Canllawiau

Defnyddio atwrneiaeth arhosol y rhoddwr: codau mynediad a Gweld Atwrneiaeth Arhosol

Gallwch ganiatáu i gwmnïau weld fersiwn ar-lein o’r LPA, yn lle’r fersiwn bapur. Darllenwch ymlaen i gael gwybod sut i wneud hyn.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Fel atwrnai, efallai y bydd angen i chi wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr sydd wedi eich penodi, gan ddefnyddio’r atwrneiaeth arhosol (LPA) a grëwyd ganddynt.

Mae’r canllawiau hyn yn dweud wrthych sut i ddefnyddio’r LPA, drwy greu codau mynediad a chysylltu â chwmnïau a sefydliadau i ddangos yr LPA iddynt. Efallai y byddai’n werth gwirio’r wybodaeth a anfonwyd atoch pan gofrestrwyd yr LPA.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy ynglŷn â sut i fod yn atwrnai; helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau, asesu ei alluedd meddyliol a gwneud penderfyniadau ar ei ran.

Beth yw cod mynediad?

Gellir rhoi cod mynediad i unrhyw gwmni sydd angen gweld LPA y rhoddwr, yn lle dangos y fersiwn bapur gofrestredig iddynt. Gallwch greu’r rhain ar y gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Pan gofrestrwyd yr LPA, roedd y llythyr a gawsoch yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i greu cyfrif ar y gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol.

Mae cod mynediad yn cynnwys 13 nod ac mae’n dechrau â’r llythyren V. Gall cwmni ei ddefnyddio ar y gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol. Mae’r gwasanaeth yn caniatáu iddynt ddod o hyd i LPA y rhoddwr, a gwirio bod eich enw arni ac y gallwch ei defnyddio. Gelwir y broses hon yn gwirio.

Cyn rhoi’r cod mynediad i’r cwmni, gwiriwch mai hon yw’r LPA gywir ar gyfer yr hyn y bwriedwch ei wneud. Mae 2 fath o LPA, un ar gyfer iechyd a lles ac un ar gyfer eiddo a materion ariannol. Bydd y 2 fath o LPA yn caniatáu i chi wneud mathau penodol o benderfyniadau, a bydd rhoi cod ar gyfer y math anghywir i’r cwmni yn golygu na fyddwch yn gallu gweithredu. Er enghraifft, os yw’r cod ar gyfer LPA iechyd a lles, ond eich bod yn bwriadu talu bil, ni fyddwch yn gallu gwneud hynny.

Pan fyddwch wedi rhoi’r cod mynediad i’r cwmni, bydd y cwmni’n defnyddio Gweld Atwrneiaeth Arhosol i wirio rhai o’r canlynol neu bob un ohonynt:

  • Bod manylion y rhoddwr ar yr LPA yn cyfateb i’r manylion sydd ganddynt. Er enghraifft, ei enw, cyfeiriad a dyddiad geni.
  • Eich bod yn atwrnai ar yr LPA. Efallai y bydd arnynt eisiau gweld eich dogfennau adnabod hefyd.
  • Sut y gellir gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio’r LPA (os oes mwy nag un atwrnai).
  • Dewis y rhoddwr ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd, os yw’r LPA ar gyfer iechyd a lles
  • Unrhyw gyfarwyddiadau a dewisiadau a ysgrifennwyd gan y rhoddwr. Os oes rhai, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod a fyddant yn effeithio ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud gyda’r LPA
  • A yw’r LPA dal yn ddilys a chofrestredig

Os yw’r cwmni’n fodlon â’r wybodaeth hon bydd yn caniatáu i chi wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr, er enghraifft rhoi mynediad i’w gyfrifon.

Pam defnyddio codau mynediad?

Mae gan bob LPA sydd wedi’i chofrestru yn y DU ar hyn o bryd fersiwn bapur. Er mwyn defnyddio’r LPA bapur gofrestredig, rhaid i chi naill ai ddod â hi i gangen neu ei phostio i gwmni i gael ei gwirio.

Bydd creu cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn caniatáu i chi greu cod mynediad unigol ar gyfer pob cwmni y mae angen iddo weld yr LPA. 

Gellir gwirio – a defnyddio – yr LPA yn gyflymach

Mae’r crynodeb ar-lein yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gwirio yr LPA a’ch gwirio chi, ar un dudalen. Ar y fersiwn bapur, mae’r wybodaeth hanfodol i’w gweld ar dudalennau gwahanol ym mhob rhan o’r ddogfen.

Efallai y bydd rhai cwmnïau yn gofyn i chi bostio’r LPA bapur gofrestredig iddynt. Gallai diwrnodau neu wythnosau fynd heibio cyn i chi ei chael yn ôl. Ni fyddech yn gallu ei defnyddio yn y cyfamser, ond byddai cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn caniatáu i chi greu codau mynediad ar gyfer unrhyw gwmnïau y byddai angen iddynt ei gweld.

Mae’r wybodaeth yn fwy cyfredol

Yr unig wybodaeth y gall yr LPA bapur ei dangos yw’r wybodaeth a oedd arni pan gafodd ei chofrestru, tra bydd Gweld Atwrneiaeth Arhosol bob amser yn dangos y wybodaeth fwyaf cyfredol. Mae hyn yn rhoi mwy o amddiffyniad i’r rhoddwr, gan wneud yn siŵr bod yr LPA yn cael ei defnyddio yn union fel y mae arnynt eisiau iddi gael ei defnyddio. Er enghraifft, efallai na fydd atwrnai yn gwneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr mwyach, neu efallai y bydd atwrnai newydd wedi dechrau gweithredu ar ei ran. Gallai’r naill neu’r llall o’r newidiadau hyn effeithio ar atwrneiod eraill ar yr LPA.

Gallai atwrnai fod wedi newid ei enw neu ei gyfeiriad - gwybodaeth a ddefnyddir i wirio pwy ydyw. Os yw wedi rhoi gwybod i ni yn barod, bydd Gweld Atwrneiaeth Arhosol yn dangos y manylion newydd, ond ni ellir newid yr LPA bapur.

Dylech chi a’r rhoddwr roi gwybod i bob un o’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn os bydd eich manylion personol neu eich amgylchiadau’n newid.

Gall mwy nag un unigolyn ddefnyddio’r LPA yr un pryd

Nid oes ond un copi o’r LPA bapur gofrestredig, ond efallai nad chi fydd yr unig atwrnai ar yr LPA. Pe bai angen i chi neu atwrnai arall weithredu ar ran y rhoddwr, ond nad yw’r LPA bapur gofrestredig gennych (neu gopi ardystiedig ohoni), ni fyddech yn gallu gwneud hynny’n gyfreithlon.

Er hyn, gall pob atwrnai ar LPA, a’r rhoddwr, greu codau mynediad ar gyfer y cwmnïau y mae angen iddynt ymdrin â hwy.

Eich cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol

Gallwch greu cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost.

Pan gofrestrwyd yr LPA anfonwyd llythyr atoch i gadarnhau hyn, a oedd yn cynnwys allwedd cadarnhau cyfrif. Bydd yr allwedd cadarnhau cyfrif hwn yn caniatáu i chi ychwanegu’r LPA at eich cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Mae’n ddilys am 12 mis o’r adeg cofrestru.

Os cofrestrwyd yr LPA dros 12 mis yn ôl, neu os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r llythyr, mae’n dal yn bosibl i chi greu cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol, yna gofyn am allwedd cadarnhau cyfrif drwy’r cyfrif hwnnw.

Creu eich cyfrif LPA

  1. Ewch i www.gov.uk/defnyddio-atwrneiaeth-arhosol
  2. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost i greu cyfrif. Ni allwch ddefnyddio cyfeiriad e-bost sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol rhywun arall
  3. Defnyddiwch eich allwedd cadarnhau cyfrif i ychwanegu’r LPA. Dim ond er mwyn ychwanegu’r LPA hon at y cyfrif y gallwch ddefnyddio’r allwedd cadarnhau cyfrif hwn.

Gallwch ailadrodd cam 3 ar gyfer pob LPA rydych yn atwrnai neu’n rhoddwr arni. Y cyfan y mae arnoch ei angen yw allwedd cadarnhau cyfrif dilys ar gyfer pob un.

Os cafodd LPA ei chofrestru cyn 1 Ionawr 2016, ni fydd ganddi rif LPA 12 digid ac ni ellir ei hychwanegu ar Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Bydd yn rhaid i chi ddangos y fersiwn bapur gofrestredig i gwmnïau.

Creu codau mynediad

Pan fydd yr LPA wedi ei hychwanegu at eich cyfrif, gallwch ddechrau creu codau mynediad i’w rhoi i gwmnïau a sefydliadau unigol.

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif
  2. Cliciwch ar ‘Caniatáu mynediad i sefydliad.’. Bydd hyn yn creu cod 12 nod sy’n dechrau â V. Mae’r cod yn ddilys am 30 diwrnod o’r dyddiad rydych yn ei greu
  3. Rhowch y cod i’r sefydliad lle mae angen i chi ddefnyddio’r LPA. Dylech ddod â dogfennau adnabod gyda chi, oherwydd mae’n bosibl y bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi.

Yn ogystal â rhoi cod mynediad i gwmni yn bersonol, gallwch ei rannu ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post. Dylai’r cwmni rydych yn ei roi iddo adael i chi wybod beth yw’r ffordd orau o gadarnhau pwy ydych chi.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mai 2024

Print this page