ryddhau neu ei ddileu
Nodwch y cyfanswm sydd wedi’i ad-dalu neu ei ddileu mwy na 9 mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu lle bo rhyddhad yn ddyledus nawr.
A65 Cyfanswm
Nodwch swm bylchau A55 ac A60.
A70 Rhyddhad sy’n ddyledus
Nodwch gyfanswm y rhyddhad sy’n ddyledus ar symiau sydd wedi’u rhyddhau neu eu dileu yn A65. Mae rhyddhad o 25% yn ddyledus ar unrhyw fenthyciadau a wnaed neu unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd cyn 6 Ebrill 2016. Mae rhyddhad yn ddyledus ar unrhyw fenthyciadau a wnaed neu unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ar gyfradd uchaf y difidend a nodir yn adran 8(2) o Dreth Treth Incwm 2007 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y flwyddyn dreth lle y gwnaed y benthyciad neu’r taliad ymlaen llaw. Hyd at 5 Ebrill 2022, y gyfradd oedd 32.5% ac o 6 Ebrill 2022, cyfradd uchaf y difidend oedd 33.75%.
Os gwnewch gofnod ym mlwch A70, nodwch X ym mlwch 485 o’ch ffurflen CT600.
Crynodeb o’r wybodaeth
A75 Cyfanswm yr holl fenthyciadau a threfniadau, ar gyfer yr holl gyfnodau, sydd heb eu had-dalu ar ddiwedd cyfnod y Ffurflen Dreth
Nodwch gyfanswm yr holl fenthyciadau sydd heb eu talu a gwerth buddiant a drosglwyddwyd o dan drefniadau (at ddibenion adran 464A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)) lle nad oes taliad Ffurflen Dreth wedi’i wneud ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu. Dylai hyn gynnwys y rheiny a wnaed yn y cyfnod hwn a chyfnodau cynt a’r rhai yr ystyrir eu bod heb eu talu yn ôl adran 464C o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
A80 Treth sy’n daladwy
Nodwch y ffigur o flwch A20 llai swm blychau A45 ac A70.
Nodwch y ffigur o flwch A80 yn flwch 480 ar eich ffurflen CT600.
Geirfa
Cyswllt
Mae cyswllt i gyfranogwr yn cynnwys unrhyw berthynas neu bartner cyfranogwr ac ymddiriedolwyr unrhyw setliad lle bo, neu lle roedd, y cyfranogwr neu ei berthynas yn setlwr (darllenwch adran 448 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)).
Cwmni caeedig
Mae cwmni caeedig yn un sydd o dan reolaeth 5 neu lai o gyfranogwyr, neu unrhyw nifer o gyfranogwyr sy’n gyfarwyddwyr (darllenwch adran 439 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)).
Benthyciadau
Mae benthyciad o fewn adran 455 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys y sefyllfa lle bo cyfranogwr yn creu dyled i’r cwmni caeedig (darllenwch adran 455(4)(a)). Er enghraifft, drwy ordynnu cyfrif cyfredol neu gyfrif benthyg.
Mae eithriadau pan nad yw adran 455 yn berthnasol. Rhoddir y rhain yn adran 456 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg):
-
dyled y mae’r cwmni caeedig yn mynd iddi er mwyn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau yng nghwrs arferol ei fasnach neu ei fusnes, oni bai bod y credyd a roddir dros 6 mis, neu’n hirach na’r cyfnod a roddwyd fel arfer i gwsmeriaid y cwmni (adran 456(2))
-
benthyciadau penodol a wnaed i gyfarwyddwyr llawn amser neu gyflogeion nad oes ganddynt fuddiant perthnasol yn y cwmni caeedig (adran 456(3))
-
benthyciadau neu daliadau ymlaen llaw a wnaed i ymddiriedolwr neu ymddiriedolaeth elusennol ar neu ar ôl 25 Tachwedd 2015, ar yr amod bod y benthyciad neu’r taliad ymlaen llaw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ymddiriedolaeth elusennol yn unig (adran 456(2A))
Nid yw benthyciad yn cael ei ad-dalu lle bo adran 464C o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) yn berthnasol. Os yw’r adran honno’n berthnasol i unrhyw daliad, ad-daliad neu ad-daliad Ffurflen Dreth, dylai swm y benthyciad neu’r buddiant a drosglwyddwyd, yr ystyrir ei fod heb ei dalu, gael ei gynnwys yn y Ffurflen Dreth hon.
Ymhlith y dulliau o ad-dalu benthyciad mae talu arian i mewn i gyfrif banc y cwmni, credydu cyfrif cyfredol neu gyfrif benthyg y cyfranogwr gyda difidend, tâl cyfarwyddwr neu fonws.
Cyfranogwr
Dyma berson sydd â chyfran neu fuddiant yng nghyfalaf neu incwm y cwmni ac mae’n cynnwys unrhyw gredydwr benthyciad y cwmni (darllenwch adran 454 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)).
Rhyddhau
Mae’r term rhyddhau neu ryddhad yn cyfeirio at weithdrefn ffurflen sydd fel arfer yn digwydd o dan sêl ystyriaeth.
Dileu
Term ehangach yw hyn sydd ddim o reidrwydd yn gofyn am drefniadau ffurfiol. Gallai cynnwys fod y cwmni’n derbyn na fydd y benthyciad yn cael ei adennill a’i fod wedi rhoi’r gorau i geisio gwneud hynny.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch fenthyciadau’r Cyfarwyddwyr (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am fenthyciadau i gyfranogwyr.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Ionawr 2024 + show all updates
-
Added translation
-
Information about the dividend upper rates up to 5 April 2022 and from 6 April 2022 have been added to the 'A20 Tax chargeable', 'A45 Relief due' and 'A70 Relief due' sections. 'Book entry' has been removed from methods by which a loan can be repaid under the 'Loans' section.
-
First published.