Canllawiau

Carchar Caerwynt

Mae Caerwynt yn garchar i ddynion ac yn sefydliad troseddwyr ifanc (STI) yng nghanol Caerwynt, Hampshire.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Chaerwynt

I ymweld â rhywun yng Nghaerwynt, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad o leiaf 72 awr ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Cysylltwch â Chaerwynt os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Gaerwynt
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd
  • Gallwch chi godi taflen o’r ganolfan ymwelwyr a’r ffurflen sydd ei hangen arnoch chi i hawlio.

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Gallwch chi anfon ymholiadau brys a chanslo i’n cyfeiriad e-bost ymweliadau cymdeithasol: [email protected].

Llinell archebu dros y ffôn: 0345 223 5514
Amseroedd agor y llinell archebu: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 12pm a 1:30pm i 4pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth i ddydd Iau: 2:30pm i 4pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul: 2:15pm i 3:15pm a 3:45pm i 4:45pm
  • Gwyliau banc: dim ymweliadau

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gallwch chi drefnu ymweliadau cyswllt fideo drwy anfon e-bost at [email protected] neu gallwch chi drefnu ymweliad cyfreithiol wyneb yn wyneb drwy anfon e-bost at [email protected]

Slotiau amser cyswllt fideo:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 8:15am i 11:45am (3 slot 1 awr)
  • Prynhawn: 1:45pm i 2:45pm, 3pm i 3:45pm a 4pm i 4:45pm

Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb:

  • Yr heddlu: O ddydd Llun i ddydd Gwener: 8:15am i 11:45am (3 slot 1 awr)
  • Prynhawn unrhyw ymwelydd cyfreithiol: 1:45pm i 2:45pm, 3pm i 3:45pm, 4pm i 4:45pm

Cyrraedd Caerwynt

Dod o hyd i Garchar Caewynt ar fap

Mae Carchar Caerwynt tua hanner milltir o orsaf drenau Caerwynt. Mae gyferbyn ag Ysbyty Sirol Brenhinol Hampshire. Mae bysiau rheolaidd o’r orsaf neu gallwch chi gael tacsi.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd parcio sydd ar gael ar gyfer deiliaid bathodyn glas yn y carchare. Dydyn ni ddim yn cynnig unrhyw le parcio arall ar y safle, felly os byddwch chi’n dod mewn car, bydd angen i chi barcio yn un o feysydd parcio canol y ddinas neu ddefnyddio’r cyfleuster Parcio a Theithio. Mae bysiau’n rhedeg bob 15 munud ac yn stopio y tu allan i’r carchar bron. Cofiwch nad oes gwasanaeth bws parcio a theithio ar ddydd Sul na gwyliau cyhoeddus/gwyliau banc – Holwch ddarparwr y gwasanaeth.

Cysylltwch â Chaerwynt os oes gennych chi anghenion mynediad ac yr hoffech chi drafod eich ymweliad.

Mynd i mewn i Gaerwynt

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen ID ar bob plentyn sy’n ymweld hefyd. Bydd pasport neu dystysgrif geni/mabwysiadu yn cael eu derbyn. Ar gyfer plant o dan 3 oed, gellir derbyn ‘Llyfr Coch’ y GIG hefyd.

Amgylchiadau Eithriadol

Os nad oes gennych chi ID o’r rhestrau uchod, efallai byddwch chi’n dal yn gallu ymweld drwy gael caniatâd y carchar ymlaen llaw. Cysylltwch â’r carchar yn uniongyrchol i drefnu hyn drwy [email protected].

Mae’n rhaid i bob ymwelydd fynd drwy’r broses gât uwch wrth fynd i mewn i ymweliadau. Bydd hyn yn cynnwys rhai unrhyw eitemau sy’n mynd i’r neuadd ymweliadau drwy beiriant pelydr-x felly ni chaniateir hylifau gan gynnwys poteli babi. Fodd bynnag, gallwch chi ddod â llaeth powdr a gwneud y botel yn y neuadd ymweliadau os oes angen, byddwch chi hefyd yn pasio drwy synhwyrydd metel cyn cael chwiliad ‘rwbio i lawr’, bydd hyn yn cynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae cod gwisg yng Ngharchar Caerwynt ac os nad yw’n cael ei ddilyn, mae’n bosibl y cewch eich troi i ffwrdd o’ch ymweliad. Mae hyn yn cynnwys:

  • dim jîns wedi’u rhwygo (ni waeth pa mor fawr/bach yw’r rhwygiadau)
  • gellir gwisgo siwmperi gyda hwd heb yr hwd i fyny
  • siwmperi wedi’u torri’n isel neu grysau T, rhaid i bob top orchuddio’r bronnau a’r canol a pheidio â bod yn dryloyw, rhaid gorchuddio’r bronbant yn briodol bob amser
  • dillad pêl-droed
  • topiau wedi’u torri’n isel
  • ffrog/sgertiau ddim yn uwch na 2 fodfedd uwchben y pen-glin
  • ni ddylai trowsus byr fod yn fyrrach na 2 fodfedd uwchben y pen-glin
  • siacedi â sip
  • dim dillad isaf sy’n dangos
  • rhaid gwisgo dillad isaf bob amser
  • dim hetiau na sgarffiau oni bai eu bod yn grefyddol

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i’r neuadd ymweliadau yng Nghaerwynt. Bydd yn rhaid i chi adael eich holl eiddo mewn locer a fydd yn cael ei ddarparu.

Mae gennym ni hefyd ddarpariaeth i ymwelwyr adael pramiau mewn man diogel sydd o dan do.

Cyfleusterau ymweld

Mae’r elusen Spurgeons yn rhedeg y neuadd ymwelwyr a chwarae yng Nghaerwynt.

Mae’r Ganolfan Ymwelwyr ar agor ar gyfer pob ymweliad o 1pm ymlaen ac mae’n cynnig lle cynnes a chroesawgar gydag ystafell chwarae i blant, lluniaeth am ddim a chyfleusterau tŷ bach a newid babanod, yn ogystal â mynediad at wybodaeth ac adnoddau am wasanaethau cynnal cenedlaethol a lleol os oes angen.

Mae’r Bar Te ar agor yn ystod pob sesiwn o ymweliadau, sy’n gwerthu amrywiaeth o ddiodydd a byrbrydau. Mae pob ymwelydd yn cael mynd â hyd at £10 mewn newid mân i’r neuadd ymweld gyda nhw, ond cofiwch y bydd angen bwyta unrhyw gynnyrch a fydd yn cael ei brynnu yn yr ystafell gan nad oes gan garcharorion hawl i fynd ag unrhyw beth yn ôl gyda nhw ar ôl yr ymweliad.

Mae Spurgeons, gyda chefnogaeth eu gwirfoddolwyr, hefyd yn rhedeg y man chwarae i blant yn y neuadd ymweliadau, ar gyfer plant rhwng 2 a 12 oed er mwyn sicrhau bod plant sy’n ymweld yn gallu cael gafael ar adnoddau drwy gydol eu hymweliad. Hefyd, mae bagiau/teganau babi y tu allan i’r ystafell chwarae gydag eitemau y gellir mynd â nhw i’r bwrdd i ddiddanu’r plant sy’n ymweld. Mae ganddyn nhw hefyd gadeiriau uchel a bownswyr babanod y gellir eu defnyddio yn ystod ymweliadau.

Mae toiledau a chyfleusterau newid babanod ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr allanol. Nid oes cyfleusterau toiled na chyfleusterau newid babanod yn y Neuadd Ymweliadau ei hun.

Diwrnodau teulu

Mae Spurgeons yn rhedeg gwasanaeth cefnogi teuluoedd, ‘Invisible Walls’ yng Ngharchar Caerwynt.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • diwrnodau teulu, ymweliadau â babanod, a chlwb gwaith cartref
  • cyfeirio at asiantaethau mewnol ac allanol
  • Tadau Llyfr Stori
  • pecynnau hunanastudio
  • cymorth un-i-un pan mae nifer o asiantaethau’n ymwneud â gofal y teulu

Yn ogystal â’r uchod, mae’r canlynol ar gael i’r rheini yn y ganolfan ailsefydlu

  • cyrsiau a gweithdai magu plant
  • cyfarfodydd ailsefydlu lle bo hynny’n addas

Mae’r carcharorion eu hunain yn cael mynediad at bob un o’r uchod. Gall teuluoedd gyfeirio tadau at ein gwasanaeth drwy gysylltu ag [email protected] gyda’u henw llawn a’u rhif carcharor os yw’n hysbys.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Nghaerwynt

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Nghaerwynt.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yng ngharchar Caerwynt.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd y gallan nhw eu defnyddio ar unrhyw adeg os oes ganddyn nhw gredyd pin. Dim ond unwaith yr wythnos y gellir prynu credyd pin drwy system ffreutur y carchar.

Mae angen i bob carcharor lenwi cais ffôn pin i wneud cais am rifau. Ar ôl i’r rhifau gael eu hawdurdodi, sy’n gallu cymryd hyd at 10 diwrnod, dim ond y rhifau hyn y bydd carcharorion yn gallu eu ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Nghaerwynt drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Nid oes cyfyngiad ar faint o negeseuon e-bost y gallwch chi eu hanfon, er mwyn derbyn ymateb i e-bost, rhaid i chi ddewis yr opsiynau sy’n gofyn am ffi fach y mae’n rhaid i’r anfonwr ei thalu.

Llythyrau

Gallwch chi anfon llythyrau at garcharor.

Gall carcharorion anfon dau lythyr am ddim bob wythnos. Bydd angen stamp postio ar unrhyw lythyrau ychwanegol yr hoffen nhw eu hanfon.

Rhaid i bob llythyr gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio.

Anfon arian

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyflym ac am ddim i anfon arian at garcharor.

www.gov.uk/send-prisoner-money

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • Rhif carcharor
  • Dyddiad geni

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd y carchar yn edrych ar hyn yn unigol.

Rhoddion

Cysylltwch â Chaerwynt i gael gwybodaeth am anfon eiddo at garcharorion.

Mae carcharorion sy’n dod atom ni o’r llysoedd yn cael derbyn parsel dillad yn ystod eu 28 diwrnod cyntaf o fod yma. Os yw carcharor yn cael ei drosglwyddo atom ni o garchar arall, nid oes ganddyn nhw hawl i barsel dillad.

Rhaid i enw a chyfeiriad yr anfonwr fod wedi’u hysgrifennu’n glir ar y parsel a bod enw a rhif y carcharor arno.

Beth maen nhw’n cael ei dderbyn:

  • Dim dillad du na gwyn
  • Dim dillad â hwd/dillad tramgwyddus/dillad â phadiau/dillad milwrol/timau chwaraeon/gwledydd
  • Dim hetiau, dim ond penwisgoedd crefyddol a ganiateir
  • 10 top (Crysau chwys/Crysau T)
  • 5 gwaelod (trowsus, tracwisgoedd)
  • 1 gŵn nos heb hwd
  • 2 dywel
  • 10 pâr o ddillad isaf a sanau
  • 1 pâr o drainers
  • 1 pâr o fflip fflops/sleidwyr

Bywyd yng Nghaerwynt

Mae Carchar Caerwynt wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Nod y carchar yw darparu gwasanaeth i garcharorion sy’n ofalgar, yn garedig ac yn dosturiol, gan eu galluogi i deimlo’n aelodau gwerthfawr o gymuned y carchar.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yng Nghaerwynt hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd carcharor yn cyrraedd Caerwynt am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn neu bydd galwad lles yn cael ei darparu ar ei ran os bydd yn dod o dan ddeddfau diogelu’r cyhoedd. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Yn ystod y broses dderbyn, gofynnir nifer o gwestiynau i bob carcharor a fydd yn galluogi’r swyddogion i helpu i wneud eu noson gyntaf mor ddiogel â phosibl i bawb.

Cynefino

Mae pob carcharor sy’n cyrraedd Winchester yn cael sesiwn gynefino y noson gyntaf. Mae’r sesiwn gynefino hon yn cynnwys llenwi unrhyw waith papur perthnasol a bydd staff yn ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw a fydd yn ein galluogi i’w cefnogi tra eu bod nhw yma.

Ar ôl eu noson gyntaf, bydd pob carcharor yn cael sesiwn gynefino ail gam. Bydd y sesiwn gynefino hon yn cael ei chynnal gan garcharorion a byddan nhw’n mynd drwy bopeth y bydd angen iddyn nhw ei wybod tra eu bod nhw yma yng Nghaerwynt.

Yn ystod y broses hon, byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • Iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • Unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • Datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • Mae Spurgeons, elusen sy’n rhedeg Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd, yn cefnogi tadau yn y ddalfa

Llety

Mae tua 690 o garcharorion yng Nghaerwynt. Mae’r prif garchar wedi’i rannu’n bedair adain. Mae celloedd dwbl ac unigol ar gael ar bob adain.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at addysg sy’n cael ei ddarparu gan Goleg Milton Keynes, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau lle gall carcharorion ennill cymwysterau.

Mae gwaith ar gael ledled y carchar mewn meysydd fel ailgylchu, cydosodiad ysgafn, tecstilau, arlwyo a TG. Gall carcharorion hefyd weithio ar eu hadenydd fel glanhawyr, gan helpu i weini prydau bwyd ac fel peintwyr.

Rhyddhau dros dro

Gellir cynnig rhyddhau ar drwydded dros dro mewn rhai amgylchiadau.

Sefydliadau y mae Caerwynt yn gweithio gyda nhw

Mae Caerwynt yn gweithio gydag Ingeus, i helpu carcharorion i baratoi ar gyfer eu rhyddhau. Maen nhw’n darparu cefnogaeth gyda phethau fel tai, cyflogaeth, cyllid a pherthnasoedd.

Mae cyfleoedd i garcharorion gymryd rhan yn Saints 4 Sport. Mae’r rhaglen yn defnyddio chwaraeon i helpu cyfranogwyr i roi trefn a phwrpas yn ôl i’w bywydau.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01962 723 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01962 723 320 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at [email protected] neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi gŵyn am ymweliadau gallwch chi gysylltu â [email protected]

Ar gyfer pob cwyn arall, ysgrifennwch at y Llywodraethwr yn y cyfeiriad isod.

Arolygiadau annibynnol

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Caerwynt mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Chaerwynt

Llywodraethwr: James Bourke

Prif switsfwrdd: 01962 723 000
Tîm iechyd meddwl cymunedol: 01962 723 000
Ffacs: 01962 723 001 (prif swyddfa) neu 01962 723 108 (Uned Westhill)
Gwybodaeth am gostau galwadau

Cyfeiriad

HMP/YOI Winchester

Romsey Road

Winchester

SO22 5DF

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Hydref 2024 + show all updates
  1. Updated information on how to book your first visit, visiting facilities information and dress code.

  2. Secure video calling update.

  3. Updated visiting information

  4. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  5. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  6. Updated visiting information: Visits have been suspended.

  7. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  8. Updated physical contact guidance

  9. Updated the booking line number.

  10. New visiting times and booking information added.

  11. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  12. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  13. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  14. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  15. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  16. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  17. First published.

Print this page