Canllawiau

System Pwyntiau Mewnfudo'r DU: Cyflwyniad ar gyfer dinasyddion yr UE

Daeth y rhyddid i symud rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd i ben ar Ragfyr 31, 2020. Yna, ar Ionawr 1, 2021 gweithredwyd system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau gan y Deyrnas Unedig (DU), sydd yn blaenoriaethu sgiliau a thalent uwchben y lle mae person yn hanu.

Find out about what you’ll need to do before you leave for the UK because of coronavirus (COVID-19).

Trosolwg

Gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 31, 2020.

Os nad oeddech yn byw yn y DU cyn Rhagfyr 31, 2020 a’ch bod heb hawliau o dan y Cytundeb Ymadael, bydd angen i chi ddiwallu gofynion penodol i gael gweithio neu astudio yn y DU o Ionawr 1, 2021. Bydd angen i chi fodloni gwiriadau perthnasol hefyd, gan gynnwys gwiriadau troseddol y DU. Gallwch barhau i ymweld â’r DU am hyd at 6 mis heb wneud cais am fisa ac fe gewch gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys twristiaeth, ymweld â theulu a ffrindiau, astudio byrdymor a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â busnes, fel digwyddiadau a chynadleddau. Gellir dod o hyd i’r rhestr lawn o weithgareddau a ganiateir i ymwelwyr ar GOV.UK.

Mae statws dinasyddion Iwerddon yn parhau i gael ei warchod fel rhan o drefniadau’r Ardal Deithio Gyffredin neu’r Common Travel Area arrangements. Felly, does dim angen caniatâd ar ddinasyddion Iwerddon i ddod i’r DU (heblaw am mewn nifer cyfyngedig iawn o amgylchiadau), ac o ganlyniad dydyn nhw ddim yn gymwys i wneud cais o dan y system pwyntiau ymfudo newydd.

Byddwch cystal â nodi bod ‘Dinasyddion yr EU’ y cyfeirir atynt yn y cyfarwyddyd hwn yn cynnwys dinasyddion yr UE, AEE a’r Swistir.

EU Settlement Scheme

Os oeddech yn byw yn y DU cyn Rhagfyr 31, 2020, dylech chi a’ch teulu wneud cais i Gynllun Preswylio’r UE apply to the EU Settlement Scheme er mwyn cael parhau i fyw yn y DU ar ôl Mehefin 30, 2021. Y dyddiad olaf i wneud cais yw Mehefin 30, 2021.

Ymgeisio drwy’r system pwyntiau mewnfudo

Os ydych yn gymwys, dylech ddechrau gwneud eich cais yn GOV.UK. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni’r meini prawf perthnasol ac yn sgorio’r nifer o bwyntiau sydd eu hangen ar gyfer y fisa yr ydych yn ymgeisio amdani. Ceir cyfarwyddyd manwl ar gyfer pob trywydd yn GOV.UK.

Fel rhan o’ch cais, bydd angen i chi wirio eich tystiolaeth adnabod. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud hyn drwy ddefnyddio ffôn clyfar, drwy ap ‘UK Immigration: ID Check’, fel rhan o’r cais ar-lein. Bydd angen i’r sawl na all ddefnyddio ap ‘UK Immigration: ID Check’ fynd i Ganolfan Cais am Fisa (Visa Application Centre). Mae mwy o wybodaeth ar gael ynglŷn â’r broses o wneud cais ar GOV.UK.

Bydd angen i chi dalu ffi i wneud y cais ac, os byddwch yn dod i’r DU am fwy na 6 mis, efallai y bydd angen i chi dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudwr Immigration Health Surcharge, fydd yn eich galluogi chi i gael mynediad at Wasanaeth Iechyd Gwladol y DU (y GIG neu’r NHS).

Mae’r amser prosesu ceisiadau yn amrywio yn ddibynnol ar y fisa yr ydych yn ceisio amdani a’r gwasanaeth sydd ar gael. Rhaid i chi wneud cais a derbyn cadarnhad eich bod wedi bod yn llwyddiannus cyn i chi deithio i’r DU.

Gweithio yn y DU

Fisa Gweithiwr Medrus (Skilled Worker Visa)

I fod yn gymwys i ddilyn trywydd y Gweithiwr Medrus, rhai i chi allu dangos:

  • fod gyda chi gynnig o swydd gan noddwr a drwyddedir gan y Swyddfa Gartref ar y lefel gofynnol
  • y cewch eich talu isafswm trothwy cyflog perthnasol gan eich noddwr (fel arfer £25,600 neu’r gyfradd berthnasol ar gyfer swydd benodol p’un bynnag sydd fwyaf)
  • eich bod yn gallu siarad Saesneg ar lefel canolraddol B1 (ar Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer ieithoedd)

Ymgeisiwch am fisa Gweithiwr Medrus ar GOV.UK.

Gwaith Medrus: Fisa Iechyd a Gofal

Os ydych yn gweithio mewn swydd iechyd cymwys a’ch bod wedi cael cynnig swydd gan y GIG, sector gofal iechyd neu gyflogwyr a sefydliadau sydd yn cynnig gwasanaethau i’r GIG; yn gallu siarad Saesneg a diwallu anghenion taith lwybr Gweithwyr Medrus, gallwch wneud cais i gael y fisa Iechyd a Gofal er mwyn i chithau ddod i’r DU gyda’ch teulu.

Ceir mynediad llwybr cyflym, gyda ffioedd gwneud cais gostyngedig a chymorth un-pwrpas drwy gydol y broses ymgeisio. Os ydych yn gymwys i wneud cais am y Fisa Iechyd a Gofal, fe fyddwch hefyd wedi eich eithrio rhag gorfod talu’r Gordal Iechyd Mewnfudo. Bydd rhaid i weithwyr rheng flaen yn y sector iechyd a gofal nad sy’n gymwys i wneud cais ar gyfer y Fisa Iechyd a Gofal dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo a gallent elwa o gynllun ad-dalu lle cânt eu had-dalu.

Ymgeisiwch am Fisa Iechyd a Gofal ar GOV.UK.

Talent Fyd-eang

Mae’r fisa Talent Fyd-eang (the Global Talent visa) yn caniatáu i’r mwyaf medrus ddod i’r DU heb gynnig o waith. Bydd y fisa hwn ar gael i arweinwyr cydnabyddedig, ac arweinwyr yfory ym meysydd gwyddoniaeth, dyniaethau, peirianneg, y celfyddydau (gan gynnwys ffilm, dylunio ffasiwn a phensaernïaeth) a thechnoleg ddigidol, gyda medrau unigol y bobl yma’n cyfoethogi gwybodaeth, economi a chymdeithas y DU. Bydd prif wyddonwyr ac ymchwilwyr yn elwa o broses cymeradwyo cynt fel rhan o gynllun llwybr cyflym STEM.

Ymgeisiwch am Fisa Talent Fyd-eang ar GOV.UK.

Ffyrdd amgen o gael fisa gwaith a galwedigaethau arbenigol

Mae yna ystod o lwybrau fisa eraill ar gael i allu gweithio yn y DU, fel y fisas Dechrau Busnes a Dyfeisgarwch. Ceir llwybrau fisa hefyd ar gyfer swyddi arbenigol pellach eraill, gan gynnwys gweinidogion crefydd, pobl sy’n gwneud chwaraeon a phobl greadigol.

Astudio yn y DU

Taith Lwybr Myfyriwr

Er mwyn bod yn gymwys i ddilyn taith lwybr myfyriwr, rhai i chi arddangos:

  • eich bod wedi cael cynnig lle ar gwrs gan noddwr Myfyrwyr achrededig sydd wedi ei drwyddedu gan y Swyddfa Gartref
  • eich bod yn gallu siarad, ysgrifennu a deall Saesneg
  • bod gyda chi ddigon o arian i gefnogi eich hun ac i dalu am eich cwrs
  • eich bod yn wirioneddol yn bwriadu astudio yn y DU

Gallwch wneud cais am Fisa Myfyriwr ar GOV.UK.

Mae yna drywydd ar wahân Child Student route ar gyfer myfyrwyr sy’n blant rhwng 4-17 oed sy’n dymuno astudio mewn ysgol annibynnol.

Fisa Ôl-radd (Graduate visa)

Os byddwch wedi cwblhau cwrs gradd yn llwyddiannus ar lefel israddedig neu’n uwch yn y DU, cewch geisio am fisa i Raddedigion i gael aros a gweithio, neu chwilio am waith, am uchafswm cyfnod o 2 flynedd (3 blynedd ar gyfer myfyrwyr PhD) ar ôl i chi orffen eich astudiaethau.

Bydd y fisa i Raddedigion yn agored yn ystod haf 2021 i fyfyrwyr rhyngwladol a gafodd eu noddi gan noddwr Myfyrwyr sy’n drwyddedig gan y Swyddfa Gartref ac sydd ganddi record faith o gydymffurfiaeth gyda gofynion mewnfudo Llywodraeth y DU.

Documents

System Pwyntiau Mewnfudo'r DU: Cyflwyniad ar gyfer dinasyddion yr UE

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

The UK's points-based immigration system: an introduction for EU workers

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

The UK's points-based immigration system: an introduction for EU students

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

System Pwyntiau Mewnfudo’r DU: Gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr o’r UE

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

The UK's points-based immigration system: application guidance

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Medi 2023 + show all updates
  1. Eligibility for the EU Settlement Scheme has changed. Check the EU Settlement Scheme guidance.

  2. The following 4 documents have been updated: An introduction for EU, EEA and Swiss workers; An introduction for EU, EEA and Swiss students; Information for EU, EEA and Swiss visitors; Application guidance.

  3. Updated guide on an introduction for EU citizens and new guidance for au pairs, business travellers, Erasmus students and those looking to come to the UK for an internship and EU EEA and Swiss business travellers.

  4. Updated to reflect the end of the grace period for applying to the EU Settlement Scheme, and the launch of the Graduate visa.

  5. Added translated versions of 'The UK's points-based immigration system: an introduction for EU citizens' and 'The UK's points-based immigration system: information for EU visitors'.

  6. Added link to travel information due to coronavirus.

  7. Updated content and PDF guides to reflect that free movement between the UK and the European Union has ended.

  8. Added translation

  9. Added translation and application guidance.

  10. Added the following documents "The UK's points-based immigration system: an introduction for EU workers" and "The UK's points-based immigration system: an introduction for EU visitors".

  11. Updated to include information about Irish citizens, following changes in Immigration Rules.

  12. Added translation

Print this page