Hawlio budd-daliadau os ydych yn byw, symud neu’n teithio dramor
Budd-daliadau salwch ac anaf
Tâl salwch statudol (SSP)
Gallwch gael SSP os ydych yn gymwys ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gweithio am gyflogwr DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir
- rydych yn gweithio y tu allan i’r AEE ac mae’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich cyfer
Cysylltwch â’ch cyflogwr i hawlio SSP.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Gallwch gael ESA am hyd at 4 wythnos os ydych yn mynd dramor. Siaradwch â’ch Canolfan Byd Gwaith lleol cyn i chi fynd.
Mynd dramor am fwy na 4 wythnos ond llai na blwyddyn
Rhowch wybod i’ch Canolfan Byd Gwaith lleol os ydych yn mynd dramor am fwy na 4 wythnos.
Gallwch barhau i dderbyn ESA yn Seiliedig ar Gyfraniadau am hyd at 26 wythnos os ydych yn mynd dramor am driniaeth feddygol am eich hun neu’ch plentyn.
Nid oes ots i ba wlad rydych chi’n mynd.
Mynd dramor am fwy na blwyddyn
Efallai cewch ESA yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn yr AEE neu’r Swistir os ydych:
- yn gymwys
- wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol
- wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Darganfyddwch a allwch gael ESA yn seiliedig ar Gyfraniadau yn yr AEE neu’r Swistir.
Help a chyngor ar ESA
Canolfan Bensiwn Ryngwladol
Ffôn +44 (0) 191 206 9390
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth cyfnewid video os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)
Os ydych yn cael Budd-dal Anafiadau Diwydiannol ar gyfer salwch a damweiniau sy’n gysylltiedig â gwaith, gallwch barhau i gael hwn dramor.
Cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch budd-dal os ydych yn y DU o hyd, neu’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramor.
Help a chyngor ar IIDB
Canolfan Pensiwn Rhyngwladol
Ffôn +44 (0) 191 206 9390
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth cyfnewid video os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn