Treth cerbyd ar gyfer cerbydau trydan, di-allyriadau neu allyriadau isel
Sut bydd y newidiadau treth cerbyd (VED) o 1 Ebrill 2025 yn effeithio ar eich cerbyd.
O 1 Ebrill 2025, bydd angen i geidwaid cofrestredig ceir, faniau a beiciau modur trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel dalu treth cerbyd yn yr un ffordd ag y mae ceidwaid cofrestredig cerbydau petrol a diesel yn ei wneud. Bydd y newid hwn yn berthnasol i gerbydau newydd a’r rhai sydd eisoes yn bodoli.
Mae’r mesur newydd hwn yn dileu band A o dan y system VED presennol sydd ar hyn o bryd yn £0. Bydd yn ofynnol i gerbydau yn y band hwn symud i’r band cyntaf lle mae cyfradd yn daladwy.
Sut bydd y newidiadau yn effeithio ar eich cerbyd
Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025
Bydd angen ichi dalu’r gyfradd blwyddyn gyntaf isaf o dreth cerbyd wedi’i gosod ar £10 o 1 Ebrill 2025. O’r ail daliad treth ymlaen, byddwch yn talu’r gyfradd safonol. Bydd hon yn £195.
Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Ebrill 2017 ac 31 Mawrth 2025
Byddwch yn talu’r gyfradd safonol. Bydd hon yn £195.
Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 ac 31 Mawrth 2017
Bydd y cerbydau hyn yn symud i’r band cyntaf sydd â gwerth VED. Bydd hon yn £20.
Cerbydau hybrid a cherbydau a daniwyd mewn ffordd amgen (AFVs)
Bydd y gostyngiad blynyddol o £10 ar gyfer cerbydau hybrid ac AFVs yn cael ei ddileu, a bydd y gyfradd y byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar bryd y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf. Os cofrestrwyd y cerbyd:
-
cyn 1 Ebrill 2017 - bydd y gyfradd hon yn dibynnu ar allyriadau CO2 y cerbyd (gwiriwch y cyfraddau presennol ar gyfer y cerbyd hwn)
-
ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 - byddwch yn talu’r gyfradd safonol (bydd hon yn £195)
Faniau trydan
Bydd y rhan fwyaf o faniau trydan yn symud i’r gyfradd flynyddol safonol ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn. Gwiriwch y cyfraddau presennol ar gyfer y cerbydau hyn.
Beiciau modur trydan
Bydd beiciau modur trydan a beiciau tair olwyn trydan yn symud i’r gyfradd flynyddol ar gyfer maint lleiaf yr injan. Gwiriwch y cyfraddau presennol ar gyfer y cerbydau hyn.
Cyfradd ychwanegol (atodiad ceir drud)
Bydd cerbydau trydan a di-allyriadau newydd a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025 gyda phris catalog sy’n fwy na £40,000 yn dwyn y gyfradd safonol, ynghyd â’r atodiad ceir drud am y 5 mlynedd gyntaf o ddechrau’r ail drwydded.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 9 Ebrill 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Updated vehicle tax information for electric, zero or low emission vehicles
-
The page has been updated to improve legibility following user feedback.
-
Added translation