Credyd Cynhwysol os ydych yn ‘gwpl oedran cymysg’ ac yn derbyn llythyrau Hysbysiad Trosglwyddo
Os ydych mewn cwpl ble mae un ohonoch o oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac rydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, mae angen i’r ddau ohonoch symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd bydd eich budd-daliadau yn dod i ben yn fuan.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Dylech ond darllen y canllaw hwn os ydych mewn cwpl ble mae un ohonoch o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac rydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo
Os ydych chi mewn cwpl ac mae un person dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, rydych yn cael eich adnabod fel cwpl ‘oedran cymysg’. Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw 66 ar gyfer dynion a merched.
Os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, gallwch wneud cais hyd yn oed os ydych:
-
yn gweithio
-
yn rhan o gwpl oedran cymysg
-
wedi adnewyddu eich credydau treth
-
gydag arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000 (os ydych yn cael credydau treth)
I barhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser ar eich llythyr.
Os nad ydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, ewch i’r canllaw Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, ond nid ydych mewn cwpl oedran cymysg
Mae rheolau ac arweiniad cymhwysedd gwahanol os ydych yn cael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ac rydych:
Budd-daliadau sy’n dod i ben
Mae’r budd-daliadau canlynol yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol:
-
credydau treth: Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant
-
Budd-dal Tai, oni bai am rai amgylchiadau
-
Cymhorthdal Incwm
-
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
-
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
Bydd eich budd-daliadau yn dod i ben hyd yn oed os penderfynwch beidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Pryd fydd angen i chi wneud cais
Er mwyn parhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser.
Os nad ydych yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser, dylech gysylltu â’r llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.
Efallai y byddwch yn gallu cael mwy o amser i chi wneud cais os oes gennych reswm da. Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn cyn y terfyn amser ar eich llythyr.
Diogelwch trosiannol
Gan fod eich budd-daliadau yn dod i ben a bod angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol mae rhai o’r rheolau cymhwysedd arferol ar gyfer gwneud cais yn wahanol. Gelwir hyn yn ‘ddiogelwch trosiannol’.
I gael diogelwch trosiannol rhaid i chi wneud cais erbyn y terfyn amser.
Ni fyddwch yn cael diogelwch trosiannol os ydych yn gwneud cais cyn i chi gael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.
Taliadau ychwanegol diogelwch trosiannol
Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo ar eich budd-daliadau presennol yn fwy nag y byddwch yn ei gael ar Gredyd Cynhwysol, mae ychwanegiad ar gael.
Os oes gennych ddyled o’ch budd-daliadau presennol, bydd hyn yn cael ei adennill pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol a’i ddidynnu o’ch swm o Gredyd Cynhwysol. Gweler beth fyddwch yn ei gael am fwy am ddidyniadau.
Nid oes angen i chi wneud cais am ddiogelwch trosiannol. Bydd yn cael ei dalu i chi yn awtomatig os ydych yn cael Hysbysiad Trosglwyddo ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser.
Os ydych yn cael credydau treth
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau dros £16,000 am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).
Ar ôl hyn, ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych dal fwy na £16,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau.
Os ydych yn gwneud cais ar ôl y terfyn amser a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Newid mewn amgylchiadau
Os oes gennych newid mewn amgylchiadau, fel gwahanu oddi wrth eich partner, efallai na fyddwch yn gymwys i gael diogelwch trosiannol. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ar ôl i chi wneud eich cais, gall unrhyw ddiogelwch trosiannol a gewch ddod i ben.
Os oes gennych gynnydd dros dro mewn enillion, gallai hyn ddod â’ch hawl i Gredyd Cynhwysol i ben. Os bydd eich enillion yn lleihau eto o fewn y 3 mis nesaf, ac nad oes unrhyw amgylchiadau eraill yn newid, gallwch ail hawlio Credyd Cynhwysol eto. Yna bydd eich diogelwch trosiannol yn cael ei adfer.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Tai
Bydd Budd-dal Tai yn dod i ben, ac eithrio yn yr amgylchiadau canlynol:
-
rydych mewn llety â chymorth neu lety dros dro – bydd eich Budd-dal Tai yn parhau ac ni fydd yn dod i ben
-
rydych wedi cael Budd-dal Tai fel cwpwl oedran cymysg ers 14 Mai 2019 – gallech fod yn gymwys i’w ail hawlio
Rydych mewn llety â chymorth neu lety dros dro
Os ydych yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, bydd eich Budd-dal Tai yn parhau i gael ei dalu gan eich cyngor lleol.
Os penderfynwch beidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai. Fodd bynnag, bydd eich budd-daliadau neu gredydau treth eraill yn dod i ben.
Gan eich bod yn cael Budd-dal Tai, ni allwch gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai.
Os ydych yn cael Budd-dal Tai ac nad ydych yn siŵr a ydych yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, siaradwch gyda eich cyngor lleol.
Rydych wedi cael Budd-dal Tai fel cwpwl oedran cymysg ers 14 Mai 2019
Bydd eich Budd-dal Tai yn dod i ben 2 wythnos ar ôl eich dyddiad terfyn amser.
Fodd bynnag, gallech fod yn gymwys i ail hawlio Budd-dal Tai os ydych wedi ei dderbyn fel cwpwl oedran cymysg yn barhaus ers 14 Mai 2019 os:
-
rydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
-
nid ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu nid oes gennych hawl iddo
Rydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gallwch ail hawlio Budd-dal Tai os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser, yn derbyn Credyd Cynhwysol, yna yn rhoi’r gorau i hawlio. Mae’n rhaid i chi ail hawlio Budd-dal Tai yn ôl o fewn 3 mis i’ch Credyd Cynhwysol ddod i ben.
Nid ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu nid oes gennych hawl iddo
Gallwch ail hawlio Budd-dal Tai os nad ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, neu os ydych yn gwneud cais cyn eich terfyn amser ond nad oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol. Mae’n rhaid i chi ail hawlio Budd-dal Tai o fewn 3 mis ar ôl i’ch Budd-dal Tai blaenorol ddod i ben.
Gallwch gael cyngor gan eich cyngor lleol am ôl-ddyddio eich cais am Fudd-dal Tai.
Darganfyddwch fwy am Gymhwyster am Fudd-dal Tai.
Os nad ydych yn gwneud cais am Fudd-dal Tai, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth tai i’w ychwanegu at eich Credyd Cynhwysol.
Beth fyddwch chi’n ei gael
Ar Gredyd Cynhwysol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl hawl i’r un swm a gawsant o’u budd-daliadau blaenorol, neu fwy. Os bydd eich amgylchiadau’n newid cyn i chi wneud eich cais, gallai hyn effeithio ar y swm a gewch.
Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi, er enghraifft os:
-
mae gennych blant
-
mae gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio
-
rydych angen help i dalu eich rhent
Darganfyddwch fwy am beth fyddwch chi’n ei gael.
Cyfrifianellau budd-daliadau
Gallwch ddefnyddio gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol am ddim a dienw i amcangyfrif faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael.
Mae cyfrifianellau budd-daliadau yn rhoi amcangyfrifon, felly efallai na fyddant yn gywir.
Mae cyfrifianellau entitledto a Policy in Practice Better Off yn:
-
cyfrifo diogelwch trosiannol (taliadau atodol) sydd ar gael
-
cymryd i ystyriaeth os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth
-
gallu cael eu defnyddio os ydych yn derbyn credydau treth a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o £16,000 neu fwy
Nid yw cyfrifiadau yn cynnwys unrhyw ddidyniadau y gellir eu cymryd o’ch swm Credyd Cynhwysol.
Nid yw DWP yn gyfrifol am wybodaeth a roddir gan y cyfrifianellau
Sut mae eich Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo
Cyfrifir Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn ‘gyfnodau asesu’. Mae hyn yn wahanol i gredydau treth oedd yn cael eu cyfrifo’n flynyddol.
Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar amgylchiadau eich partner, yn ogystal â’ch amgylchiadau chi.
Enillion
Bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar eich enillion. Mae hyn yn cynnwys incwm o
-
waith llawn amser
-
gwaith rhan amser
-
gwaith cyflogedig neu hunangyflogedig
Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu cyfan - nid o’r dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt.
Darganfyddwch sut mae eich cyflog yn effeithio eich taliadau.
Didyniadau
Gellir cymryd arian o’ch taliadau Credyd Cynhwysol i dalu am bethau fel:
-
dirwyon llys
-
ôl-ddyledion rhent
-
gordaliadau neu ôl-ddyledion o gredydau treth, Treth Cyngor, Budd-dal Tai, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
-
dyledion cyfleustodau, fel trydan, nwy, dŵr
Ni ellir didynnu arian o bethau fel eich lwfans plant, gofal plant a chostau tai.
Darganfyddwch fwy am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn hawlio pensiwn
Gallwch barhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn eich pensiwn. Fodd bynnag, bydd swm y pensiwn a gewch yn cael ei ddidynnu o’ch swm Credyd Cynhwysol a’i drin fel incwm.
Os ydych wedi oedi (‘gohirio’) eich Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych wedi oedi cymryd eich pensiwn cyn i chi dderbyn eich Hysbysiad Trosglwyddo, ni fyddwn yn trin eich pensiwn gohiriedig fel incwm am 12 cyfnod asesu.
Os byddwch wedyn yn penderfynu cymryd eich pensiwn o fewn y cyfnod hwn, caiff ei drin fel incwm.
Ar ôl 12 cyfnod asesu, mae swm y pensiwn y mae gennych hawl iddo yn cael ei gyfrif fel incwm, hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â’i gymryd. Gelwir hyn yn incwm ‘tybiannol’. Gall hyn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.
Unwaith y byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol, ni fyddwch yn gallu parhau i gronni unrhyw:
-
Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol
-
cyfandaliad Pensiwn y Wladwriaeth (os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016)
Darllenwch fwy am oedi eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Nodiadau ffitrwydd ac Asesiadau Gallu i Weithio (WCA)
Os ydych wedi bod yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Os ydych wedi bod yn derbyn ESA, ni fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol fel nodiadau ffitrwydd, neu gael Asesiad Gallu i Weithio (WCA) os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
-
rydych yn symud o ESA i Gredyd Cynhwysol heb doriad
-
rydych eisoes wedi cwblhau WCA
-
roeddech ‘grŵp cymorth’ neu ‘weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ yn ESA pan wnaethoch eich cais am Gredyd Cynhwysol
Efallai y bydd angen i chi gael asesiad arall os yw eich WCA yn i gael ei adolygu neu os bydd eich cyflwr yn newid.
Os oeddech yn darparu tystiolaeth feddygol ar ESA cyn i chi symud, bydd dal angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol ar Gredyd Cynhwysol nes i chi gael penderfyniad WCA.
Os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych gyflwr iechyd neu anabledd
Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n golygu eich bod yn cael budd-dal anabledd, efallai y bydd gennych hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol. Ni fydd angen i chi ddarparu nodyn ffitrwydd na chael WCA.
Os nad ydych yn cael budd-dal anabledd, bydd angen i chi ddarparu nodyn ffitrwydd neu fod â WCA i fod â hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am gyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol.
Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch hefyd wneud cais yn y Gymraeg.
Mae angen i chi greu cyfrif i wneud cais. Mae’n rhaid i chi gwblhau eich cais o fewn 28 diwrnod o greu eich cyfrif neu bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.
Pan fyddwch chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich budd-daliadau presennol sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol yn dod i ben. Ni allwch fynd yn ôl i’r budd-daliadau hynny, oherwydd eu bod yn dod i ben.
Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch linell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol.
Cyplau sy’n byw gyda’i gilydd
Mae Credyd Cynhwysol yn cyfrif 2 berson fel cwpl os ydynt yn byw yn yr un cartref ac yn:
-
briod â’i gilydd
-
partneriaid sifil i’w gilydd
-
byw gyda’i gilydd fel pe baent yn briod
Os ydych yn byw gyda’ch partner mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun.
Mae’n rhaid i’r ddau ohonoch greu cyfrifon Credyd Cynhwysol ar-lein. Bydd y person cyntaf i greu eu cyfrif yn derbyn cod cysylltu partner. Mae angen i chi roi’r cod hwn i’ch partner ei ddefnyddio wrth greu eu cyfrif ar-lein. Mae hyn yn cysylltu’r cyfrifon gyda’i gilydd i wneud eich cyfrif yn un ar y cyd.
Ar ôl i chi greu eich cyfrif, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Cyplau sy’n byw ar wahân
Os ydych mewn cwpl sy’n byw ar wahân ac mae’r ddau ohonoch yn cael Hysbysiadau Trosglwyddo, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud ceisiadau sengl ar wahân.
Oherwydd eich bod wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, bydd gennych ddal hawl i’r gwahanol reolau cymhwysedd:
-
gallwch wneud cais os ydych yn fyfyriwr llawn amser
-
os ydych yn cael credydau treth gallwch wneud cais os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000
Ni fyddwch yn gymwys i gael y taliad atodol diogelwch trosiannol.
Penodai
Os oes gennych benodai sy’n gyfrifol am wneud a chynnal eich ceisiadau budd-dal, bydd eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn cael ei anfon yn uniongyrchol iddynt hwy. Bydd angen iddynt wneud y cais Credyd Cynhwysol ar eich rhan.
Beth fyddwch ei angen i wneud cais
I wneud cais ar-lein, byddwch angen:
-
manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
-
cyfeiriad e-bost
-
mynediad i ffôn
I brofi pwy ydych chi, byddwch angen rhai dogfennau fel eich:
-
trwydded yrru
-
pasbort
-
cerdyn debyd neu gredyd
-
slip cyflog neu P60
I gwblhau eich cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am:
-
eich tai, er enghraifft faint o rent rydych yn ei dalu
-
eich enillion, er enghraifft slipiau cyflog
-
unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gwaith
-
faint rydych yn ei dalu am ofal plant os ydych eisiau help gyda chostau gofal plant
-
eich cynilion ac unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu allan
Efallai y byddwch angen apwyntiad gyda’r tîm Credyd Cynhwysol os:
-
maent angen mwy o wybodaeth
-
ni allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein
Byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan gwaith neu dros y ffôn.
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein
Camau i gael Credyd Cynhwysol
-
Mae un ohonoch yn sefydlu cyfrif Credyd Cynhwysol Ar-lein. Gwnewch nodyn o’ch ‘cod partner’. Bydd angen i chi roi hwn i’ch partner.
-
Bydd angen i’r partner arall sefydlu eu cyfrif ar-lein a defnyddio’r cod partner hwnnw i gysylltu’r cyfrifon gyda’i gilydd. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn hawlio’n gywir fel cwpl.
-
Ar ôl i’r ddau ohonoch greu eich cyfrifon, gallwch gwblhau a chyflwyno eich ceisiadau ar-lein.
-
Profwch eich hunaniaeth.
-
Darparwch ddogfennau a thystiolaeth i gefnogi’ch cais.
-
Cytunwch ar y gweithgareddau ym mhob un o eich ymrwymiadau hawlydd.
Pan fyddwch yn profi pwy ydych byddwn yn gwybod eich bod wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo a bydd eich gwybodaeth yn cael ei chysylltu’n awtomatig.
Os ydych angen help i wneud cais, gallwch gael cymorth am ddim gan wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:
Sut rydych yn cael eich talu
Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu unwaith y mis, fel arfer i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch y llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.
Gall eich taliad gynnwys swm ar gyfer costau tai, y bydd angen i chi ei dalu i’ch landlord fel arfer. Os oedd costau tai yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch landlord, bydd angen i chi drafod y newid trefniadau talu gyda nhw.
Taliadau terfynol ar gyfer budd-daliadau presennol
Mae dyddiad eich taliadau terfynol o’ch budd-daliadau presennol yn dibynnu ar ba un bynnag sydd gyntaf:
-
y terfyn amser ar eich llythyr
-
pa bryd y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Os oes unrhyw daliadau pellach yn ddyledus, byddant yn cael eu gwneud yn fuan ar ôl i’ch hawl ddod i ben.
Symud o gredydau treth
Os ydych yn hawlio credydau treth, bydd eich hawl yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os na fyddwch yn gwneud cais erbyn y terfyn amser, bydd eich hawl i Gredyd Treth yn dod i ben ar y diwrnod cyn y terfyn amser.
Symud o fudd-daliadau eraill
Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol wedi’i dalu am 2 wythnos arall. Mae’n rhaid i chi ddal i fod yn gymwys am eich budd-dal presennol. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r taliadau ychwanegol hyn ac ni fyddant yn effeithio ar y Credyd Cynhwysol y gallech ei gael.
Mae hyn ond yn berthnasol os ydych yn cael:
-
Budd-dal Tai
-
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
-
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
-
Cymhorthdal Incwm
Os na fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser, eich diwrnod olaf o hawl i’ch budd-daliadau presennol fydd 2 wythnos ar ôl y terfyn amser.
Os ydych yn derbyn credydau treth ac unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, bydd eich credydau treth yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais, neu’r diwrnod cyn eich dyddiad terfyn amser (pa bynnag un sydd gyntaf). Bydd eich budd-daliadau eraill yn parhau am 2 wythnos.
Help wrth aros am eich taliad cyntaf
Mae eich cais yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno yn eich cyfrif, ond fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.
Os ydych angen help gyda’ch costau byw wrth i chi aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o fewn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Bydd angen i chi ad-dalu eich taliadau ymlaen llaw mewn rhandaliadau o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy am sut rydych yn cael eich talu gan gynnwys dyddiadau talu, os ydych yn byw gyda phartner, a threfniadau talu amgen.
Eich cyfrifoldebau
Bydd eich cyfrifoldebau’n dibynnu ar eich amgylchiadau.
Pan fyddwch wedi gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi reoli eich cyllid eich hun a chynnal eich cais ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:
-
diweddaru eich cyfrif
-
mynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith, os yw’n briodol
-
rheoli eich rhent eich hun a chostau tai eraill, oni bai bod gennych drefniant talu arall mewn lle
-
rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau
-
os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi roi gwybod am eich enillion bob mis
I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’. Darganfyddwch fwy am ymrwymiadau hawlydd.
Newidiadau mewn amgylchiadau mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir bob mis.
Gallai newidiadau gynnwys:
-
newid eich manylion banc
-
newidiadau i waith ac arian, fel enillion, incwm o bensiwn, swyddi, rhent a chynilion
-
newid i’ch iechyd
-
newidiadau i’ch cartref, gan gynnwys plant, gofal, partner a statws mewnfudo
Darganfyddwch fwy am newidiadau mewn amgylchiadau y mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt.
Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn hytrach na Chredyd Cynhwysol
Gallech ddewis gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn lle Credyd Cynhwysol os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai fel cwpl oedran cymysg yn barhaus ers 14 Mai 2019.
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn lle hynny, ni fyddwch yn cael diogelwch trosiannol Credyd Pensiwn na Chredyd Cynhwysol. Gallai hyn olygu eich bod yn derbyn llai o gymorth ariannol.
Os byddwch wedyn yn penderfynu tynnu’ch cais am Gredyd Pensiwn yn ôl a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn eich terfyn amser, byddwch yn dal yn gymwys i gael diogelwch trosiannol os ydych yn gymwys.
Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn.
Cymorth
Llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Ffôn: 0800 169 0328
Mae rhifau ffôn 0800 yn rhad ac am ddim i’w ffonio o ffonau symudol a llinellau daear.
Os na allwch siarad neu glywed dros y ffôn
Defnyddiwch ein gwasanaeth Relay UK i wneud galwad am ddim, a gefnogir gan destun i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol. Deialwch 18001 ac yna 0800 169 0328.
Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Defnyddiwch ein gwasanaeth ‘video relay’ i wneud galwad wedi’i ddehongli gan BSL i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo.
Os ydych ar gyfrifiadur, ewch i’r gwasanaeth ‘video relay’.
-
dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’
-
dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’.
Os ydych ar ffôn symudol neu dabled, defnyddiwch yr ap InterpretersLive!.
O’r ap:
-
dewiswch ‘Directory’, chwiliwch am ‘Universal Credit’
-
dewiswch ‘Universal Credit - I have a Migration Notice letter’
-
dewiswch ‘Call Now’, dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’
-
dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’
-
dewiswch ‘Connect Now’.
Os ydych angen help, edrychwch ar fideo YouTube.
Help a chymorth ariannol arall
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth allwch chi ei gael.
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gwahanol yn yr Alban.
Os ydych mewn anawsterau ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 29 Awst 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Hydref 2024 + show all updates
-
If you live in supported or temporary accommodation, your Housing Benefit will continue to be paid by your local council, even if you decide not to claim Universal Credit. Added link to new Migration Notice Helpline video relay service. Added information about appointees in the 'How to claim Universal Credit' section. Added 'If you live in Wales, you can also claim in Welsh'.
-
Added link to new guidance on how money, savings and investments affect Universal Credit.
-
Added guidance on how to claim and what transitional protection you're eligible for, if you're in a couple who live apart and you both get Migration Notice letters.
-
Content added to confirm you do not need to provide fit notes if you're moving from ESA without a break and meet the listed criteria. Content added to confirm that if you're state pension age and get a disability benefit, you will not need to provide a fit note or have a Work Capability Assessment (WCA) when you move to Universal Credit.
-
First published.