Diogelwch trosiannol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo
Cymorth a chefnogaeth ariannol pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol o'ch budd-daliadau neu gredydau treth cyfredol am y tro cyntaf.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Dim ond ar gyfer pobl sydd wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo mae’r canllaw hwn
Darganfyddwch am Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.
I bawb arall ewch i’r canllawiau Credyd Cynhwysol.
Beth yw diogelwch trosiannol
Mae diogelwch trosiannol yn helpu gyda’ch symud i Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn gymwys, mae’r diogelwch hwn yn golygu y gallwch:
-
gael taliad diogelwch trosiannol wedi’i ychwanegu at eich hawl Credyd Cynhwysol os ydych yn derbyn mwy o’ch credydau treth neu fudd-daliadau blaenorol
-
gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a chael arian, cynilion a buddsoddiadau dros £16,000 am 12 cyfnod asesu, os ydych yn cael credydau treth
-
gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a chael arian, cynilion a buddsoddiadau dros £16,000 am 12 cyfnod asesu, os ydych yn cael credydau treth
Darganfyddwch am bobl ar gredydau treth a myfyrwyr sy’n symud i Gredyd Cynhwysol.
Cymhwyster
Nid oes angen i chi wneud cais am ddiogelwch trosiannol.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn anfon llythyr atoch o’r enw Hysbysiad Trosglwyddo yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
I fod yn gymwys i gael diogelwch trosiannol, rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau ar eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.%.
Os na allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau a roddir ar eich llythyr, dylech gysylltu â’r llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.
Dim ond os oes gennych reswm da y gallwn roi mwy o amser i chi wneud cais. Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn cyn y dyddiad cau ar eich llythyr.
Darganfyddwch sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Newidiadau i’ch amgylchiadau cyn i chi wneud cais
Os oes gennych newid mewn amgylchiadau cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, efallai na fydd gennych hawl i ddiogelwch trosiannol.
Darganfyddwch am eich cyfrifoldebau a rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Taliadau diogelwch trosiannol
Mae taliadau diogelwch trosiannol yn swm ychwanegol i’ch helpu gyda’ch symud i Gredyd Cynhwysol. Maent hefyd yn cael eu hadnabod fel yr elfen trosiannol’.
Bydd y taliad yn gwneud i fyny’r gwahaniaeth os yw eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn llai na’ch credydau treth neu fudd-daliadau blaenorol.
Enghraifft
Mae gan Jane hawl i £800 ar ei chredydau treth neu fudd-daliadau presennol.
Ei hawl i Gredyd Cynhwysol yw £600.
Mae hyn yn golygu y bydd swm diogelwch trosiannol Jane yn £200.
Mae cyfanswm ei hawl i Gredyd Cynhwysol nawr yn £800.
Am faint o amser mae taliadau diogelwch trosiannol yn parhau
Nid yw taliadau diogelwch trosiannol yn barhaol. Gallant leihau neu ddod i ben os bydd eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn cynyddu.
Os ydych yn gymwys, bydd eich taliadau diogelwch trosiannol yn parhau nes y bydd:
-
eich hawl i Gredyd Cynhwysol yr un fath neu’n fwy na’ch credydau treth neu fudd-daliadau blaenorol
-
rydych yn cael newid sylweddol mewn amgylchiadau
Newidiadau a all leihau eich taliadau diogelwch trosiannol
Gall eich taliadau diogelwch trosiannol leihau dros amser yn dilyn newid yn eich amgylchiadau. Gall newidiadau gynnwys:
-
cael plentyn
-
dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl
-
cynnydd mewn costau tai (rhent)
-
cyflwr iechyd yn gwaethygu
-
newidiadau i gyfraddau budd-daliadau’r llywodraeth
Mae hyn oherwydd bod y newidiadau hyn yn debygol o gynyddu swm eich Credyd Cynhwysol.
Enghraifft
Taliad Credyd Cynhwysol presennol Jane yw £800, sy’n cynnwys swm diogelwch trosiannol o £200.
Mae Jane yn cael ail blentyn wedi’i ychwanegu at ei chais. Mae hyn yn cynyddu ei swm Credyd Cynhwysol o £50.
Mae hyn yn golygu y bydd swm diogelwch trosiannol Jane yn gostwng £50.
Fodd bynnag, mae cyfanswm ei thaliad Credyd Cynhwysol yn dal yn £800.
Sut mae eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn effeithio ar eich taliadau diogelwch trosiannol
Os bydd eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn cynyddu, bydd eich taliad diogelwch trosiannol yn gostwng yr un swm. Costau gofal plant yw’r unig eithriad.
Gall cynnydd pellach i’ch swm o Gredyd Cynhwysol ddod â’ch taliadau diogelwch trosiannol i ben yn y pen draw. Bydd hyn ond yn digwydd os yw’ch hawl yr un fath neu’n fwy ar Gredyd Cynhwysol.
Newidiadau sy’n dod â diogelwch trosiannol i ben
Bydd newidiadau sylweddol i’ch amgylchiadau yn dod â’ch diogelwch trosiannol i ben. Mae’r canlynol yn cael eu hystyried yn newidiadau sylweddol:
-
partner yn symud i mewn i’ch cartref
-
partner gwahanol yn symud i mewn i’ch cartref
-
partner yn gadael eich cartref
-
mae eich enillion yn gostwng o dan swm y cytunwyd arno am 3 mis yn olynol
-
mae eich cais Credyd Cynhwysol yn dod i ben
Adolygiadau taliadau diogelwch trosiannol
Os ydych yn anghytuno â’ch cyfrifiadau taliadau diogelwch trosiannol, gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o’ch hawl i Gredyd Cynhwysol.
Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol pan fyddwch yn derbyn eich datganiad ar ddiwedd cyfnod asesu.
Ailgyfrifiadau
Bydd eich taliad diogelwch trosiannol ond yn cael ei ailgyfrifo yn dilyn penderfyniad i:
-
dderbyn cais am ailystyriaeth orfodol
-
ôl-ddyddio eich budd-daliadau etifeddol – er enghraifft, o ganlyniad i apêl
-
diweddaru rheoliadau sy’n effeithio ar gyfrifo’r taliad diogelwch trosiannol
Cymorth
Llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 169 0328
Defnyddiwch ein gwasanaeth Relay UK i wneud galwad am ddim, a gefnogir gan destun i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol. Deialwch 18001 ac yna 0800 169 0328.
Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Defnyddiwch ein gwasanaeth ‘video relay’ i wneud galwad wedi’i ddehongli gan BSL i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo.
Os ydych ar gyfrifiadur, ewch i’r gwasanaeth ‘video relay’.
-
dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’
-
dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’.
Os ydych ar ffôn symudol neu dabled, defnyddiwch yr ap InterpretersLive!.
O’r ap:
-
dewiswch ‘Directory’, chwiliwch am ‘Universal Credit’
-
dewiswch ‘Universal Credit - I have a Migration Notice letter’
-
dewiswch ‘Call Now’, dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’
-
dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’
-
dewiswch ‘Connect Now’.
Os ydych angen help, edrychwch ar fideo YouTube.
Help i Hawlio
Gallwch hefyd gael cefnogaeth am ddim gan Wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth.
Cymorth ariannol eraill
Os ydych mewn anawsterau ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth ariannol arall yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Hydref 2024 + show all updates
-
Added how to ask for a review of your transitional protection payment. Added link to new pages: How the transitional element is calculated when you move to Universal Credit, and Money, savings and investments. Added details of the new Migration Notice Helpline video relay service for British Sign Language users.
-
Added: If you cannot claim Universal Credit by the deadline date, you should contact the Universal Credit Migration Notice helpline as soon as possible. We can only give you more time to make a claim if you have a good reason. You must request this before the deadline date on your letter.
-
Added links to: how to apply for Universal Credit and other financial support you could be eligible for if you claim Universal Credit.
-
First published.