Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Sgipio cynnwys

Cynyddu neu etifeddu pensiwn y wladwriaeth gan eich priod neu bartner sifil

Efallai y gallwch:

  • gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy eich priod neu’ch partner sifil
  • etifeddu peth o Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu’ch partner sifil pan fyddant yn marw

Mae’r swm ychwanegol y byddwch yn ei gael yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil.

Cynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy eich priod neu’ch partner sifil

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai y gallwch gael hyd at £101.55 yr wythnos os yw naill ai:

  • nid ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • nid ydych yn cael y swm llawn (£101.55 yr wythnos)

Gallwch ond cael cynnydd os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 a bod eich priod neu’ch partner sifil wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth naill ai:

  • cyn 6 Ebrill 2016, ac maent yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ac mae ganddynt un neu fwy o flynyddoedd cymhwyso o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol cyn 6 Ebrill 2016 (hyd yn oed os nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Pensiwn newydd y Wladwriaeth

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cynnydd, hyd yn oed os:

  • nad yw eich priod neu bartner sifil wedi gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth

-oeddech yn weddw, wedi ysgaru neu wedi diddymu eich partneriaeth sifil yn ystod y 12 mis diwethaf

Cewch unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu Fudd-dal Ymddeol Graddedig, yn seiliedig ar eich cyfraniadau eich hun, ar ben y cynnydd gan eich priod neu’ch partner sifil.

Os ganwyd eich priod neu’ch partner sifil cyn 6 Ebrill 1950

Gallwch ond gael y cynnydd os ydych yn fenyw sy’n briod ag un ai:

  • dyn
  • menyw a newidiodd ei rhyw yn gyfreithiol o fod yn ddyn i fod yn fenyw yn ystod eich priodas

Sut i wneud cais

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y cynnydd yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i gael y cynnydd os ydych yn fenyw briod a:

  • gwnaeth eich priod gais am eu Pensiwn y Wladwriaeth cyn 17 Mawrth 2008
  • gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn eich priod

Bydd angen i chi hefyd gysylltu â’r gwasanaeth Pensiwn os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich priod neu bartner sifil wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond heb wneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth eto
  • roeddech yn weddw, wedi ysgaru neu wedi diddymu eich partneriaeth sifil yn ystod y 12 mis diwethaf

Os nad ydych yn cael y cynnydd ond yn meddwl eich bod yn gymwys, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn.

Etifeddu rywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth o’ch priod neu’ch partner sifil pan fyddant yn marw

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, efallai y gallwch etifeddu peth o Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil pan fyddant yn marw.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i wirio’r hyn y gallwch ei hawlio.

Efallai y gallwch gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy ddefnyddio eu blynyddoedd cymhwyso os nad ydych eisoes yn cael y swm llawn o £169.50 yr wythnos.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu etifeddu rhan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu Fudd-dal Ymddeoliad Graddedig eich priod neu’ch partner sifil.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 mae gwahanol reolau yn berthnasol i chi.

Gallwch wirio pa etifeddiaeth y gallai fod gennych hawl iddo yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil.

Os gohiriodd eich priod neu’ch partner sifil eu Pensiwn y Wladwriaeth

Os gwnaeth eich priod neu’ch partner sifil ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth a chronni swm ychwanegol, fel rheol gallwch hawlio Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu gael cyfandaliad. Mae rhaid i chi beidio â bod wedi ailbriodi na ffurfio partneriaeth sifil newydd.

Os gwnaethant ohirio am lai na 12 mis, dim ond Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y gallwch ei gael. Ni allwch gael cyfandaliad.

Dim ond ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Ychwanegiad Pensiwn y Wladwriaeth

Os gwnaeth eich priod neu’ch partner sifil ychwanegu at eu Pensiwn y Wladwriaeth (rhwng 12 Hydref 2015 a 5 Ebrill 2017), efallai y gallwch etifeddu rhywfaint neu’r cyfan o’u ychwanegiad.