Cosbau o ran dilyn ac olrhain tybaco
Dysgwch am y cosbau y gellir eu codi os na fyddwch yn glynu at y rheolau o ran dilyn ac olrhain tybaco yn y DU.
Mae’n rhaid i chi lynu at y rheolau dilyn ac olrhain ar gyfer cynhyrchion tybaco yn y DU (yn Saesneg) os ydych yn gweithgynhyrchu, mewnforio, cludo, storio, neu werthu cynhyrchion tybaco.
Os na fyddwch yn glynu at y rheolau, gall CThEF gymryd camau.
Os bydd Safonau Masnach yn ymweld â chi
Mae Safonau Masnach yn ymchwilio i fasnachu annheg ac i weithgareddau busnes anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i gynhyrchion tybaco na ddylent fod ar gael i’w gwerthu, a chael gwared arnynt hefyd. Weithiau gelwir y rhain yn gynhyrchion tybaco anghyfreithlon.
Os yw Safonau Masnach o’r farn eich bod wedi torri’r rheolau o ran dilyn ac olrhain tybaco, efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â CThEF.
Bydd CThEF yn penderfynu a yw’r rheolau wedi’u torri, ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Bydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau i’w cymryd.
Os nad ydych yn bodloni gofynion dilyn ac olrhain tybaco
Efallai y bydd methu â bodloni gofynion dilyn ac olrhain tybaco yn arwain at:
- cosb o hyd at £10,000 am fod â chynhyrchion yn eich meddiant nad ydynt yn bodloni’r rheolau
- atafaelu cynhyrchion tybaco ac, o bosibl, eu dinistrio
- dadactifadu’ch ID Gweithredwr Economaidd, naill ai dros dro neu’n barhaol, os byddwch yn torri’r rheolau dro ar ôl tro, gan gyfyngu ar neu ddileu’ch gallu i brynu neu i werthu tybaco yn y DU
Dysgwch ragor ynghylch pryd y gall eich ID Gweithredwr Economaidd gael ei ddadactifadu (yn Saesneg).
Cosbau y gellir eu codi
Bydd swm y gosb ariannol yn dibynnu a yw hon yn drosedd cyntaf neu’n drosedd a ailadroddir. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint o sigaréts neu dybaco rholio â llaw sydd yn eich meddiant ac sy’n torri’r rheolau dilyn ac olrhain tybaco.
Trosedd cyntaf
Gellir codi cosbau ariannol hyd at:
- £2,500, os oes gennych lai na 100 o becynnau
- £5,000, os oes gennych 100 i 299 o becynnau
- £7,500, os oes gennych 300 i 499 o becynnau
- £10,000, os oes gennych 500 o becynnau neu fwy
Ail drosedd
Gellir codi cosbau ariannol hyd at:
- £5,000, os oes gennych lai na 100 o becynnau
- £7,500, os oes gennych 100 i 299 o becynnau
- £10,000, os oes gennych 300 o becynnau neu fwy
Troseddau pellach
Gellir codi cosbau ariannol hyd at:
- £7,500, os oes gennych lai na 100 o becynnau
- £10,000, os oes gennych 100 o becynnau neu fwy
O’r ail drosedd ymlaen, mae’n bosibl y bydd CThEF yn:
- atafaelu unrhyw gynhyrchion tybaco ac, o bosibl, eu dinistrio
- ystyried dadactifadu ID Gweithredwr Economaidd, naill ai dros dro neu’n barhaol
Sut i dalu cosb
Dysgwch sut i dalu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau a roddir gan CThEF.
Sut i apelio yn erbyn penderfyniad gan CThEF
Bydd y llythyr o benderfyniad gan CThEF yn rhoi gwybod i chi am yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad. Dysgwch sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan CThEF.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Gorffennaf 2023 + show all updates
-
Added translation.
-
First published.