Mynd â nwyddau masnachol allan o Brydain Fawr yn eich bagiau
Dysgwch am yr hyn y mae angen i chi ei wneud wrth allforio nwyddau masnachol allan o Brydain Fawr yn eich bagiau sy’n dod gyda chi neu gerbyd bach.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Mae nwyddau masnachol yn eich bagiau sy’n dod gyda chi, a elwir hefyd yn nwyddau mewn bagiau (‘merchandise in baggage’), yn nwyddau rydych yn bwriadu eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes pan fo’r canlynol yn wir:
- nid yw cwmni cludo masnachol yn cludo’r nwyddau i chi, neu nid ydych yn talu’r cwmni i’w cludo ar eich rhan
- rydych wedi teithio o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr, yr Alban) yn cludo nwyddau yn y naill neu’r llall o’r canlynol:
- eich bagiau
- cerbyd bach nad yw’n cario mwy na 9 o bobl ac sy’n pwyso 3.5 tunnell neu’n llai
Mae’n rhaid i chi ddatgan pob un nwydd masnachol. Nid oes lwfansau di-doll ar nwyddau rydych yn mynd â nhw er mwyn eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd yn rhaid i chi, neu rywun sy’n ymdrin â’r tollau ar eich rhan (yn Saesneg), wneud y canlynol:
-
Cael rhif EORI.
-
Datgan y nwyddau i CThEF.
Mae ffordd wahanol o ddatgan y canlynol:
Sut i ddatgan
Os byddwch yn mynd â nwyddau masnachol allan o Brydain Fawr, mae’n rhaid i chi wneud un o’r canlynol:
- datganiad allforio llawn
- datganiad ar-lein syml
- datganiad drwy ymddygiad
Mae gennych 5 diwrnod i ddatgan y nwyddau cyn i chi adael Prydain Fawr os byddwch yn gwneud datganiad ar-lein syml.
Nid oes angen i chi wneud datganiad diogelwch (yn Saesneg) ar gyfer allforio nwyddau mewn bagiau.
Gwneud datganiad allforio llawn
Dylech wirio’r gofynion o ran tollau ar gyfer y wlad yr ydych yn teithio iddi oherwydd gall y rhain fod yn wahanol i ofynion y DU.
Nid yw cyflwyno datganiad allforio’n eich eithrio chi rhag gofynion o ran datganiadau tollau gwlad arall.
Cyflwyno datganiad allforio llawn cyn gadael Prydain Fawr
Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad allforio llawn (yn Saesneg) cyn i chi adael Prydain Fawr os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch nwyddau’n werth mwy na £1,500
-
mae’ch nwyddau’n pwyso mwy na chyfanswm o 1,000kg
-
mae’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
-
alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad allforio llawn os yw’ch nwyddau’n cael eu gosod o dan weithdrefn tollau arbennig (yn Saesneg), neu’n cael eu tynnu ohoni, neu os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad ar gyfer y nwyddau hyn.
Mae’n rhaid i chi hefyd gyflwyno datganiad allforio llawn os ydych yn hawlio rhyddhad TAW (yn Saesneg).
Defnyddiwch Dariff Ar-lein Integredig y DU (yn Saesneg) i wirio a yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau.
Os ydych yn gwneud datganiad allforio llawn, bydd yn rhaid i chi (neu rywun sy’n ymdrin â’r tollau ar eich rhan (yn Saesneg)) wneud y canlynol:
-
Cael rhif EORI.
-
Datgan y nwyddau i CThEF.
Mae angen i chi gyflwyno datganiadau allforio llawn gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn Saesneg). Bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi, neu’ch asiant, fynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Mae gan allforwyr hyd at 30 Mawrth 2024 i symud pob datganiad toll llawn draw at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Bydd angen meddalwedd arbenigol arnoch er mwyn gwneud datganiad allforio llawn drwy ddull electronig ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Os ydych yn gwneud eich datganiad allforio llawn eich hun, bydd angen meddalwedd arnoch hefyd sy’n gweithio gyda System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).
I gael mynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau neu system CHIEF gwiriwch y rhestr o ddatblygwyr meddalwedd sy’n cyflenwi meddalwedd arbenigol (yn Saesneg).
Gwneud datganiad ar-lein syml
Os nad oes angen i chi wneud datganiad allforio llawn, gallwch wneud datganiad ar-lein syml (yn Saesneg) yn ystod y 5 diwrnod cyn i chi adael gyda’ch nwyddau masnachol.
Gallwch wneud datganiad syml drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer datgan nwyddau mewn bagiau os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch nwyddau’n gadael Prydain Fawr
-
mae’ch nwyddau’n werth llai na £1,500
-
mae’ch nwyddau’n pwyso llai na chyfanswm o 1,000kg
-
nid yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
-
nid alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Ni allwch wneud datganiad ar-lein syml os yw’ch nwyddau’n cael eu gosod o dan weithdrefn tollau arbennig (yn Saesneg), neu’n cael eu tynnu ohoni, neu os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad ar gyfer y nwyddau hyn.
Defnyddiwch Dariff Ar-lein Integredig y DU (yn Saesneg) i ddod o hyd i nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau.
Yr hyn y mae datgan ar-lein yn eich caniatáu i wneud
Bydd datgan ar-lein yn eich caniatáu i wneud y canlynol:
-
mynd drwy’r sianel werdd, a elwir hefyd yn ‘dim byd i’w ddatgan’
-
ychwanegu nwyddau at ddatganiad rydych eisoes wedi’i wneud, cyn belled â bo’r canlynol yn wir:
- mae’r holl nwyddau’n werth llai na £1,500
- mae’r holl nwyddau’n pwyso llai na chyfanswm o 1,000kg
- nid yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
- nid alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Defnyddiwch Dariff Ar-lein Integredig y DU (yn Saesneg) i wirio a yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau.
Gwnewch ddatganiad ar-lein syml (yn Saesneg) cyn gadael Prydain Fawr.
Gwneud datganiad drwy ymddygiad
Gallwch wneud datganiad drwy ymddygiad pan fyddwch yn gadael Prydain Fawr os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch nwyddau’n werth llai na £1,500
-
mae’ch nwyddau’n pwyso llai na chyfanswm o 1,000kg
-
nid yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
-
nid alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Ni allwch wneud datganiad drwy ymddygiad os yw’ch nwyddau’n cael eu gosod o dan weithdrefn tollau arbennig (yn Saesneg), neu’n cael eu tynnu ohoni, neu os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad ar gyfer y nwyddau hyn.
I wneud y datganiad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cerdded drwy fan rheoli tollau (gall hyn fod yn sianel werdd, ‘dim byd i’w ddatgan’) gyda’r nwyddau, os ydych yn unigolyn ar droed
- gyrru (neu rywun yn eich gyrru) heibio man rheoli tollau gyda’r nwyddau yn eich cerbyd, os ydych yn teithio mewn cerbyd
- parhau â’ch taith, os nad oes unrhyw fannau rheoli tollau yno
Dylech wneud datganiad ar-lein syml yn hytrach na datganiad drwy ymddygiad os oes angen tystiolaeth o allforio arnoch.
Symud nwyddau masnachol yn eich bagiau sy’n dod gyda chi o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
Nid oes angen i chi wneud datganiad pan fydd eich nwyddau’n gadael Prydain Fawr, ond bydd angen i chi wneud datganiad yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg). Mae CThEF wedi darparu Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (yn Saesneg) sy’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. Gallwch wneud datganiadau gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn am nwyddau o unrhyw werth neu natur.
Dysgwch ragor am sut y gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr i wneud datganiadau am nwyddau mewn bagiau ar wefan Academi Tollau a Masnach Gogledd Iwerddon (yn Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 31 Rhagfyr 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Ionawr 2024 + show all updates
-
The threshold of the maximum value for making simplified declarations of merchandise in baggage has risen to £2,500.
-
Welsh translation added.
-
This has been updated because declarations of merchandise in baggage exports should now be made using the Customs Declaration Service.
-
Definition of ‘declaration by conduct’ added.
-
A Welsh Language version of the page has been added.
-
Information about what you’ll need to do when you leave Great Britain from 1 July 2021 has been added.
-
Welsh translation added.
-
Guidance about making a simple online declaration has been updated.
-
Date for when you will need to submit a full-customs export declaration to HMRC has been added.
-
The date from when you will need to submit a safety and security declaration to HMRC if you are carrying your goods in a goods vehicle, has been updated to 1 January 2022. The previous date of 1 July 2022 was published in error.
-
The date from when you will need to submit a safety and security declaration to HMRC if you are carrying your goods in a goods vehicle, has been updated to 1 July 2022.
-
Information about submitting a safety and security declaration to HMRC, if you are carrying your goods in a goods vehicle has been added.
-
First published.