Amnewid trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio

Sgipio cynnwys

Gwneud cais dros y ffôn neu drwy’r post

Gallwch hefyd wneud cais i amnewid eich trwydded dros y ffôn neu drwy’r post.

Gwneud cais dros y ffôn

Gallwch gysylltu â DVLA i wneud cais dros y ffôn os:

  • oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

  • nad oes unrhyw un o’ch manylion wedi newid

Ni allwch wneud cais dros y ffôn os yw’ch trwydded wedi’i difetha, neu os yw’n dod i ben mewn llai na 56 diwrnod (90 diwrnod os yw’n dod i ben am resymau meddygol).

Gwneud cais drwy’r post

Ar gyfer trwydded gar neu feic modur, llenwch ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’, ar gael o’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post.

Ar gyfer trwydded yrru lori neu fws, llenwch ffurflen D2W ‘Cais am drwydded yrru lori/bws’, ar gael o’r gwasanaeth archebu ffurflenni DVLA.

Yna bydd angen ichi anfon eich cais i’r cyfeiriad ar y ffurflen ynghyd â’r ffi gywir (a ddangosir hefyd ar y ffurflen).

Os yw’ch enw wedi newid bydd hefyd angen ichi anfon dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau hyn.

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Bydd hefyd angen ichi: