Beth i'w ddisgwyl wrth ymuno â gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo
Gwybodaeth am sut y dylech chi baratoi ar gyfer gwrandawiad llys neu dribiwnlys dros y ffôn neu drwy fideo a beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod.
Dylai cyfranogwyr proffesiynol hefyd ddarllen ein canllawiau ar ymuno â gwrandawiad troseddol drwy fideo fel gweithiwr proffesiynol.
Gall barnwr benderfynu i gynnal eich gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo, yn seiliedig ar reolau perthnasol yn y maes hwnnw o’r gyfraith. Os ydych yn cymryd rhan mewn gwrandawiad, bydd y llys neu dribiwnlys yn dweud wrthych os cynhelir y gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo ac yn esbonio sut i ymuno.
Os ydych eisiau arsylwi gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo, cysylltwch â’r llys ymlaen llaw.
Gwrandawiadau dros y ffôn
Byddwn yn eich ffonio ar adeg y gwrandawiad ac efallai y byddwn yn defnyddio rhif anhysbys. Os ydych chi’n defnyddio gwasanaethau gwahardd galwadau, trowch nhw i ffwrdd er mwyn inni allu cysylltu â chi.
Pan fyddwn yn eich ffonio, byddwch yn clywed neges yn dweud eich bod wedi’ch gwahodd i ymuno â chynhadledd ffôn.
I ymuno â’r gwrandawiad:
- pwyswch y botwm ✱ (seren) a’r rhif 1 i ymuno
- dywedwch eich enw
- pwyswch y botwm # (hash)
- unwaith y byddwch chi yn y gwrandawiad, arhoswch yn dawel nes y gofynnir i chi siarad - pwyswch ✱6 fel eich bod yn fud i’r gwrandawiad a’i bwyso eto pan fydd gofyn ichi siarad
Ar ddechrau’r gwrandawiad, bydd y barnwr neu’r ynad yn cyflwyno’i hun ac yn egluro sut y bydd y gwrandawiad yn gweithio a beth fydd arnoch angen ei wneud.
Efallai bydd arnoch angen cael mynediad at gyfrifiadur neu ddyfais tabled (fel iPad) i allu cael dogfennau ychwanegol ar y diwrnod.
Os cewch unrhyw broblemau gyda chael dogfennau neu gymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ffôn, rhowch wybod i’r llys neu’r tribiwnlys cyn gynted â phosib.
Gwrandawiadau fideo
Os cynhelir eich gwrandawiad drwy gyswllt fideo, bydd y llys neu’r tribiwnlys yn eich hysbysu am ba blatfform fydd yn cael ei ddefnyddio. Pan fyddwch yn gwybod hynny, dilynwch y ddolen briodol i gael canllawiau ar sut i ymuno â’r gwrandawiad fideo a phrofi eich offer:
Cyn y gwrandawiad rhaid i chi:
- wirio fod gennych y porwr rhyngrwyd neu’r ap iawn ar eich dyfais
- darllen y canllawiau ar sut i ymuno â’r gwrandawiad
- profi eich offer gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau ar brofi platfform, fel eich bod chi’n gwybod ei fod yn gweithio - os nad ydych chi wedi gwneud hyn fe allai beri oedi neu darfu ar y gwrandawiad
- dweud wrthym ar unwaith os cewch unrhyw broblemau wrth ymuno â’r platfform neu wrth brofi eich offer, gan ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt yn yr wybodaeth a anfonwyd atoch
Bydd y llys neu’r tribiwnlys yn ystyried eich anghenion ac yn gwneud popeth posibl i sicrhau y byddwch chi’n gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad. Gallai hyn olygu eich bod chi’n ymuno mewn ffordd wahanol.
Cyn eich gwrandawiad
Dylech ddweud wrth y llys neu’r tribiwnlys pa rif ffôn neu gyfeiriad e-bost y dylid ei ddefnyddio i gysylltu â chi ar gyfer y gwrandawiad.
Dylech hefyd ofyn i’r llys am unrhyw drefniadau neu fesurau arbennig a fyddai’n eich helpu i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus i gymryd rhan yn y gwrandawiad. Gall hyn gynnwys mesurau i sicrhau na allwch gael eich gweld gan unigolyn arall sy’n ymwneud â’r achos. Bydd y llys yn ceisio darparu’r hyn y byddwch yn gofyn amdano, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y llys neu’r tribiwnlys yn yr wybodaeth y maent wedi ei hanfon atoch, neu drwy chwilio ar-lein.
Cael cymorth cyfreithiol
Cewch wybodaeth yma ynghylch beth yw eich opsiynau cyfreithiol cyn eich gwrandawiad. Gallwch hefyd wirio a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol neu gael gwybodaeth am gymorth cyfreithiol fforddiadwy.
Os ydych chi’n cymryd rhan mewn gwrandawiad gyda chynrychiolydd cyfreithiol, trefnwch sut y byddwch chi’n cyfathrebu’n gyfrinachol yn ystod y gwrandawiad.
Tystion
Os ydych chi’n dyst dros yr erlyniad mewn achos troseddol, trafodwch unrhyw gefnogaeth y gallwch fod ei hangen arnoch gyda’ch swyddog gofal tyst.
Os ydych chi’n dyst dros yr amddiffyniad mewn achos troseddol, trafodwch unrhyw gymorth y gallwch fod ei hangen arnoch gyda chyfreithiwr yr amddiffyniad.
Dioddefwyr a thystion sy’n mynd i’r llys i roi tystiolaeth
Gofynnwch i rywun eich cefnogi yn ystod eich gwrandawiad
Mewn achosion nad ydynt yn droseddol gallwch ofyn i rywun ddarparu cefnogaeth i chi yn ystod eich gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo. Gallant fod yn rhan o sefydliad elusennol neu wasanaeth llywodraeth leol, yn ffrind neu’n aelod o’r teulu. Ni allant fod yn rhywun sy’n ymwneud â’r achos.
Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd y llys neu’r tribiwnlys iddynt ymuno. Ni allant roi cyngor cyfreithiol na siarad ar eich rhan ond gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth ymarferol am y broses.
Trefnu i rywun eich cefnogi yn ystod y gwrandawiad
Dewiswch ym mhle hoffech fod ar gyfer y gwrandawiad
Cyn y gwrandawiad rhaid i chi: * ddewis lle sy’n dawel ac yn breifat * gadael i bobl sy’n rhannu’r lle wybod na ddylid tarfu arnoch yn ystod y gwrandawiad * profi eich offer
Addasiadau rhesymol
Rydym yn gwybod bod angen cymorth ychwanegol ar bobl ag anableddau weithiau. Gall hyn olygu bod angen i ni ddarparu rhywbeth gwahanol fel y gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau yn yr un modd â rhywun heb anabledd. Rydym yn aml yn galw hwn yn addasiad rhesymol.
Os oes angen addasiad rhesymol arnoch chi, dywedwch wrthym gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a anfonwyd atoch. Byddwn yn trafod hyn gyda’r barnwr sy’n gwrando’r achos. Mae barnwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu rhoi’r dystiolaeth orau y gallant ei rhoi, cymryd rhan yn effeithiol a chael gwrandawiad teg.
Sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau angenrheidiol
Cysylltwch â’r llys neu’r tribiwnlys, neu siaradwch â’ch cynrychiolydd cyfreithiol, i sicrhau bod gennych fynediad hawdd at yr holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch ar y diwrnod. Os oes angen rhannu dogfennau ar y diwrnod, bydd y barnwr, yr ynad neu un o swyddogion y llys yn dweud wrthych sut y gallwch eu rhannu neu eu derbyn.
Diwrnod eich gwrandawiad
Paratoi ar gyfer gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo
Byddwch yn barod o leiaf 20 munud cyn y gwrandawiad a gwnewch yn siŵr:
- fod batri’r ddyfais yr ydych am ei defnyddio i ymuno â’r gwrandawiad yn llawn neu bod y ddyfais wedi ei phlygio i mewn
- fod gennych unrhyw ddogfennau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwrandawiad
- fod gennych eich llyfr sanctaidd neu ysgrythur o’ch dewis i dyngu llw arno (os yw’n berthnasol)
- eich bod wedi mynd ag unrhyw beth arall a allai dynnu sylw o’r ystafell, fel ffôn symudol (oni bai eich bod yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwrandawiad)
Os ydych chi’n ymuno trwy fideo, rhaid i chi hefyd wneud y canlynol: * gwisgo fel petaech yn mynd i adeilad llys neu dribiwnlys * bod â rhywbeth plaen y tu ôl i chi, fel wal wag * eistedd gyda golau o’ch blaen, felly nad oes cysgod dros eich wyneb * gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu gweld eich wyneb a’ch ysgwyddau
Os ydych yn arsylwi’r gwrandawiad yn hytrach na chymryd rhan, efallai y gofynnir ichi roi eich camera i ffwrdd.
Yn ystod y gwrandawiad
Mae gwrandawiadau dros y ffôn neu drwy fideo yn dilyn yr un broses â gwrandawiad mewn adeilad llys neu dribiwnlys.
Ar ddechrau’r gwrandawiad, bydd y barnwr neu’r ynad yn egluro beth fydd yn digwydd. Efallai y bydd yn gofyn cwestiynau i chi i sicrhau eich bod chi wedi deall. Mae’n bwysig os nad ydych chi’n deall rhywbeth eich bod chi’n rhoi gwybod i’r barnwr neu’r ynad.
Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth yn ystod y gwrandawiad gofynnir i chi dyngu llw neu wneud addewid sy’n gyfreithiol rwymol (a elwir yn gadarnhad) y bydd eich tystiolaeth yn wir. Nid oes angen defnyddio llyfr sanctaidd neu ysgrythur oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny; os felly bydd angen i chi fod â’r llyfr wrth law.
Eich rôl yn y gwrandawiad
Er mwyn osgoi tarfu ar y gwrandawiad, diffoddwch eich meicroffon os yn bosibl, fel nad yw’r llys neu’r tribiwnlys yn clywed sŵn cefndir na sgwrsio. Efallai y diffoddir eich meicroffon ac y byddwch yn fud i’r gwrandawiad awtomatig, yn dibynnu ar y platfform sy’n cael ei ddefnyddio.
Os ydych chi’n ymuno drwy fideo, cofiwch y bydd pawb yn gallu eich gweld ar y sgrîn a dylech fod yn ymwybodol o iaith y corff ac ymddygiad, p’un a ydych chi’n siarad ai peidio.
Gallwch ofyn i’r barnwr neu’r ynad a oes angen ailadrodd rhywbeth na wnaethoch ei ddilyn na’i ddeall.
Pan fyddwch yn siarad, cofiwch sicrhau bod eich meicroffon ymlaen (dim ar ‘mute’) a chofiwch siarad yn glir.
Gallwch ofyn i’r barnwr neu’r ynad os bydd arnoch angen seibiant yn ystod eich gwrandawiad.
Rheolau’r gwrandawiad
Rhaid i chi drin gwrandawiadau ffôn a fideo mor ddifrifol â phe baent mewn adeilad llys neu dribiwnlys.
Yn ystod y gwrandawiad: * ni ddylech yfed dim ond dŵr * ni ddylech fwyta * ni ddylech ysmygu na defnyddio e-sigaret * dylech ddilyn cyfarwyddiadau’r llys neu’r tribiwnlys * dylech fod ar eich pen eich hun oni bai fod gennych ganiatâd fel arall
Mae recordio fideo neu sain y gwrandawiad, neu dynnu lluniau neu luniau sgrin yn drosedd.
Gallwch gymryd nodiadau ysgrifenedig os dymunwch a gallwch wneud cais am drawsgrifiad pan fydd gwrandawiadau’n cael eu recordio.
Ar ddiwedd eich gwrandawiad
Gall y barnwr neu’r ynad adael yr alwad ffôn neu fideo am gyfnod byr i feddwl am y penderfyniad.
Efallai y bydd yn penderfynu ar y diwrnod, neu anfonir y penderfyniad atoch trwy’r post wedi hynny.
Bydd y barnwr neu’r ynad yn dweud wrthych pryd y gallwch adael y gwrandawiad. Gweler y cyfarwyddyd ar gyfer eich platfform i gael gwybod sut i adael y gwrandawiad.
Dywedwch wrthym am eich profiad
Helpwch ni i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym am eich profiad o fod mewn gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae rhywfaint o’r cyfarwyddyd pwysig ar y dudalen hon hefyd ar gael fel fideo:
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Gorffennaf 2021 + show all updates
-
Removed links to Microsoft Teams and Skype as they are no longer used for video hearings
-
Added instructions on special arrangements and measures.
-
Added signpost and link to professional guidance.
-
Adding a video of the guidance
-
Welsh translation added.
-
First published.