Premiymau anabledd

Sgipio cynnwys

Beth fyddwch yn ei gael

Gallwch gael premiwm anabledd ar ei ben ei hun. Efallai y byddwch yn cael premiwm anabledd difrifol neu uwch hefyd os ydych yn gymwys ar eu cyfer.

Os cewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, ni allwch gael y premiwm anabledd, ond efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y premiymau difrifol a uwch.

Premiwm anabledd

Byddwch yn cael:

  • £42.50 yr wythnos ar gyfer person sengl
  • £60.60 yr wythnos ar gyfer cwpl

Premiwm anabledd difrifol

Byddwch yn cael:

  • £81.50 yr wythnos ar gyfer person sengl
  • £163.00 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw’r ddau ohonoch yn gymwys

Bydd rhai cyplau yn gymwys ar gyfer y cyfradd is o £81.50 yr wythnos yn lle.

Premiwm anabledd uwch

Byddwch yn cael:

  • £20.85 yr wythnos ar gyfer person sengl
  • £29.75 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw o leiaf un ohonoch yn gymwys

Sut cewch eich talu

Mae’r holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau yn cael eu talu i gyfrif fel eich cyfrif banc.

Mae yna gyfyngiad ar gyfanswm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl 16 oed i dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ei gael. Gelwir hyn yn Cap ar fudd-daliadau.