Hysbysiadau Gweithdrefn Un Ynad
Os yw unigolyn neu gwmni wedi’i gyhuddo o fân drosedd, yna gall ynad benderfynu ar yr achos heb i neb orfod mynd i’r llys. Gelwir hyn yn ‘gweithdrefn un ynad’.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwch yn cael hysbysiad gweithdrefn un ynad pan fyddwch yn cael eich cyhuddo. Bydd gennych 21 diwrnod o’r dyddiad a ddangosir ar yr hysbysiad i ymateb.
Bydd ynad yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’ch achos heb i chi gael cyfle i ddweud eich dweud os na fyddwch yn ymateb i’ch hysbysiad o fewn 21 diwrnod. Gallech eich cael yn euog neu gael dirwy.
Mae’r rheolau yn wahanol yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i ymateb i’ch hysbysiad
Bydd eich hysbysiad yn dweud wrthych pwy a ddygwyd yr achos yn eich erbyn (er enghraifft, yr heddlu neu Trwyddedu Teledu), sut i gyflwyno ple, ac os gallwch gyflwyno ple ar-lein.
Pan fyddwch yn ymateb bydd angen i chi ddweud a ydych chi’n pledio’n euog neu’n ddieuog.
Pledio’n euog
Os byddwch yn ymateb ac yn pledio’n euog bydd swm eich dirwy hyd at 33% yn llai.
Gallwch ddewis os ydych eisiau mynd i’r llys neu beidio.
Os na fyddwch yn mynd i’r llys, bydd yr ynad yn gwneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth sydd ganddynt. Byddwch yn cael llythyr gyda phenderfyniad yr ynad.
Gallwch fynd i’r llys os ydych eisiau rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i’r ynad. Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych pa bryd i fynd i’r llys.
Gallwch roi gwybodaeth i’r ynad am eich amgylchiadau - gelwir hyn yn ‘lliniariad’. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallwch gael dirwy neu ddedfryd llai.
Pledio’n ddieuog
Mae’n rhaid i chi fynd i’r llys a rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i’r ynad. Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych pa bryd i fynd i’r llys.
Os na fyddwch yn ymateb i’r hysbysiad gweithdrefn un ynad
Os na fyddwch yn ymateb i’r hysbysiad o fewn 21 diwrnod, bydd yr ynad yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’ch achos heb i chi gael cyfle i ddweud eich dweud.
Gall hyn olygu os byddwch yn eich cael yn euog a’ch dedfrydu, ni fydd lleihad yn y ddedfryd am bledio’n euog. Gall eich dirwy a’ch pwyntiau cosb fod yn uwch hefyd. Gall arian gael ei gymryd o’ch cyflog neu’ch budd-daliadau.
Gallwch ofyn i’ch achos gael ei ail-agor os nad oeddech yn gwybod amdano. Fel arfer bydd angen i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod i chi ddod i wybod am eich achos.
Os ydych angen cymorth neu gyngor
Mae gan Advicenow arweiniad manwl ar sut i ddelio â hysbysiad gweithdrefn un ynad.
Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol.
Os ydych angen cymorth i ymateb i’ch hysbysiad ar-lein
Bydd eich hysbysiad yn dweud wrthych os gallwch gyflwyno ple ar-lein a sut i wneud hynny.
Os ydych angen mwy o gymorth, mae pwy y dylech gysylltu â nhw yn dibynnu ar pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch.
Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i ymateb
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau 9am – 5pm, dydd Gwener 9am – 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd
We Are Group
[email protected]
Rhif ffôn: 03300 160051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecsiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau
Gwybodaeth am achosion
Gallwch ffonio Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd i gael gwybodaeth am achos, gan gynnwys canlyniad achos.
Byddwch angen rhif yr achos – mae hwn ar eich hysbysiad Gweithdrefn Un Ynad.
Os ydych yn aelod o’r cyfryngau, gallwch gael gwybodaeth am achosion a gofyn i restr o ganlyniadau gael ei hanfon atoch. Byddwch angen manylion eich cerdyn gwasg y DU.
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau 9:00am – 5:00pm, dydd Gwener 9:00am – 4:30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau