Gwneud cais am wybodaeth am gerbyd neu ei geidwad cofrestredig gan DVLA
Gofyn am wybodaeth amdanoch chi neu’ch cerbyd
Gallwch ofyn am wybodaeth sydd gan DVLA:
- amdanoch chi
- am eich cerbyd presennol
- am gerbyd a arferai gael ei gofrestru yn eich enw chi
Gelwir hyn yn gais am fynediad at ddata gan y testun (SAR). Mae’n rhad ac am ddim.
Efallai y bydd angen gwybodaeth arnoch o’ch trwydded yrru a’ch llyfr log cerbyd (V5CW).
Gallwch hefyd weld eich cofnod gyrru am restr o’ch gwaharddiadau gyrru, pwyntiau cosb a gwaharddiadau.
Gwneud cais drwy e-bost
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen ‘gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) i DVLA’.
Anfonwch hi drwy e-bost i [email protected].
Gwneud cais drwy’r post
Argraffwch a llenwch y ffurflen ‘gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) i DVLA’.
Anfonwch hi i DVLA.
Ymholiadau gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR)
DVLA
Abertawe
SA99 1BX
Peidiwch â defnyddio’r manylion hyn ar gyfer ymholiadau cyffredinol - cysylltwch â DVLA yn lle.
Gallwch lawrlwytho wybodaeth bellach am wneud cais am wybodaeth gan DVLA.