Tudalennau atodol CT600K: Treth Iawndal
Sut i lenwi tudalennau atodol CT600K a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.
Pryd i’w llenwi
Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’r cwmni:
-
yn agored i Dreth Gorfforaeth ar log iawndal o dan Ran 8C o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010
-
â llog iawndal nad yw wedi’i esemptio rhag y tâl treth iawndal
Mae llog iawndal yn golygu elw sy’n bodloni amodau A i C.
Amod A
Bod yr elw yn llog a delir, neu sy’n daladwy, gan CThEF mewn perthynas â hawliad gan y cwmni am iawndal yn sgil y naill neu’r llall o’r materion (neu’r materion honedig) canlynol:
-
talu swm i CThEF o dan gamgymeriad cyfreithiol sy’n ymwneud â mater treth
-
casgliad anghyfreithlon gan CThEF o swm mewn perthynas â threthiant
Amod B
Bod:
-
llys wedi gwneud penderfyniad terfynol bod CThEF yn agored i dalu’r llog
-
CThEF a’r cwmni, wrth setlo’r hawliad yn derfynol, wedi ymrwymo i gytundeb sy’n golygu bod gan y cwmni hawl i gael y llog wedi’i dalu iddo, neu i gadw’r llog
Amod C
Nad yw’r llog y penderfynwyd ei fod yn ddyledus, neu y cytunwyd arno, wedi’i gyfyngu i log syml ar gyfradd statudol.
Darllenwch adran 357YC o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 am ragor o wybodaeth am ystyr ‘llog iawndal’.
Dylech nodi:
-
y caiff Treth Gorfforaeth ei chodi ar log iawndal ar y gyfradd taliadau iawndal — ar hyn o bryd mae hyn yn 45%
-
wrth gyfrifo rhwymedigaeth treth ar y llog iawndal, bod rhyddhadau Treth Gorfforaeth, neu ostyngiadau ar gyfer unrhyw symiau o Dreth Incwm neu Dreth Gorfforaeth neu unrhyw symiau eraill, wedi’u heithrio rhag y cyfrifiad (darllenwch adran 357YL o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 am ragor o wybodaeth)
-
bod swm sy’n cael ei ddidynnu oddi wrth daliad llog yn cael ei drin, at bob diben, fel un a delir gan y cwmni, oherwydd bod y cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth sydd i’w chodi ar y llog iawndal (darllenwch adran 357YP o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 am ragor o wybodaeth)
Gwybodaeth am y cwmni
K1, Enw’r cwmni
Nodwch enw’r cwmni.
K2, Cyfeirnod treth
Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.
Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)
K3
Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
K4
Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
Manylion y cyfrifiad treth
K5, Hunanasesiad o’r dreth sy’n daladwy cyn y dreth iawndal
Nodwch y ffigur o flwch 525 ar eich ffurflen CT600.
K10, Llog iawndal
Nodwch swm y llog iawndal sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu.
K15, Colofnau A i D
Nodwch swm y llog sydd i’w godi ar bob cyfradd dreth, a swm y dreth ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
K20, Cyfanswm y dreth iawndal
Nodwch swm D1 a D2.
K25, Y dreth sydd eisoes wedi’i chadw’n ôl
Nodwch swm y dreth sydd wedi’i chadw’n ôl o’r taliad sy’n ymwneud â’r cyfnod cyfrifyddu hwn (darllenwch adran 357YO o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010). Ni all y swm yn y blwch hwn fod yn fwy na’r swm ym mlwch K20.
K30, Hunanasesiad o’r dreth sy’n daladwy ar ôl y dreth iawndal
Nodwch swm blychau K5 a K20 llai’r swm ym mlwch K25.
K35, Y dreth iawndal sydd nawr yn daladwy
Nodwch y ffigur ym mlwch K20 llai’r ffigur ym mlwch K25.
Nodwch y ffigur hwn ym mlwch 527 ar eich ffurflen CT600.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Ionawr 2024 + show all updates
-
Added translation
-
First published.