Gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol
Gallwch wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol ar-lein er mwyn gweld:
- yr hyn yr ydych wedi’i dalu hyd at ddechrau’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024)
- unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’u cael
- a oes bylchau o ran cyfraniadau neu gredydau sy’n golygu bod yna flynyddoedd nad ydynt yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth (nid ydynt yn ‘flynyddoedd cymhwysol’)
- a allech elwa ar dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau
- sut bydd y rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth yn newid os byddwch yn dewis talu cyfraniadau gwirfoddol
- a allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol ar-lein, a faint y bydd hyn yn ei gostio
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gallwch ofyn am ddatganiad Yswiriant Gwladol ar bapur:
- ar-lein, os ydych yn byw yn y DU (yn agor tudalen Saesneg)
- ar-lein neu drwy’r post os ydych yn byw tramor (yn agor tudalen Saesneg)
- dros y ffôn
Bydd angen i chi roi gwybod pa flynyddoedd yr ydych am i’ch datganiad eu cwmpasu. Ni allwch ofyn am ddatganiadau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol na’r un flaenorol.
Gallwch hefyd ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Os ydych wedi talu Yswiriant Gwladol ar Ynys Manaw
Ni fydd eich cofnod yn dangos cyfraniadau Yswiriant Gwladol o Ynys Manaw os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2016.
Anfonwch e-bost i swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw i gael gwybod faint yr ydych wedi’i dalu.
Swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw
[email protected]
Gallwch hefyd anfon llythyr i’r swyddfa.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol / National Insurance contributions
Income Tax Division
Government Office
Bucks Road
Douglas
Isle of Man
IM1 3TX