Canllawiau

Tudalennau atodol CT600E: elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600E a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Mae angen i chi lenwi’r tudalennau atodol hyn os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r elusen, neu’r clwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC), yn hawlio eithriad rhag treth ar ei holl incwm a’i holl enillion, neu unrhyw ran ohonynt

  • mae’r tudalennau atodol hyn yn ffurfio hawliad yr elusen neu’r CChAC am eithriad rhag treth ar y sail bod ei incwm a’i enillion wedi’u defnyddio at ddibenion elusennol neu gymhwysol yn unig

Bydd graddau a natur eich gweithgareddau yn cael effaith ar ba mor aml y bydd gofyn i chi gyflwyno Ffurflen Dreth.

Gwybodaeth am y cwmni

E1 Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

E2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

E3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

E4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Hawliadau am eithriad

E15 Roedd y cwmni yn elusen, neu’n CChAC, ac yn hawlio eithriad rhag yr holl dreth ar ei holl incwm a’i holl enillion, neu ran ohonynt. (Dylech hefyd roi ‘X’ ym mlwch E15 os oedd y cwmni’n elusen, neu’n CChAC, ond ni chafodd incwm nag enillion yn ystod y cyfnod)

Mae’n rhaid i chi wneud cofnod yn y blwch hwn, a naill ai blwch E20 neu flwch E25.

E20 Mae’r holl incwm a’r holl enillion wedi’u heithrio rhag treth ac wedi’u defnyddio, neu’n mynd i gael eu defnyddio, at ddibenion elusennol neu gymhwysol yn unig

Nodwch ‘X’ os yw’r holl incwm a’r holl enillion wedi’u heithrio rhag treth ac wedi’u defnyddio, neu’n mynd i gael eu defnyddio, at ddibenion elusennol neu gymhwysol yn unig — a hynny yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y tudalennau atodol hyn.

E25 Mae’n bosibl bod rhan o’r incwm a’r enillion heb gael eu heithrio rhag treth, neu heb gael eu defnyddio at ddibenion elusennol neu gymhwysol yn unig, a’ch bod wedi llenwi’r ffurflen CT600

Nodwch ‘X’ os yw’n bosibl bod rhan o’r incwm a’r enillion heb eu heithrio rhag treth, neu heb gael eu defnyddio at ddibenion elusennol neu gymhwysol yn unig — a hynny yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y tudalennau atodol hyn.

Dylai’r incwm neu’r enillion nad ydynt wedi’u heithrio, neu’r incwm a’r enillion nad ydynt wedi cael eu defnyddio at ddibenion elusennol neu gymhwysol yn unig, gael eu nodi ar y brif ffurflen CT600.

E35 Statws

Oni bai bod datodwr neu weinyddwr wedi’i benodi, gall unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i lofnodi ar ran y cwmni fynd ati i wneud hynny. Ar gyfer CChAC, dylai’r trysorydd lofnodi.

Ad-daliadau

Gall elusen, enwebai CChAC, asiantaeth gasglu neu asiant awdurdodedig ddefnyddio Elusennau Ar-lein i hawlio ad-daliadau treth ar gyfer:

  • Rhodd Cymorth

  • incwm arall, er enghraifft llog banc

  • taliadau atodol o dan y Cynllun Cyfraniadau Bach Rhodd Cymorth

Darllenwch yr arweiniad ynghylch hawlio treth yn ôl ar gyfraniadau drwy ddefnyddio Elusennau Ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am hawlio ad-daliad.

E45 Treth a or-hawliwyd

Nodwch ‘X’ os yw’r elusen wedi gor-hawlio treth ar gyfer y cyfnod.

Yr wybodaeth sydd ei hangen

E50 i E190

Yn yr adran hon, dylech nodi’r canlynol:

  • manylion unrhyw incwm a gafwyd o’r ffynonellau a ddangosir, a hwnnw wedi’i hawlio fel wedi’i eithrio rhag treth yn nwylo’r elusen neu’r CChAC

  • y ffigur sydd wedi’i gynnwys yng nghyfrifon yr elusen neu’r CChAC ar gyfer y cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth hon

Peidiwch â chynnwys symiau sy’n drethadwy. Nodwch symiau nad ydynt wedi’u heithrio ar eich ffurflen CT600.

E50 Trosiant masnachu

Nodwch fanylion y trosiant masnachu.

Ar gyfer elusennau, bydd yr elw yn cael ei eithrio gan y naill neu’r llall o’r canlynol:

Ar gyfer CChAC, bydd yr elw yn cael ei eithrio gan Bennod 9 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

Os yw’r elusen, neu’r CChAC, wedi cynnal masnach yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth sydd y tu allan i’r eithriad, llenwch Gyfrifiad Treth y Cwmni ar y ffurflen CT600. Peidiwch â chynnwys ffynonellau o incwm sydd fel arall wedi eu heithrio rhag treth, yn y cyfrifiad. Hefyd, llenwch yr adran ‘Ynglŷn â’r Ffurflen Dreth hon’ ar dudalen 1, a’r datganiad ar y ffurflen CT600.

E75 Rhoddion o gyfranddaliadau neu warantau a gafwyd

Nodwch werth unrhyw roddion o gyfranddaliadau neu warantau a gafwyd o dan adran 431 o Ddeddf Treth Incwm 2007.

E80 Rhoddion o eiddo tirol a gafwyd

Nodwch werth unrhyw roddion o eiddo tirol a gafwyd o dan adran 431 o Ddeddf Treth Incwm 2007.

E85 Ffynonellau eraill (sydd heb eu cynnwys uchod)

Nodwch swm yr incwm a gafwyd o ffynonellau ar wahân i’r rhai a nodwyd yn y bylchau uchod, lle bo’r incwm sydd wedi’i eithrio rhag treth yn nwylo’r elusen neu’r CChAC. Bydd hyn yn cynnwys incwm ‘case VI’. Darllenwch Ran 10 o Ddeddf Treth Incwm 2007.

E95 i E125 Math o wariant

Nodwch fanylion y gwariant fel y dangosir yng nghyfrifon yr elusen neu’r CChAC ar gyfer y cyfnod a gwmpesir gan y tudalennau atodol hyn.

E130 i E190 Asedion elusennau neu CChAC

Nodwch gyfanswm y taliadau a gafwyd ar gyfer asedion elusen neu CChAC, a gafodd eu gwaredu yn ystod y cyfnod. Hefyd, nodwch ffigurau’r cyfrifon ar gyfer yr asedion a ddelir ar ddiwedd y cyfnod.

Buddsoddiadau a benthyciadau cymeradwy — yn berthnasol i elusennau yn unig

Gweler yr adrannau isod i gael rhagor o wybodaeth am y mathau o fuddsoddiadau a benthyciadau sydd wedi’u cymeradwyo, ac sy’n gymwys fel gwariant elusennol:

Mae’r ddeddfwriaeth hon hefyd yn egluro sut y gall elusen wneud hawliad i CThEF am unrhyw fuddsoddiad neu fenthyciad arall sydd heb gael ei nodi’n benodol.

Yn yr achos hwn, mae’n rhaid i’r buddsoddiad neu’r benthyciad fod wedi’i wneud er budd yr elusen, nid er mwyn arbed treth (p’un a yw hyn wedi’i wneud gan yr elusen neu unrhyw berson arall). Dylai hawliadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig, gan nodi’r canlynol:

  • natur yr eitem (er enghraifft, benthyciadau neu gyfranddaliadau)

  • y swm

  • y cyfnod

  • o dan ba adran o’r ddeddfwriaeth y mae’r hawliad hwn yn cael ei wneud

Dylech gynnwys manylion a dogfennau llawn wrth wneud hawliad. Er enghraifft, dogfennau ynghylch y benthyciad, unrhyw gyngor cyfreithiol a gafwyd a chofnodion o’r broses benderfynu.

E180 Buddsoddiadau a benthyciadau cymwys — yn berthnasol i elusennau yn unig

Nodwch ‘X’ dim ond os yw pob buddsoddiad a benthyciad wedi’i gymeradwyo.

E185 Gwerth unrhyw fuddsoddiad neu fenthyciad nad yw’n gymwys — yn berthnasol i elusennau yn unig

Nodwch gyfanswm unrhyw fuddsoddiadau neu fenthyciadau nad ydynt yn gymwys ym mlwch E185 os yw’r canlynol yn berthnasol:

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y rhyddhadau sydd ar gael i elusennau a CChACau, darllenwch arweiniad CThEF:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Ionawr 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Print this page