Rhoi gwybod i CThEF am dreth a dandalwyd o flynyddoedd blaenorol
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i roi gwybod i CThEF am incwm neu enillion o flynyddoedd treth blaenorol nad ydych wedi’u datgan.
Gwnewch ddatgeliad am incwm neu enillion, artraeth ac alltraeth, o flynyddoedd treth blaenorol nad ydych wedi’u datgan.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn un o’r canlynol:
- unigolyn
- aelod dynodedig o gwmni cyfyngedig
- ymddiriedolwr ymddiriedolaeth
- cynrychiolydd ystâd
- swyddog cwmni
- asiant
Cyn i chi ddechrau
Darllenwch yr arweiniad ynghylch gwneud datganiad (yn agor tudalen Saesneg). Mae hwn yn esbonio sut i baratoi’ch datgeliad a beth i’w ddisgwyl
Gallwch ddefnyddio un o’r cyfrifianellau canlynol i’ch helpu i gyfrifo’r dreth, y llog a’r cosbau sydd arnoch os yw’ch materion treth yn syml, a bod dim ond gennych hawl i lwfansau personol sylfaenol:
- cyfrifiannell treth, llog a chosbau ar gyfer y blynyddoedd treth a ddaeth i ben rhwng 5 Ebrill 2010 a 05 Ebrill 2023 (yn agor tudalen Saesneg)
- cyfrifiannell llog a chosbau ar gyfer y blynyddoedd treth a ddaeth i ben rhwng 5 Ebrill 2004 a 05 Ebrill 2023 (yn agor tudalen Saesneg)
Gallwch gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.
Os nad oes angen i chi wneud datgeliad mwyach, ffoniwch y llinell gymorth ar gyfer datgeliadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu.
Os oes un gennych yn barod, bydd hefyd angen y canlynol:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich rhif cofrestru TAW
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- cyfeirnod eich achos
Gwneud datgeliad
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
The interest and penalty calculator has been updated to include the tax years ending 5 April 2005 to 5 April 2023.
-
The interest and penalty calculators have been updated.
-
The tax, interest and penalties calculators have been updated.
-
Welsh translation has been added.
-
Added translation